#EwchArleinDoligYma
Nid yw 15% o oedolion Cymru ar-lein o hyd.
Wrth i ni agosáu at y Nadolig, mae’n anghredadwy bod 15% o oedolion Cymru’n methu defnyddio’r rhyngrwyd o hyd. Mae hynny’n golygu bod bron un o bob saith o bobl yn cael eu hatal rhag elwa ar y buddion rydym ni oll yn eu cymryd yn ganiataol ar yr adeg hon o’r flwyddyn, trwy fod ar-lein:
- Arbed amser ac arian trwy siopa ar y rhyngrwyd.
- Gweld teulu, ffrindiau ac anwyliaid sy’n byw’n bell trwy raglenni sgwrsio trwy fideo rhad ac am ddim, fel Skype.
- Clicio botwm i gael at y cyfoeth o wybodaeth am bethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
- Dal i fyny ar eich hoff raglenni teledu adeg y Nadolig, neu wylio hysbyseb diweddaraf John Lewis y mae pawb yn siarad amdani.
- Rhannu digwyddiadau ac atgofion ar unwaith trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Snapchat, Instagram a Twitter.
Ni allwn bontio’r bwlch hwn o 1 o bob 7 ar ein pennau ein hunain. Hoffem i Gymru fod yn wlad lle mae gan bob oedolyn y gallu i fynd ar-lein a chael mynediad at gyfrifiadur. Ond mae arnom angen sefydliadau fel eich un chi, sydd ar y rheng flaen yn cynorthwyo pobl o ddydd i ddydd, i wireddu’r weledigaeth hon. A pha ffordd well o wneud hynny na thrwy gefnogi ein hymgyrch #EwchArleinDoligYma.
I’ch cynorthwyo chi, rydym ni wedi cynhyrchu pecyn ymgyrch #EwchArleinDoligYma
- Poster A3
- Poster A3 Golygu
- Graffig tudalen flaen Facebook / Twitter
- Awgrymiadau am negeseuon a thrydariadau
- Canllaw i’r 5 awgrym gorau ar gyfer helpu rhywun #EwchArleinDoligYma
- Bathodyn llofnod e-bost
Diolch a Nadolig Llawen!