Neidiwch i’r prif gynnwys

Gall adnoddau iechyd digidol fod yn effeithiol iawn wrth gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl

Fel rhan o'n ffocws am y mis ar gynhwysiant digidol ac iechyd meddwl, fe wnaethom ni gyfweld â Bob Gann, awdur Cynhwysiant Digidol ac Iechyd yng Nghymru

Pam mae gennych chi ddiddordeb mewn technolegau digidol ac iechyd meddwl?

Mae gen i ddiddordeb ers amser maith yn y modd y gall adnoddau digidol alluogi pobl i gymryd rôl fwy gweithredol yn eu gofal eu hunain a chymryd mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain. Fe wnes i greu’r wefan GIG genedlaethol gyntaf yn Lloegr mor bell yn ôl â 1999, ac roeddwn i’n gyfarwyddwr strategaeth ar gyfer www.nhs.uk am nifer o flynyddoedd. Y llynedd roeddwn yn falch iawn o wneud yr ymchwil ar gyfer adroddiad Canolfan Cydweithredol Cymru ar Gynhwysiant Digidol ac Iechyd yng Nghymru.

Ar lefel bersonol, fel pawb mae gen i ffrindiau a theulu sydd wedi profi problemau iechyd meddwl. Yn benodol, cymerodd fy mrawd iau ei fywyd chwe blynedd yn ôl ar ôl cyfnod fel claf mewnol mewn uned iechyd meddwl.

Yn eich ymchwil, beth sydd wedi dod i’r amlwg i awgrymu y gall technolegau digidol fod o gymorth gyda iechyd meddwl pobl?

Mae tystiolaeth dda y gall adnoddau iechyd digidol fod yn effeithiol iawn wrth gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae Canllawiau NICE yn dangos y gall therapïau fel therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein (CBT) gyflawni canlyniadau tebyg i therapi wyneb yn wyneb. Mae darparu’r un cynnwys therapi ar fformat ar-lein yn gwella mynediad at therapïau seicolegol (yn aml mae rhestrau aros ar gyfer therapïau wyneb yn wyneb, tra yng Nghymru efallai y bydd anawsterau penodol wrth deithio i apwyntiadau). Mae’n well gan lawer o bobl gael mynediad i therapi fel hyn, yn eu hamser eu hunain ac yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’n bosibl mai’r rhai fyddai’n elwa fwyaf o dechnoleg ddigidol i gefnogi eu hiechyd meddwl yw’r rhai sydd lleiaf tebygol o fod ar-lein. Sut fyddech chi’n awgrymu mynd i’r afael â hyn?

Mae problemau iechyd meddwl yn aml yn mynd law yn llaw â phroblemau cymdeithasol gan gynnwys incwm isel, diweithdra, digartrefedd, ac ynysu cymdeithasol. Mae pobl sy’n profi’r mathau hyn o anfantais gymdeithasol yn llawer llai tebygol o fod ar-lein na gweddill y boblogaeth. Felly mae gennym “gyfraith gofal gwrthdro digidol” yn ein cymdeithas heddiw gyda’r bobl a allai elwa fwyaf o adnoddau a gwasanaethau iechyd digidol y lleiaf tebygol o fod ar-lein.

Pan oeddwn i’n llunio fy adroddiad ar Gynhwysiant Digidol ac Iechyd yng Nghymru, fe wnes i ddod ar draws enghreifftiau ymarferol gwych o sut gallwn fynd i’r afael â’r rhaniad digidol hwn a chynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl i fanteisio ar dechnolegau digidol.

Gwelais sut mae Cymunedau Digidol Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid (gan gynnwys Mind, Mental Health Matters Wales, Cymdeithas Ponthafren a Chymdeithas Tai Merthyr Tudful) i ddarparu mynediad i dechnolegau digidol a chefnogaeth ar gyfer sgiliau a hyder digidol i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Bu Cymunedau Digidol Cymru o gymorth i Mental Health Matters Wales drwy ddarparu offer y mae modd ei ddefnyddio gyda’i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn lleoliadau cymunedol. Darparodd Cymunedau Digidol Cymru liniadur, iPad, bysellfwrdd diwifr a seinyddion Bluetooth i MHMW. Mae defnyddwyr gwasanaethau bellach yn mynd ar-lein i siopa, chwilio cyffredinol, cofrestru i fynd ar gyrsiau, i gael gwybodaeth gan y GIG ac i ymdrin ag atgyfeiriadau i asiantaethau eraill.

Mae Mind Dyffryn Clwyd wedi hyfforddi gwirfoddolwyr i fod yn hyrwyddwyr digidol. Mae elusen iechyd meddwl yng Nghaerffili, Gofal, wedi arwyddo’r Siarter Cynhwysiant Digidol ac wedi gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i ddarparu hyfforddiant i staff, gan ddangos iddynt sut i gynorthwyo pobl i fynd ar-lein.

Sut mae modd i ddarparwyr gwasanaethau iechyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau digidol sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl?

Mae cymaint o adnoddau ac apiau digidol iechyd meddwl ar gael. Mae dros 300,000 o apiau iechyd ar gyfer Apple ac Android. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amcangyfrif bod 30% o’r holl apiau iechyd ar gyfer iechyd meddwl – felly mae hynny oddeutu 100,000. Sut mae modd i weithwyr iechyd proffesiynol, heb sôn am gleifion a defnyddwyr gwasanaethau, gael y wybodaeth ddiweddaraf a dewis a dethol rhwng y gwych a’r gwachul?

Mae’r GIG yn Lloegr wedi bod yn datblygu Llyfrgell Apiau GIG o adnoddau ac apiau digidol â sicrwydd ansawdd. Mae’r holl apiau a gyhoeddwyd ar y llyfrgell wedi mynd drwy broses asesu a gynlluniwyd gan adolygwyr arbenigol i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn gweithio’n effeithiol. Ar hyn o bryd mae Llyfrgell Apiau’r GIG yn cynnwys 17 o apiau iechyd meddwl, er bod apiau newydd yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd.

Mae’r GIG bellach yn gweithio gyda sefydliad annibynnol, ORCHA, sydd wedi datblygu eu llyfrgell apiau eu hunain. Mae gan lyfrgell apiau ORCHA lawer mwy o apiau iechyd meddwl felly ewch i’r wefan honno hefyd.

Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw apiau, gwefannau neu ddyfeisiau penodol a all helpu pobl gyda’u hiechyd meddwl a’u lles?

Mae Llyfrgell Apiau’r GIG yn cynnwys rhai o’r adnoddau iechyd meddwl digidol mwyaf adnabyddus, fel Big White Wall, Silver Cloud ac IESO. Efallai na fydd rhai o’r rhain ar gael ym mhob rhan o’r wlad. Mae platfform CBT ar-lein Silver Cloud yn cael ei gyflwyno yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae aelodau o fy nheulu yn frwdfrydig ynghylch apiau dyddiadur megis Moodpath a Drink Less sy’n eich helpu i gadw llygad ar eich hwyliau a beth allai fod yn eu dylanwadu.

Yn fy ngwaith, rwy’n hoff iawn o The Mental Elf sy’n rhoi gwybodaeth i mi am yr ymchwil ddiweddaraf a’r dystiolaeth orau ar iechyd meddwl. O bryd i’w gilydd mae Mental Elf yn trefnu Mental Health Jukebox y gall pobl gyfrannu awgrymiadau o gerddoriaeth iddo, a miwsig maen nhw wedi cael budd, cysur neu ysbrydoliaeth ohono. Caiff awgrymiadau eu dethol i greu rhestr chwarae awr o hyd. Fel un sy’n dwlu ar gerddoriaeth rwy’n falch eu bod nhw wedi cynnwys nifer o’m hawgrymiadau. Fodd bynnag, ‘dydw i ddim wedi ei weld yn ddiweddar.

Yn olaf, pe bai gennych chi’r adnoddau i ddatblygu un darn o dechnoleg ddigidol i gefnogi iechyd meddwl pobl, beth fyddai hynny, a pham?

Pe gallem wneud un peth, hoffwn weld technoleg ddigidol yn cael ei rhoi ar waith er mwyn atal trychineb a gwastraff ofnadwy hunanladdiad. Yng Nglannau Mersi, mae’r Zero Suicide Alliance yn datblygu adnodd atal hunanladdiad digidol, gan gasglu arferion gorau a dysg o bob cwr o’r DU a thramor (gan gynnwys Prifysgol Stanford yn UDA). Mae’r gwaith hwn yn gwneud pethau clyfar gyda’r defnydd o ddadansoddiadau data i ragweld risg hunanladdiad o’r iaith mae pobl yn ei defnyddio yn eu cyfathrebiadau digidol – negeseuon e-bost, cyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed galwadau ffôn – a nodi peryglon posibl (wrth gwrs gyda chaniatâd y person). Mae modd atal hunanladdiad ac mae’n gyffrous gweld beth allai technoleg ddigidol ei wneud i