Neidiwch i’r prif gynnwys

Wythnos Gwirfoddolwyr – Grym gwirfoddolwyr digidol yng Nghymru

Gan Mark Smith, Swyddog Marchnata, Cymunedau Digidol Cymru

Yn ôl y Cambridge English Dictionary, mae gwirfoddolwr yn ‘unigolyn sy’n gwneud rhywbeth, yn enwedig helpu pobl eraill, o’i wirfodd, a heb gael ei orfodi na’i dalu i’w wneud’.

Cymhwyswch y diffiniad hwnnw at gefnogi pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol, a chael y mwyaf o fod ar-lein, a chewch ‘wirfoddolwr digidol’.

Am yr holl flynyddoedd y mae Cwmpas wedi bod yn cyflwyno rhaglenni a phrosiectau cynhwysiant digidol – a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop – mae pobl yn defnyddio eu hamser a’u sgiliau eu hunain i helpu pobl eraill wedi bod yn annatod i lwyddiant y gwaith hwnnw.

P’un ai a oedd hynny’n cynnwys gwirfoddolwyr yn helpu mewn sesiynau ‘Dydd Gwener Digidol’ mewn llyfrgelloedd a lleoliadau cymunedol eraill ledled Cymru, neu blant ysgol yn cyflwyno technoleg ddigidol i gleifion ysbytai a phreswylwyr cartrefi gofal, ymhlith nifer o ddulliau, mae gwirfoddoli digidol wedi cael ei blethu i mewn i’r ymdrechion i leihau’r gagendor digidol.

Er bod gwirfoddolwyr digidol yn helpu pobl eraill oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud hynny, maen nhw hefyd yn helpu eu hunain. Mewn rhai achosion, gall ddatblygu eu CV a gallant ennill profiad gwaith gwerthfawr; mewn achosion eraill, gall roi ymdeimlad o ddiben, strwythur a balchder i bobl.

Wrth i Cymunedau Digidol Cymru ddatblygu, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd mwy o bwyslais ar werth technoleg ddigidol a mynd ar-lein i helpu iechyd a lles pobl. Fel Arwyr Digidol, mae pobl ifanc yn helpu pobl hŷn – llawer ohonynt â phroblemau iechyd sylweddol – i ddatblygu cyfeillgarwch newydd gyda thechnoleg fel y cerbyd, wrth wella profiadau byw mewn cartref gofal neu fod ar ward ysbyty.

Enghraifft ragorol o hyn, rydym ni wedi’i rhannu ar sawl achlysur, ac sydd wedi tynnu llawer o sylw, yw Woffington House. Mae’r cartref gofal yn Nhredegar wedi ffurfio perthynas weithio ryfeddol gydag ysgolion lleol, gan gynnwys Ysgol Gynradd Georgetown. Mae’r plant yn ymweld â’r cartref yn rheolaidd, a gyda’i iPads maen nhw’n eistedd gyda phreswylydd y maen nhw wedi dod i’w adnabod, ac yn dangos iddyn nhw sut gall y dyfeisiau eu helpu i ail-fyw pethau o’u hieuenctid. Yn yr achos penodol hwn, mae meddyginiaethau’r preswylwyr wedi cael eu lleihau neu eu tynnu’n ôl yn gyfan gwbl, o ganlyniad uniongyrchol i’r sesiynau hyn, a chael eu cyflwyno i’r byd ar-lein.

Mae mynd i’r afael ag unigedd ac arwahaniad yn gwella iechyd a lles unigolyn hefyd. Mae ffurf arall ar wirfoddoli, sef Cyfeillion Digidol, yn ffordd gymharol newydd o gyflawni hyn. Mae camau cyntaf y fenter wedi cael eu cymryd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hwn yn brosiect ‘Bevan Exemplar’, a gefnogir gan Gomisiwn Bevan, sef prif felin drafod Cymru ar gyfer iechyd a gofal.

Prif amcan y fenter yw darganfod a hyfforddi pobl sy’n ymweld ag unigolyn hŷn yn rheolaidd. Gallai fod yn ffrind, yn berthynas, yn gymydog, ac yn gyfaill presennol i unigolyn hŷn. Y meddylfryd yw eu bod nhw’n treulio amser gyda’r unigolyn hwnnw ac, ar sail ei ddiddordebau, ei gyflwyno’n raddol i’r rhyngrwyd, a gliniadur neu ddyfais a ddelir yn y llaw. Dyfal donc a dyrr y garreg! Rwyf wedi bod yn ymwybodol ers amser o’r ymagwedd ‘dechrau o safle unigolyn’ wrth helpu rhywun i fynd ar-lein am y tro cyntaf, ac mae Cyfeillion Digidol yn dod yn ffordd wych o wneud hyn i ddigwydd. Lefel sylfaenol o sgiliau mynd ar-lein sydd ei ahngen ar y Cyfaill. Gallwch ddysgu gyda’r unigolyn rydych chi’n ei helpu.

Yn olaf ond nid y lleiaf, y trydydd math o wirfoddoli digidol rydym ni’n ei ddatblygu a’i hyrwyddo yw Hyrwyddwyr Digidol. Dyma’r bobl sy’n gwirfoddoli o fewn eu sefydliadau eu hunain, neu bobl sy’n mynd i weithleoedd eraill, i gefnogi staff rheng flaen a gwirfoddolwyr i wneud mwy gyda thechnoleg ddigidol. Yn y bôn, mae hyn yn ymwneud â chynyddu sgiliau o fewn sefydliad, am ba reswm bynnag. Yn gyffredinol, mae gan Hyrwyddwyr Digidol allu TG sy’n ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ddarparu eu cymorth gwirfoddol. Enghraifft hyfryd o hyn yw Peter Loughran, sydd wedi bod yn helpu pobl yng ngorllewin Cymru i ddefnyddio technoleg ers dros ddeng mlynedd, ac mae’n dal i fwynhau’r boddhad o gael rhywun i fynd ar-lein am y tro cyntaf.

Ac eithrio technoleg, beth sy’n rhedeg trwy’r cyfan? Cynyddu teimlad o gysylltioldeb efallai nad yw mor gryf yn ein cymunedau ag yr oedd yn y gorffennol. Rwyf wedi cael profiad o weld plentyn wyth blwydd oed yn dangos i unigolyn 80 oed â dementia sut olwg oedd ar eu tref yn y gorffennol. Mae’r cysylltiad gwirioneddol yn mynd y tu hwnt i agwedd ddigidol y gweithgaredd hwn. Mae gwaith llwyddiannus pontio’r cenedlaethau yn creu cymaint o fuddion i bawb dan sylw. Nid yw pob arwr yn gwisgo clogyn, fel y dywed y dywediad.

Gellir defnyddio Cyfeillion gydag ‘c’ fach hefyd, gan mai dyna beth ydyn nhw. Maen nhw’n cadw cwmni i rywun, rhywun efallai na fyddai’n gweld unrhyw un am ddiwrnodau. Mae’r ffaith eu bod nhw’n cyrchu byd hollol newydd trwy fynd ar-lein, yn fonws yn unig. Yna, mae Hyrwyddwyr yn cynyddu lefelau sgiliau o fewn sefydliad y mae staff a gwirfoddolwyr yn elwa’n uniongyrchol ohono, yn ogystal â lledaenu eu gwybodaeth newydd i’w cleientiaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth eu hunain.

Gan fod yr Wythnos Gwirfoddolwyr yn ymwneud â dweud diolch i’r rheiny sydd wedi rhoi o’u hamser, lawn gymaint ag unrhyw beth arall, hoffem ddweud DIOLCH YN FAWR i bob un ohonoch sy’n helpu Cymru i fynd ar-lein, un unigolyn ar y tro. Rydych chi’n cyflawni mwy nag yr ydych chi’n rhoi clod i chi’ch hun amdano.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Gwirfoddolwyr Digidol, ffoniwch Cymunedau Digidol Cymru ar 0300 111 5050 neu ewch i’n gwefan, lle cewch wybodaeth ar y mathau gwahanol o waith gwirfoddol rydym ni’n arwain arnynt.