Neidiwch i’r prif gynnwys

Hyrwyddo cynhwysiant digidol mewn byd digidol cymhleth

Yn ystod yr ugain mlynedd rydw i wedi gweithio ym maes cynhwysiant digidol, rydw i wedi parhau i gredu’n gryf ym mhotensial technoleg i rymuso pobl ac i ddod â manteision go iawn i’n bywydau a’n gwaith.

Rydym yn gwybod bod cynhwysiant digidol yn mynd law yn llaw ag allgáu cymdeithasol. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod pobl sydd ar incwm isel, pobl anabl, pobl hŷn, pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol a’r rheiny sydd â chyflyrau iechyd tymor hir yn llai tebygol o gael unrhyw fath o fynediad at y rhyngrwyd a’r buddion sy’n gysylltiedig â bod ar-lein. Mae’r buddion hyn yn cynnwys arbed arian, cyfathrebu â ffrindiau a pherthnasau, cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, elwa o ddatblygiadau ym maes iechyd digidol, dod o hyd i waith, cynyddu cyfleoedd bywyd yn gyffredinol a gwella lles.

Fodd bynnag, mae’n anoddach fyth i adnabod pwy sydd wir yn cael eu ‘cynnwys’ yn y byd digidol, a phwy sy’n cael eu gadael ar ôl. Mae diffinio a mesur lefelau allgáu digidol yn fwy cymhleth na’r hyn sy’n cael ei awgrymu gan rifau yn unig. Defnyddir ystod eang o derminoleg – cynhwysiant digidol, cyfranogiad digidol, llythrennedd digidol, sgiliau digidol sylfaenol – ac ymdrechion niferus i lunio darlun cywir o’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn y maes hwn trwy gyhoeddi canlyniadau arolygon sy’n ein dallu gan ystadegau. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod y cwestiynau sy’n cael eu gofyn ym mhob arolwg, yn ogystal â maint y samplau, yn amrywio’n sylweddol, sy’n golygu bod rhaid i ni graffu’n agos ar y wybodaeth a gyflwynir er mwyn deall y data yn iawn.

Heb os, y cwestiwn allweddol yw a yw pobl yn gallu cael mynediad at y rhyngrwyd yn hyderus, ac yn ôl yr angen, er mwyn elwa o’r pethau sydd ar-lein a all wella eu bywydau a’u gwaith.

Wrth gwrs, mae’r bwlch digidol yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a gweithrediad personol, er nad yw’n ddigon bellach i ystyried y nifer gynyddol o bobl sy’n dweud eu bod nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd, ac sydd felly’n cael eu cyfrif fel pobl sy’n cael eu ‘cynnwys yn ddigidol’, fel ‘llwyddiant’. Mae’r graddau y gall pobl ddefnyddio technoleg yn effeithiol i fordwyo’r byd ar-lein yr un mor bwysig, yn ogystal â’r ffordd mae’n gwella’u cyfleoedd bywyd, eu hiechyd a’u lles. Mae llythrennedd digidol bellach yn sgil allweddol sylfaenol.

Default Alt Text

P’un a yw hyn yn golygu gallu hawlio budd-daliadau ar-lein, gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu, siarad â pherthnasau ar Skype, ymgeisio am swyddi, dod o hyd i wybodaeth ac apiau iechyd, edrych ar luniau archif sy’n eich gwneud chi’n hapus – does bosibl mai’r dangosydd pwysicaf yw ei fod yn gwneud daioni. Os yw cael mynediad at y rhyngrwyd ond yn golygu eich bod yn cael eich bwlio ar gyfryngau cymdeithasol, yn cael eich gorlethu gan bornograffi, yn darllen anwireddau sydd wedi’u cuddio fel ffeithiau, neu’n teimlo’n annigonol oherwydd Instagram, mae’n anodd cyfiawnhau ceisio darbwyllo mwy o bobl i fynd ar-lein.

Yn ogystal, mae bwlch digidol yn bodoli rhwng y bobl sydd ar-lein – er enghraifft, mae gan unigolion sy’n meddu ar sgiliau meddwl barnu soffistigedig y gallu i adnabod ‘newyddion ffug’ a gwahaniaethu rhwng ffaith sydd wedi’i dilysu’n annibynol a hysbyseb gynnil a chlyfar ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae unigolion nad oes ganddynt y sgiliau hyn mewn mwy o berygl o sgamiau ar-lein, o dderbyn gwybodaeth o ffynonellau annibynadwy fel ffaith, ac o greu ‘ôl troed digidol’ sy’n eu hagor i seiber-fwlio ac weithiau’n eu hatal rhag cael eu cyflogi.

Dylai bod yn gwbl gynhwysol yn ddigidol olygu gallu cyfrannu’n ddiogel ac yn gyfforddus yn y byd digidol, mewn ffordd ystyrlon a buddiol sy’n diwallu anghenion y dinesydd unigol.

I wneud y sefyllfa hyd yn oed yn fwy heriol, mae’r llinellau rhwng ein bywydau go iawn a’n bywydau ar-lein yn niwlog. Mae’n hawdd anghofio eich bod yn defnyddio’r rhyngrwyd wrth siarad ag Alexa yn eich cegin neu bori trwy Netflix ar eich teledu. Rydych chi ar-lein, er nad ydych yn agos at allweddell neu sgrin cyfrifiadur. Mae’r rhyngrwyd pethau ac actifadu llais yn cynyddu cymhlethdod dealltwriaeth o ystyr cyfranogiad digidol a chynhwysiant digidol heddiw, a pha mor dda ydym ni’n deall y dulliau rydym ni’n eu defnyddio i gael mynediad at wybodaeth, adloniant a gwasanaethau.

Yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo cynhwysiant digidol fel elfen allweddol o gynhwysiant cymdeithasol ac rydym yn falch iawn o dderbyn y cytundeb i ddarparu rhaglen cynhwysiant digidol nesaf Llywodraeth Cymru (Cymunedau Digidol Cymru: Hyder digidol, iechyd a lles) a fydd â ffocws ar ehangu cyfranogiad digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol https://www.digitalcommunities.gov.wales.

Gan weithio ag ystod o bartneriaid o bob sector ledled Cymru, rydym yn annog ac yn helpu sefydliadau sy’n wynebu’r cyhoedd i gofleidio’r angen i gynorthwyo’u defnyddwyr gwasanaeth, cleifion, cwsmeriaid a dinasyddion i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol er mwyn elwa’n llawn o’r rhyngwynebu digidol cynyddol rhwng darparwyr gwasanaethau a dinasyddion.

Rydym ni’n byw mewn byd sy’n gynyddol gymhleth ac mae technoleg yn esblygu mor gyflym ei bod hi’n anodd cadw fyny â’r holl ddatblygiadau. Er gwaethaf yr her amlwg, mae’n bwysig cofio bod gan bawb gyfrifoldeb i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Rhaid i bawb sy’n gallu mordwyo’r byd digidol yn hyderus ac yn ddiogel ddod i’r adwy er mwyn helpu’r rheiny sy’n ei chael hi’n anodd gwneud hynny, a hynny yn ein bywydau personol a phroffesiynol. Dyma’r unig ffordd y gallwn ddechrau mynd i’r afael â materion fel cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol sy’n ffrwtian o dan arwynebedd y bwlch digidol.

Default Text

Mae Karen Lewis yn Gyfarwyddwr ymgysylltu allanol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru