Neidiwch i’r prif gynnwys

Arwyr Hwb yn Ymgynnull!

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder, Iechyd a Lles Digidol* a Hwb yn galw ar blant Cymru i fod yn greadigol a rhoi gwên ar wynebau pobl hŷn a phobl fwy agored i niwed yn ein cymunedau.

Yn galw pobl ifanc! Dewch yn Arwyr Hwb Heddiw!

Heddiw (15 Ebrill 2020), lansiodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams, fenter i annog plant Cymru i ddefnyddio eu creadigrwydd i ledaenu negeseuon cadarnhaol a difyr ar-lein i bobl hŷn sy’n hunanynysu ar hyn o bryd o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud oherwydd Covid-19.

Mae cynhwysiant digidol yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd, wrth i nifer o bobl hŷn fethu cysylltu wyneb yn wyneb â theulu na ffrindiau. Mae Cymunedau Digidol Cymru a Hwb (llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion) yn galw ar y cyd ar blant i fod yn ‘Arwyr Hwb’ ac ymuno â’r frwydr yn erbyn unigedd. Mae Cymunedau Digidol Cymru a Hwb yn gofyn i bobl ifanc fod yn greadigol ar y llwyfan dysgu a chyflwyno deunyddiau megis gwaith celf, posteri, cerddi, straeon, lluniau a fideos a fydd wedyn yn cael eu cyhoeddi ar Hwb.

Bydd cynnwys y plant yn cael ei rannu’n eang â’r genhedlaeth hŷn a phobl agored i niwed ar ffurf negeseuon o obaith a chymorth sy’n dangos bod pant Cymru yn poeni.

Gwyliwch gyhoeddiad Gweinidog Addysg, Kirsty Williams isod:

Wrth sôn am y fenter, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Mae hwn yn gyfnod anodd i bob un ohonom, ond yn arbennig i rai o’n pobl hŷn neu sy’n agored i niwed, a’r rheiny sydd mewn ysbytai, cartrefi nyrsio neu hosbisau. Bydd llawer ohonynt yn hiraethu am gael gweld eu plant a’u hwyrion ac yn teimlo’n fwy ynysig fyth.

“Mae’r fenter hon yn galw ar blant a phobl ifanc Cymru i fod yn greadigol ac anfon negeseuon atom ar gyfer pobl hŷn a phobl fwy agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae arnynt eich angen ‘nawr yn fwy nag erioed, felly ewch ar-lein a byddwch yn Arwr Hwb i helpu eich Nain neu’ch Tad-cu, eich cymydog neu eich ffrind yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Eglurodd Matthew Lloyd, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru: “Mae bywyd yn wahanol iawn i bawb ar hyn o bryd – mae llawer ohonom yn defnyddio ffonau, tabledi neu liniaduron bob dydd ac yn gwybod yn iawn sut i ddefnyddio’r dyfeisiau hyn. Ond mae’n stori wahanol iawn i aelodau hŷn o’r teulu a

chymdogion, neu i’r rheiny sydd mewn cartrefi nyrsio neu hyd yn oed yn yr ysbyty, a gallant fod yn teimlo’n ynysig iawn.

“Gall unigedd fod yn fwy difrifol ar gyfer y rheiny na allant fynd i’w siop leol neu fynd i weld y triniwr gwall ychydig o weithiau bob mis. Mae rhywbeth mor syml â jôc, chwerthin neu sgwrs yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r rheiny sy’n byw ar eu pen eu hunain neu sy’n methu gweld eu teulu.

“Felly, rydym yn gofyn i blant Cymru wisgo mentyll archarwyr, bod yn greadigol, a lanlwytho eu creadigaethau i Hwb – dewch i ni wneud i bobl sgwrsio, chwerthin a gwenu ar hyd a lled Cymru.”

Mae menter Arwyr Hwb yn adeiladu ar y prosiect Arwyr Digidol, a gyflwynir gan Cymunedau Digidol Cymru mewn ysgolion, colegau a rhaglenni pobl ifanc. Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, y mae defnyddio technoleg yn dod yn naturiol iddynt, ac yn dangos iddynt sut i helpu pobl hŷn i fynd ar-lein a defnyddio’r Rhyngrwyd yn hyderus. Hyd yma, mae dros 5,000 o arwyr digidol wedi cael eu hyfforddi ledled Cymru.

Gall plant lanlwytho eu gwaith celf, eu fideos a’u straeon yn ymwneud â mynd ar-lein ar Hwb, yma: https://hwb.gov.wales/arwyrhwb

*Mae Cymunedau Digidol Cymru – Hyder, Iechyd a Lles Digidol yn brosiect gan Lywodraeth Cymru a gyflwynir gan Canolfan Cydweithredol Cymru. Dechreuodd y prosiect ym mis Mehefin 2019, a bydd yn parhau tan fis Mehefin 2022. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau Digidol Cymru, ewch i: https://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/