Neidiwch i’r prif gynnwys

Addasu i normal newydd yn ystod Covid-19

Mae Laura Phillips yn amlinellu sut y mae tîm hyfforddi'r CDC wedi gorfod addasu a thrawsnewid eu darpariaeth gwasanaeth yn ystod argyfwng Covid-19:

Rydym wedi cael ychydig wythnosau bellach o’n ‘normal’ cyfredol, ac mae wedi bod yn newid o ran cyflymder i ni yng Nghymunedau Digidol Cymru fel y mae i bawb dros y mis diwethaf.

Pan gyhoeddwyd y cyfyngiadau symud, darganfyddom yn gyflym fod angen i ni barhau i gefnogi ein cleientiaid mewn ffordd wahanol. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i’n hyfforddiant newid, a hynny’n gyflym! Diolch byth, oherwydd y bobl anhygoel yng Nghymunedau Digidol Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru, rwy’n ffodus fy mod wedi fy amgylchynu gan gyd-aelodau tîm gweithgar a chefnogol! Maent yn dweud bod gwaith tîm yn hollbwysig, ac nid yw hynny erioed wedi bod yn fwy gwir i ni!

Ein gweithgarwch diweddar

Dros y tair wythnos ddiwethaf, rydym wedi cynnal chwe sesiwn galw heibio Ddigidol a 4 gweminar, a hynny yn Gymraeg a Saesneg, ac wedi datblygu adnoddau di-ri i gadw cymunedau, ein cleientiaid a phobl ledled Cymru yn gysylltiedig yn ystod yr amser rhyfedd hwn. Mae nifer fawr o bobl wedi mynychu ein gweminarau sydd wedi arwain at orfod ail-redeg y sesiynau oherwydd ein bod yn llawn dop! Mae hyn wir wedi dangos pwysigrwydd cadw cysylltiad a bod â sgiliau digidol sylfaenol yn y byd modern.

Ein Cymorth

Yma gallwch ddod o hyd i ddolen i’n sesiynau yn y dyfodol, a’r rhith-gymorth yr ydym yn ei gynnig ar hyn o bryd https://www.digitalcommunities.gov.wales/cy/covid-19/

Os ydych am siarad â ni ynglŷn â’r cymorth y gallwn ei ddarparu i chi neu’ch sefydliad, cysylltwch â ni trwy digitalcommunities@wales.coop neu Ffoniwch 0300 111 5050

Rydym hefyd yn ffodus iawn bod y bobl sydd wedi cwblhau ein sesiynau hyfforddi wedi rhoi adborth hyfryd i ni ar effaith ein cymorth i bobl:

“Fe wnes i fwynhau sesiwn y bore yma gyda Nick yn fawr, roedd yn addysgiadol iawn, ac rwy’n edrych ymlaen at fynychu mwy.”

 “Fy ngweminar gyntaf. Wedi ei mwynhau’n fawr. Addysgiadol, hwylus a defnyddiol iawn. Gellir ei rhannu hefyd! Gallaf ei defnyddio gyda fy nysgu, rhoddodd hefyd fwy o syniadau i mi o ran mynd ati i gynnwys Cymunedau Digidol Cymru yn fy narpariaeth i’m dysgwyr fy hun yn y dyfodol, ynghyd â mwy o hunanhyder wrth gynnwys gweithgareddau digidol yn fy ngwersi gydag oedolion.”

Mae gwybod bod ein cymorth a’n hyfforddiant yn dal i gael yr effaith hon yn gwneud yr holl waith yn werth chweil!