Neidiwch i’r prif gynnwys

Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 1 – Gwasanaethau Digidol

Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

Fel y dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ei flog cyflwyno yn gynharach yr wythnos hon, mae gwasanaethau digidol yn fwy am bobl a ffordd o feddwl na thechnoleg.  Mae’n ymwneud â moderneiddio gwasanaethau o fewn sefydliadau a darparu gwasanaethau ar draws ffiniau sefydliadol yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr.

Yn rhy aml o lawer, caiff gwasanaethau cyhoeddus eu creu neu eu moderneiddio heb ystyried anghenion y bobl sydd angen eu defnyddio, neu ystyried beth yw gwasanaeth da.  Maent yn aml yn gymhleth, yn anodd eu cyrraedd, yn ddryslyd, wedi’u cyfyngu gan ffiniau sefydliadol, ac yn cynnig canlyniadau aneglur.

Pan fydd o safon uchel, gall trawsnewidiad digidol wella llawer ar brofiad defnyddwyr; gan olygu bod pethau’n cael eu gwneud yn gyflym, yn hawdd ac yn syml.

Yng Nghymru, rydym am godi’r safon a gwneud yn siŵr bod ein gwasanaethau cyhoeddus wedi eu cynllunio yn dda, yn ddiogel ac yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr.

Dyna pam mai ein Cenhadaeth gyntaf yw:

Darparu a moderneiddio gwasanaethau i gyfres gyffredinol o safonau fel eu bod yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus.

Felly, beth fyddwn ni’n ei wneud?  

Eleni, rydym eisoes wedi sefydlu Canolfan newydd ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ddechrau cefnogi gwasanaethau cyhoeddus wrth helpu i fynd i’r afael â phroblemau, gosod safonau a chynnig cyngor.

Byddaf yn gweithio gyda’r Ganolfan, a’r Prif Swyddog Digidol dros lywodraeth leol (ac, yn y dyfodol, iechyd), i sicrhau ein bod yn cydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru er mwyn cyflawni yn erbyn yr uchelgais hon.

Byddwn yn cydweithio â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a gyda busnesau i gynllunio gwasanaethau sy’n syml ac sy’n gweithio i’r bobl sy’n eu defnyddio.  Golyga hyn bod angen iddynt fod yn seiliedig ar anghenion y defnyddiwr, ac y dylid cynllunio gwybodaeth a data yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.  Mae’n rhaid inni hefyd sicrhau bod hygyrchedd a diogelwch yn flaenllaw yn ein cynllun ar gyfer y gwasanaeth.

Isod, rydym yn dangos rhai o’r camau o flaenoriaeth y byddwn yn eu cymeryd.

Default Alt Text

Safonau Gwasanaeth Digidol

Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn datblygu pob gwasanaeth cyhoeddus yn gyfres gyffredinol o safonau gwasanaethau digidol.  Mae Safonau Gwasanaethau Digidol yn gyfres o ganllawiau y gallai unrhyw un eu dilyn i wneud yn siŵr bod anghenion y defnyddiwr yn ganolog bob amser i’r ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a’u cyflawni.

Mae’n rhaid inni sicrhau bod anghenion defnyddwyr gwasanaethau yn ganolog i’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus.  Mae cytuno ar gyfres o safonau ar gyfer gwasanaethau digidol, eu mabwysiadu, eu hyrwyddo a’u cynnal yn allweddol, a bydd yn gwella profiadau pobl Cymru.  Gall gwirio yn rheolaidd yn erbyn cyfres o safonau y cytunwyd arnynt gynnig ffocws, arwain y ffordd a herio.

Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol eisoes wedi cynllunio a chyhoeddi yr iteriad cyntaf o gyfres gyffredinol o safonau gwasanaethau digidol ar gyfer Cymru.  Cewch glywed mwy gan Sally Meecham, y Prif Weithredwr dros dro.

Nodwch mae cynnwys y fideo yn Saesneg yn unig.

Mae’r safonau bellach yn Beta cyhoeddus ac yn cael eu profi ar nifer o wasanaethau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.  Maent yn cynnwys canolbwyntio ar les, y Gymraeg, anghenion defnyddwyr, moeseg, diogelwch a thechnoleg: y pethau rydym yn gredu fydd yn cynnig canlyniadau gwell i bobl Cymru.

Beth fydd yn wahanol?

Bydd hyn i gyd ond yn gwneud gwahaniaeth os fydd profiad y defnyddiwr yn gwella.  Ein nod yw darparu’r gyfres hon o ganlyniadau:

  • Bydd gwasanaethau all fod ar-lein ar gael ar-lein.  Bydd sianeli eraill ar gael pan fydd eu hangen.
  • Bydd pobl yn dewis defnyddio gwasanaethau digidol, gan gynyddu rhyngweithio hunan-arlwy rhwng dinasyddion a’r llywodraeth.
  • Mae gwasanaethau ar-lein yn hygyrch a gellir eu cwblhau’n llwyddiannus, y tro cyntaf, heb gymorth.
  • Gall bobl gael mynediad at wasanaethau o safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg gan eu bod wedi eu cynllunio’n ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf.
  • Bydd Data yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i ddatblygu gwybodaeth am wasanaethau cyhoeddus, gwella y gallu i wneud penderfyniadau ac effeithiolrwydd, a nodi cyfleoedd i wneud pethau yn wahanol.
  • Bydd gwefannau a gwasanaethau yn cael eu creu i fod yn agored a hygyrch gan drydydd partïon i ddarparu gwasanaethau syml.
  • Bydd gan y gwasanaethau brofiad cyson o ddefnyddwyr a chynllun cyson.

Cynllun ar gyfer cyflawni

Fel a ddisgrifiwyd yn y blog cynharach, er mwyn cyflawni’r canlyniadau hyn mae angen cynllun clir arnom ar gyfer cyflawni.  Mae’r gwaith eisoes wedi dechrau o nodi rhai o’r camau sydd eu hangen a beth sydd angen ei newid.  Mae rhai o’r camau, megis gwaith ar safonau gwasanaethau digidol, eisoes ar y gweill.  Dyma ein iteriad cyntaf o fap cyflenwi ar gyfer y genhadaeth hon.  Bydd gan bob un o’r cenadaethau yn y strategaeth gynllun gweithredu clir.  Bydd rhain yn ddogfennau byw a bydd y cynnydd yn eu herbyn yn cael ei fonitro a’i gofnodi.

Derbyn adborth

Hoffem glywed eich barn am ein huchelgeisiau yn y genhadaeth hon, y canlyniadau rydym am eu cael a sut rydym yn bwriadu eu cyflawni.  Er enghraifft,

  • Ydych chi’n credu mai dyma’r canlyniadau iawn?
  • Beth ydych yn gredu yw’r rhwystrau?
  • A ydych yn credu bod unrhyw fylchau, ac os felly, beth ydynt?
  • Pe byddai’n rhaid ichi flaenoriaethu, beth fyddai eich 3 prif flaenoriaeth?
  • Pa enghreifftiau ydych chi wedi eu gweld yng Nghymru, neu y tu allan i Gymru, o wasanaethau sy’n rhoi profiad gwych i’r defnyddiwr?
  • Ble ydych yn credu y gellid gwneud gwelliannau yn gyflym, a fyddai o gymorth yn ein bywydau bob dydd?

Cadwch lygad allan am ein blog nesaf ar Cenhadaeth 2: Economi Ddigidol