Neidiwch i’r prif gynnwys

Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 3 – Data a Chydweithredu

Post gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru

Pan fyddwn yn ystyried sut y gallwn wneud pethau’n well yn ddigidol, rydym yn aml yn anwybyddu pwysigrwydd data. Mae data’n sail i bopeth digidol – boed yn ddata a roddwn i mewn, fel y cyfrinair i gael mynediad at fancio ar-lein, neu’r data sy’n dod allan, fel rhagolygon y tywydd ar gyfer y diwrnod canlynol.

 

O ran darparu gwasanaethau cyhoeddus, mae’r pandemig wedi dangos yn glir pa mor hanfodol ydyw i’n gwasanaethau gydweithio, i gael mynediad at ddata cywir ac amserol ac i ddata gael eu rhannu ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus. O ddydd i ddydd, defnyddiwyd data i lywio penderfyniadau sy’n sicrhau diogelwch pobl a lleihau’r achosion o drosglwyddo’r feirws. Er ein bod wedi gweld enghreifftiau da yng Nghymru o gyrff cyhoeddus yn cydweithio ac yn rhannu data, gellid gwneud mwy pe byddem, er enghraifft, yn eu storio a’u rheoli mewn ffordd fwy cyson.

Felly ein cenhadaeth yw gwella’r gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd drwy gydweithio a sicrhau bod ein data yn cael eu ddefnyddio yn effeithio, wedi’u trefnu’n dda, eu diogelu a bod y data’n cyrraedd y mannau angenrheidiol.

Felly, beth fyddwn ni’n ei wneud? 

Gan ddysgu o’n profiadau yn ystod y misoedd diwethaf, rwy’n awyddus i ni ddatblygu ymdeimlad o uchelgais a rennir ar gyfer defnyddio data a chydweithredu ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Gallwn wneud hyn drwy nodi cyfleoedd i gydweithio ar fentrau digidol a chael y gorau o’n data.

Rydym am roi’r blociau adeiladu ar waith er mwyn i gydweithio ddigwydd a chefnogi gwasanaethau cyhoeddus integredig a di-dor. Er mwyn helpu i ddileu rhai o’r rhwystrau sy’n atal llif data ar hyn o bryd neu’n ei arafu, er mwyn lleihau’r baich ar y dinesydd, a hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth rhwng systemau digidol, ein nod yw cydweithio i sicrhau cysondeb drwy gytuno ar safonau a phlatfformau data cyffredin a fydd yn cefnogi ailddefnyddio data a chydweithio yn gyffredinol.

Gall defnydd arloesol o ddata drawsnewid yn sylweddol y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus drwy creu mewnweliadau newydd. Mae partneriaeth YDG Cymru eisoes wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio i ddefnyddio data ar gyfer ymchwil a byddwn yn hyrwyddo mwy o ddefnydd o gysylltu data a gwyddor data. Wrth gwneud hyn, yn ychwanegu gwerth i’r data sydd gennym a defnyddio ffynonellau newydd o ddata bydd hyn helpu creu darlun cyfoethog o cymdeithas.

Gall defnyddio arloesedd sy’n seiliedig ar ddata i gefnogi awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial hefyd helpu i sicrhau arbedion, dileu baich tasgau ailadroddus a helpu pobl i ganolbwyntio ar ble y gallant ychwanegu’r gwerth mwyaf. Byddwn yn cydweithio â’r byd academaidd a’r sector preifat i hyrwyddo’r defnydd o arloesedd sy’n seiliedig ar ddata (er enghraifft drwy gweithio gyda’r Cyflymydd Arloesedd Data) ac yn ceisio cydgysylltu’r arbenigedd sy’n amlwg yn bodoli yng Nghymru â’r heriau sy’n wynebu ein sector cyhoeddus.

Wrth wneud hyn rydym am wneud yn siŵr bod pobl yn dal i ymddiried ynom ac yn glir ynghylch sut y caiff eu data eu defnyddio, gan roi sicrwydd iddynt y bydd eu data’n cael eu trin yn foesegol ac yn ofalus.

Creu egwyddorion cyffredin a phlatfformau diogel i gefnogi dulliau o gydweithio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Sefydlu Bwrdd Adolygu Rhannu Data i gynorthwyo gyda defnyddio pwerau rhannu data Deddf yr Economi Ddigidol. Cyhoeddi data yn agored mewn fformat y gellir el ail-ddefnyddio pan yn briodol ac yn bosibl. Cenhadaeth 3 Data a Chydweithio: Gwella gwasanaethau drwy gydweithio gyda data a gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio a'i rannu, Sicrhau bod eglurder i'r cyhoedd o ran sut y caiff data ei ddefnyddio i gofnogi gwasanaethau cyhoeddus. Ehangu yr ystod data sydd ar gael yn ddiogeli sbarduno gwaith ymchwil perthnasol i bolisi. Darparu y Rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol i drawsnewid y defnydd o ddata o fewn lechyd a gofal. Cytuno ar ddull o wella safonau data a gwella luf data ar draws y sector cyhoeddus.

Beth fydd yn wahanol?

Beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd? Wel, ein nod yw y bydd y canlyniadau canlynol yn cael eu cyflawni:

  • Bydd pobl a sefydliadau yn gwbl hyderus bod eu data’n cael eu trin yn gyfrifol, yn ddiogel ac yn foesegol.
  • Bydd pobl yn derbyn gwasanaethau gwell, ddidrafferth, a bydd canlyniadau yn gwella oherwydd bod data’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn arloesol.
  • Byddwn yn lleihau y nifer o weithiau mae’n rhaid i ddinasyddion rhoi yr un gwybodaeth drwy datblygu y tirlun data yng Nghymru i gefnogi defnyddio data a’i ailddefnyddio’n hawdd ac yn ddiogel i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig.
  • Bydd data’r sector cyhoeddus ar gael a bydd pobl a sefydliadau sydd ei angen, yn gallu cael gafael arno, mewn fformat sy’n hawdd ei ddefnyddio, pan fydd ei angen arnynt.
  • Bydd y sianeli a’r diwylliant digidol cywir ar waith i ganiatáu i bob sector gydweithio a rhannu gwybodaeth yn briodol ac yn ddiogel er mwyn sicrhau canlyniadau gwell.
  • Bydd sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yn cydweithio â’r sectorau cyhoeddus a phreifat ar feithrin gallu a datblygu defnydd arloesol o dechnoleg a data.

Cynllun ar gyfer cyflawni

Bydd gan y genhadaeth hon, fel y lleill, gynllun gweithredu clir a rydyn yn ymwybodol bod rhai o’r uchelgeisiau yn rhai tymor hir. Yn wir, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i nodi rhai o’r camau sydd eu hangen os ydym am gyflawni’r hyn rydym wedi’i nodi uchod. Pan fydd y cynlluniau gweithredu wedi’u datblygu, byddant yn cael eu rhannu. Bydd y cynlluniau hyn yn ddogfennau byw ac adroddir yn rheolaidd ar y cynnydd.

Derbyn adborth

Hoffem glywed eich barn am ein huchelgeisiau yn y genhadaeth hon, y canlyniadau rydym am eu cael a sut rydym yn bwriadu eu cyflawni. Er enghraifft:

  • Ydych chi’n credu mai dyma’r canlyniadau iawn?
  • Beth ydych chi’n credu yw’r rhwystrau posib?
  • A ydych yn credu bod unrhyw fylchau ac, os felly, beth yw’r bylchau hynny?
  • Pe byddai’n rhaid i chi flaenoriaethu, beth fyddai eich 3 prif flaenoriaeth?

Rhannwch eich sylwadau â ni drwy lenwi’r ffurflen ar-lein lle gallwch roi adborth ar bob cenhadaeth neu ambell un ohonynt, neu gallwch roi sylw isod. Bydd y ffurflen ar-lein a’r sylwadau ar agor tan 22 Ionawr 2021.

Er na fyddwn yn ymateb i bob sylw unigol, gallwn eich sicrhau y byddwn yn ystyried yr holl adborth wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Cadwch lygad allan am ein blog nesaf ar Cenhadaeth 4 – Cynhwysiant Digidol.