Neidiwch i’r prif gynnwys

Arwyr Hwb

Dros y cyfnod cloi, mae pobl ifanc ledled Cymru wedi camu i fyny i rannu gwaith celf a negeseuon anhygoel gyda phobl fregus yn y gymuned

Default Alt Text

Tua dechrau’r argyfwng Coronafeirws (Covid-19), pan gaeodd ysgolion yng Nghymru am y tro cyntaf, buom yn gweithio mewn partneriaeth â Hwb i alw ar blant a phobl ifanc i fod yn Arwyr Hwb. Lluniwyd y bartneriaeth hon i helpu pobl ifanc a phobl hŷn i gysylltu â’i gilydd yn ystod y pandemig drwy greu negeseuon i’w rhannu gyda phobl hŷn a mwy bregus ledled Cymru.

Roedden ni wrth ein bodd i dderbyn dros 1,000 o gyflwyniadau gan blant a phobl ifanc yng Nghymru, gyda negeseuon ystyriol a chefnogol yn cael eu rhannau â’r rhai yn yr angen mwyaf. Derbyniwyd lluniau, cerddi, straeon, caneuon a dawnsfeydd, sydd i gyd wedi’u rhannu gyda lleoliadau gofal ledled Cymru.

Ydych chi’n gweithio yn yr ysbyty, hosbis neu leoliad gofal yng Nghymru?

Rydym am weld y perfformiadau a’r delweddau hyn yn parhau i gael eu rhannu â phobl a allai deimlo’n unig neu wedi’u hynysu.

Rydym wedi casglu nifer o berfformiadau ar sianel YouTube arbennig i chi eu rhannu gyda’r bobl rydych chi’n eu cefnogi. Gallwch wylio’r rhain yma:

Gallwch weld pob yr holl waith celf trwy ymweld â gwefan Hwb.

Os ydych chi am rannu ymatebion i’r negeseuon, tagiwch i mewn @DC_Wales a byddwn yn ail-drydar. Fel arall, anfonwch eich sylwadau, fideos neu ymatebion atom trwy ein tudalen gyswllt a byddwn yn eu rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Diolch, Arwyr Hwb

Ni fyddai’r fenter hon wedi bod yn bosibl heb frwdfrydedd a chefnogaeth yr ysgolion a’r disgyblion felly diolch o galon.

Bwrwch olwg ar rywfaint o’r gwaith celf gwych a’r negeseuon gan ein Harwyr Hwb isod:

Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text