Beth yw cynhwysiant digidol – a pham mae’n bwysig?
Dyw 11% o bobl Cymru ddim ar-lein heddiw. Gyda mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno ar-lein, mae’r rhain mewn perygl o gael eu gadael ar ôl. Mae angen i sefydliadau sy’n gweithio gyda’r cyhoedd, yn enwedig yn y sector iechyd a gofal, feddwl sut i gynyddu cynhwysiant digidol fel bob pawb yng Nghymru yn gallu elwa.
Mae cynhwysiant digidol yn golygu cael y cymhelliant, y sgiliau a’r cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol a’r rhyngrwyd.
Gall pobl sydd heb un o’r uchod neu gyfuniad ohonynt, fod wedi’u hallgáu’n ddigidol ac mewn perygl o fod ar eu colled mewn cymdeithas gynyddol ddigidol, lle mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys rhai cyhoeddus hanfodol, yn mynd ar-lein.
Cynhwysiant digidol yng Nghymru
Mae 10% o’r genedl (300,000 o bobl) wedi’u hallgáu’n ddigidol. Aelodau hŷn, llai hyddysg ac mewn gwaeth iechyd na gweddill y boblogaeth ydyn nhw’n bennaf.
Yn aml, pobl wedi’u hallgáu’n ddigidol yw’r rhai sy’n gwneud y defnydd mwyaf o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, felly maen nhw mewn perygl o fod ar eu colled yn y chwyldro iechyd digidol. Mae pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol yn fwy tebygol o fod yn:
- Hŷn – 40% o bobl 75 oed a throsodd sy’n defnyddio’r we, o gymharu â 97% o rai 16-49 oed
- Anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor – 74% o bobl ag anabledd neu gyflwr hirdymor sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu â 90% heb anabledd neu gyflwr hirdymor
- Llai hyddysg – dim ond 53% o bobl heb gymwysterau sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, o gymharu â 95% â chymwysterau addysg uwch.
Mae rhesymau clir o safbwynt cydraddoldeb a pholisi cyhoeddus dros wella cynhwysiant digidol, yn ogystal ag achos busnes cryf.
Beth yw manteision bod ar-lein?
Mae manteision bod ar-lein i bobl, yn enwedig pobl hŷn, pobl ddi-waith a thrigolion tai cymdeithasol yn cynnwys:
- Arbed amser trwy fanteisio ar wasanaethau digidol
- Arbed costau trwy gael gwasanaethau a phrynu nwyddau’n ddigidol
- Teimlo’n llai unig ac ynysig
- Mwy o obaith o gael swydd
- Gwella hunanofal ar gyfer mân anhwylderau
- Gwell hunanreolaeth dros gyflyrau hirdymor
Ymhlith y manteision i sefydliadau, yn enwedig rhai’r system iechyd a gofal, yw:
- Gwelliant o ran defnyddio adnoddau a gwasanaethau digidol
- Costau is trwy gyflawni gwasanaethau’n ddigidol
- Mwy o ddefnydd priodol o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cynghori, gofal sylfaen a gofal brys.
Daw’r dadansoddiad mwyaf diweddar o effaith economaidd cynhwysiant digidol o adroddiad a baratowyd gan Cebr (Canolfan Ymchwil Busnes ac Economaidd) ar gyfer Good Things Foundation a gyhoeddwyd yn 2018. Mae’n awgrymu gwerth net presennol o £21.9 biliwn am ddarparu sgiliau digidol i bawb yn y DU. Bydd arbedion erbyn 2028 yn cynnwys:
- Arbed amser trwy wneud trafodion ariannol a llywodraeth ar-lein – £1.1 biliwn
- Manteision prynu a gwerthu trwy siopa ar-lein – £1.1 biliwn
- Manteision cyfathrebu trwy gadw mewn cysylltiad, lleihau unigrwydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol – £400 miliwn
Gall Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant weithio gyda’ch sefydliad i’ch helpu i gymryd camau ymarferol i gefnogi cynhwysiant digidol ar lawr gwlad. Cysylltwch â ni i weld sut gallwn ni helpu.