Neidiwch i’r prif gynnwys

Dyfeisiau digidol yn helpu pobl i reoli poen cronig a gorflinder

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi derbyn hyfforddiant a chymorth gan Cymunedau Digidol Cymru er mwyn i gleifion sy’n dioddef poen cronig a gorflinder allu manteisio’n llawn ar gymorth iechyd a lles ar-lein.

Pam?

Mae Canolfan Rheoli Poen a Gorflinder Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Ysbyty Bronllys yn cynnig cymorth i bobl ledled Powys sydd â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r ganolfan yn cynnal rhaglen breswyl bythefnos ar gyfer cleifion sy’n profi poen cronig a/neu flinder cronig. Nod y rhaglen yw helpu pobl i reoli eu cyflwr iechyd yn annibynnol gartref a newid ymddygiad, er mwyn i bobl gael gwell ansawdd byw.

Sut?

Mynychodd staff o’r Ganolfan Rheoli Poen a Gorflinder hyfforddiant gan Cymunedau Digidol Cymru ar Apiau a Gwefannau Iechyd a Lles er mwyn iddynt allu ymgorffori elfennau digidol i’r rhaglen rheoli poen bythefnos.

Yn ogystal, benthycwyd deg iPad i’r tîm i’w defnyddio yn ystod y rhaglen breswyl, er mwyn i rieni allu dysgu sut gall gwahanol apiau a gwefannau eu helpu i reoli eu cyflyrau iechyd yn annibynnol gartref a sut i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am iechyd a lles ar-lein.

Effaith

Er bod gan lawer o’r bobl a fynychodd y rhaglen rheoli poen preswyl sgiliau TG da cyn hynny, nid oeddynt o reidrwydd yn ymwybodol o’r holl adnoddau ar-lein a oedd ar gael i’w helpu. Cawsant eu cyflwyno i apiau fel Breathe, Headspace a Calm, a hefyd gweld sut mae defnyddio adnoddau da fel popplet i fonitro eu lefelau poen.

Yn y sesiwn ar lythrennedd digidol, bu’r cyfranogwyr yn dysgu sut i ddod o hyd i wybodaeth am iechyd ar-lein a’i gwerthuso, er mwyn iddynt allu asesu’n feirniadol dibynadwyedd a diogelwch cyngor o wahanol wefannau.

Meddai Clare Clark, Uwch Ymarferydd – Therapydd Galwedigaethol gyda’r Gwasanaeth Rheoli Poen a Gorflinder: “Mae cael yr iPads ar gyfer y sesiynau wedi’n helpu i gynnig dull cyfryngau cymysg, gan ymgysylltu ag unigolion a sicrhau rhyngweithio o fewn y sesiwn.”

Meddai Matthew Bevan, Cynghorwr Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru: “Braf yw clywed sut mae’r iPads wedi’u defnyddio yn ystod y rhaglen breswyl bythefnos. Mae gan dechnoleg ran mor fawr wrth helpu pobl i gael gafael ar wybodaeth iechyd o ansawdd a gwella lles, felly mae’n wych bod benthyg yr iPads wedi galluogi pobl i ddysgu mwy am hyn a rhoi’r sgiliau iddynt gobeithio i allu rheoli eu cyflyrau iechyd yn annibynnol.”