Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnig offer digidol i fynd i’r afael ag unigedd ac unigrwydd

Gan ddefnyddio model cymdeithion digidol, hyfforddodd DCW aelodau rhwydwaith allgymorth gwirfoddol presennol gydag adnoddau, cynnwys ac offer hawdd eu defnyddio i wella eu hymweliadau.

Crynodeb

Fe wnaeth Cymunedau Digidol Cymru gydweithio â thîm gofal sylfaenol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynnig adnoddau digidol er mwyn helpu gwirfoddolwyr sy’n mynd i’r afael ag unigedd ac unigrwydd.

Gan ddefnyddio model cyfeillion digidol, hyfforddodd Cymunedau Digidol Cymru aelodau o rwydwaith gwirfoddolwyr allgymorth sy’n bodoli eisoes gydag adnoddau, cynnwys ac offer hawdd eu defnyddio i wella eu hymweliadau.

Trwy ganolbwyntio ar y cynnwys, yn hytrach na’r sgiliau digidol, cafodd gwirfoddolwyr fwy o hyder i ddefnyddio’r dechnoleg – drwy gyfrifiaduron llechen yn yr achos hwn – ac mae bellach yn adnodd gwerthfawr wrth ymwneud ag eraill.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweld manteision canlyniadol wrth i’w dîm ei hun fabwysiadu technoleg a sgiliau digidol a dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio offer ac adnoddau ar-lein.

Pa broblem oedd angen mynd i’r afael â hi?

Un o’r heriau o ran cynyddu’r boblogaeth ar-lein yw bod y rhai sydd â diddordeb eisoes wedi ymgysylltu.

Ategir hyn gan ymchwil Banc Lloyds yn 2019, a ddangosodd mai diffyg diddordeb yw’r prif reswm dros beidio â mynd ar-lein. Yn ôl ei Fynegai Digidol o Ddefnyddwyr, does gan gan dri chwarter y boblogaeth all-lein ddim awydd ymchwilio i’r hyn sydd gan y rhyngrwyd i’w gynnig.

Ar wahân i gostau, dywed yr adroddiad mai’r prif bethau a fyddai’n annog pobl i fynd ar-lein yw: gwefannau haws i’w deall; goresgyn ofnau am ddiogelwch; a chael help llaw gan rywun arall.

Mae modd mynd i’r afael â’r agweddau hyn trwy gynnig rhywun wrth law i’w llywio drwy gamau cyntaf mynd ar-lein.

Beth oedd yr ymyriad a sut wnaeth hynny weithio?

Aeth Cymunedau Digidol Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) ati i ddatblygu model Cyfeillion Digidol a fyddai’n canolbwyntio ar roi profiad cyntaf cadarnhaol ac anffurfiol o fynd ar-lein i bobl.

Mae gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan rwydwaith helaeth o wirfoddolwyr cyfeillio o’r enw Ffrind i Mi fel rhan o’i fodelau gofal eilaidd er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblemau unigrwydd ac arwahanrwydd.

Golygai hyn fod hyfforddiant a strwythurau eisoes ar waith y gellid eu defnyddio i ddatblygu rhwydwaith o gyfeillion digidol. Roedd yn golygu hefyd bod cysylltiadau eisoes wedi’u meithrin rhwng gwirfoddolwyr Ffrind i Mi a’r rhai roedden nhw’n treulio amser gyda nhw.

Rhoddwyd pecyn hyfforddiant pedwar cam syml  i’r cyfeillion a oedd yn cwmpasu’r sgiliau a’r rhinweddau y byddent eu hangen. Roedd y camau’n cynnwys chwilio am feysydd o ddiddordeb cyffredin, datblygu’r diddordebau hynny drwy offer digidol ac argymell adnoddau i barhau â’r diddordeb yn y dyfodol. Cawsant gyfrifiaduron llechen i’w defnyddio yn ystod eu hymweliadau hefyd.

Roedd yr hyfforddiant yn pwysleisio pwysigrwydd cymorth un i un sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – gan bwysleisio nad oedd angen iddyn nhw fod yn arbenigwyr technolegol i allu helpu.

Mae gwirfoddolwyr yn treulio amser gydag amrywiaeth eang o bobl – er enghraifft rhai sy’n gaeth i’r tŷ, pobl ag anawsterau dysgu – gan ddarparu cymorth un i un. Maen nhw’n dod i wybod am ddiddordebau, hobïau, teulu a hanes yr unigolyn, gan greu darlun personol sydd wedyn yn eu galluogi i ddefnyddio’r cyfrifiadur llechen i rannu cynnwys wedi’i deilwra i’r diddordebau hynny.

“I ddechrau, roedden ni’n meddwl mai helpu pobl i fynd ar-lein eu hunain fyddem ni, ond wrth i’r prosiect ddatblygu, rydyn ni’n gweld bod y gwirfoddolwyr yn defnyddio’u cyfrifiaduron llechen yn fwy naturiol fel teclyn yn ystod yr ymweliad – er enghraifft, i sbarduno sgwrs neu bori drwy siopau ar-lein. Mae’n wych fel ffordd o gynnig dihangfa i bobl yn niogelwch eu cartrefi eu hunain. Ac mae hynny’n wych ar gyfer iechyd meddwl a lles.”

Claire Jordan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar Gleifion.

Hefyd, cyflwynodd gwirfoddolwyr adnoddau ar-lein fel BBC RemArc, cynnwys o archifau’r BBC, a ddewiswyd i gefnogi therapi hel atgofion.

Dros amser, wrth i hyder gynyddu, gellir ehangu hyd a lled y cynnwys sy’n cael ei rannu i gynnwys gwybodaeth berthnasol i gefnogi iechyd a lles.

Beth oedd effaith yr ymyriad?

  • Roedd y rhwydwaith presennol o wirfoddolwyr yn allweddol i lwyddiant y rhaglen. Roedd ganddyn nhw brofiad naturiol o ddangos empathi, a gan ei bod nhw’n adnabod y rhai roedden nhw’n eu helpu roedden nhw’n gallu gwneud y cynnwys yn berthnasol i’r unigolyn.
  • Drwy ganolbwyntio ar y cynnwys, yn hytrach na cheisio addysgu’r dechnoleg, roedden nhw’n gallu defnyddio’r llwyfannau digidol ar gyfer gweithgareddau oedd o fudd uniongyrchol i les pobl.

“Mae pobl yn dod i arfer yn anuniongrchol â’r dechnoleg drwy ei defnyddio. Mae’n adnodd mor amlbwrpas i wirfoddolwyr allu dangos lluniau a ffilmiau neu ddod o hyd i gerddoriaeth.”

Claire Jordan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar Gleifion

  • Cafodd holl staff yr uned eu hyfforddi gan Cymunedau Digidol Cymru law yn llaw â’r gwirfoddolwyr – rhai ohonyn nhw’n gyfeillion eu hunain. Roedd yn bwysig bod pawb a oedd ynghlwm wrth y prosiect yn gallu siarad yn wybodus amdano.
  • Erbyn hyn, mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno’n ehangach, gyda Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda grwpiau cymunedol eraill sydd hefyd wedi meithrin perthynas â buddiolwyr posib e.e. Nyrsys Macmillan, RVS, Merched y Wawr, Sefydliad y Merched a Siediau Dynion.
  • Y rhaglen cyfeillion digidol oedd un o brosiectau enghreifftiol Comisiwn Bevan

Beth oedd y canlyniad o ran sgiliau newydd, iechyd gwell a lles gwell?

  • Mae’r rhyngweithio rhwng gwirfoddolwyr a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi wedi’i gyfoethogi ac yn fwy amrywiol diolch i’r defnydd o gyfrifiaduron llechen a chynnwys digidol.
  • Trwy gydweithio, llwyddwyd i rannu atgofion, dysgu mwy am gyfleoedd i gymdeithasu’n lleol, mwynhau rhywfaint o ddihangfa rithwir neu wneud dim mwy na chyflawni tasgau gweinyddol a gorchwylion angenrheidiol.
  • Dywedodd y tîm nyrsio a’r gwirfoddolwyr fod ganddyn nhw fwy o hyder wrth ddefnyddio TG a’u bod yn defnyddio mwy a mwy o adnoddau digidol yn eu gwaith ehangach, er enghraifft ymgynghoriadau Skype.

“Mae pobl sydd wedi defnyddio’r cyfrifiaduron llechen, er enghraifft, i fynd ar ymweliadau rhithwir o amgylch gerddi lleol gyda’i gilydd, yn dweud ei fod yn brofiad ymlaciol braf. Roedd cath menyw arall wedi marw’n ddiweddar, felly fe wnaeth gwirfoddolwr ei helpu i ddefnyddio’r cyfrifiadur llechen i ddod o hyd i un newydd sydd bellach yn byw gyda hi – a mae hynny mor bwysig i’w lesiant.”

Claire Jordan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar Gleifion.

Mae cael cefnogaeth Cymunedau Digidol Cymru wedi rhoi hyder i’r tîm roi cynnig ar ddulliau newydd hefyd, gan wybod bod cymorth a chyngor ar gael. 

Beth allwn ni ei ddysgu y gellid ei ailadrodd, ei drosglwyddo neu ei addasu?

Defnyddio rhwydwaith dibynadwy sy’n bodoli eisoes

  • Mae’n llawer haws cyflwyno’r ymyriad lle mae seilwaith gwirfoddolwyr yn bodoli eisoes
  • Mae modd defnyddio’r ymddiriedaeth a’r berthynas gadarn rhwng gwirfoddolwyr a’r rhai sy’n cael cymorth i leddfu pryderon wrth roi cynnig ar rywbeth newydd
  • Mae’n creu teimlad o amgylchedd diogel

Cadw hyfforddiant yn syml

  • Canolbwyntio ar gymhwyso technoleg, nid ar y dechnoleg ei hun
  • Ei ddefnyddio fel adnodd er mwyn meithrin perthynas a gofalu am les meddyliol pobl

Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n ymddieithrio’n ddigidol eisiau cymorth gan wyneb cyfarwydd

  • Mae defnyddio rhwydweithiau gwirfoddol yn golygu bod pobl yn gweithio un i un
  • Gall cysylltiadau sy’n bodoli eisoes â phobl helpu i sicrhau bod y cynnwys yn fwy personol a pherthnasol

Hyfforddi’r tîm cyfan

  • Hyd yn oed os nad ydynt yn darparu’n uniongyrchol, mae’n bwysig bod pawb yn gallu siarad am y prosiect mewn ffordd wybodus a brwdfrydig
  • Gall gwella hyder digidol cyffredinol y tîm arwain at fabwysiadu rhagor o dechnolegau buddiol mewn lleoliadau a sefyllfaoedd eraill

Dyfal donc

  • Dangosodd y prosiect hwn werth cymorth un i un parhaus
  • Mewn rhai achosion dechreuodd pobl fentro ar-lein ar eu pen eu hunain a phrynu dyfeisiau newydd – ond roedd hyn yn ymwneud mwy â defnyddio adnoddau digidol i wella lles a pherthynas ag eraill.