Neidiwch i’r prif gynnwys

Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys yn lansio gwasanaeth cyfeillio digidol

Pan darodd Covid-19 gan orfodi’r wlad i fynd i gyfnod clo, ehangodd llawer o sefydliadau gwirfoddol eu gweithgareddau i ddiwallu'r anghenion a grëwyd gan y pandemig a lliniaru rhai o'r effeithiau cymdeithasol niweidiol. Ceisiodd llawer, gan gynnwys PAVO, wneud eu gorau glas i gynnal eu gweithrediadau trwy eu symud nhw ar-lein.

Fel sir wledig, gall llawer o bobl sy’n byw ym Mhowys gael eu hynysu yn ddaearyddol. Pan ddywedwyd wrth bobl am aros adref oherwydd Covid-19, roedd cryn bryder y byddai hyn yn arwain at lefelau uchel o unigrwydd ac arwahanrwydd, gan effeithio ar iechyd meddwl.

Cyn y pandemig, roedd PAVO wedi cynnal prosiect cyfeillio llwyddiannus. Wedi’i gynllunio i helpu pobl dros 50 oed i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach, byddai gwirfoddolwyr yn galw i mewn yn rheolaidd i gynnig cwmnïaeth a chefnogaeth; helpu i archwilio cyfleoedd newydd, a chefnogi datblygu sgiliau. Daeth y gwasanaeth personol hwn i ben yn sydyn oherwydd Covid-19, ond ymatebodd PAVO i’r angen parhaus trwy ddatblygu gwasanaeth cyfeillio digidol.  Cefnogodd Cymunedau Digidol Cymru’r gwasanaeth trwy ddarparu hyfforddiant ac adnoddau digidol am ddim i’r cyfeillion, i’w galluogi nid yn unig i ddefnyddio dyfeisiau digidol a’r rhyngrwyd yn hyderus eu hunain, ond hefyd i ddod yn wirfoddolwyr digidol a helpu eraill.

O ganlyniad, trefnodd y grŵp giniawau, dawnsio a chanu ar-lein. Cafodd y gwirfoddolwyr a’r rhai yr oeddent yn eu cefnogi lawer o hwyl wrth ddatblygu eu sgiliau digidol a’u hyder!

Roedd yr adborth gan y cyfeillion yn gadarnhaol dros ben:

“… Yr wythnos hon, fe wnes i helpu 2 fenyw yn eu 70au i ddechrau gyda Zoom.”

“Diolch am y cyfle gwych hwn! Rwyf newydd orffen galwad Zoom gydag un o fy ffrindiau oedd heb Zoom. Fe gymerodd hi awr i ni ar y ffôn i’w osod ond waw !! Pan welsom ein gilydd o’r diwedd, roedd yn brofiad mor emosiynol. Dwi ddim wedi ei gweld hi ers misoedd ac mae hyn wir wedi gwneud ei diwrnod hi. Nawr mae hi’n mynd i osod Facebook … anhygoel.”

“Rydw i wir wrth fy modd yn helpu eraill ac yn teimlo mor hapus fy mod i wedi cyflawni hyn heddiw!”

I ddarganfod mwy am y prosiect gwych hwn ewch i: https://www.pavo.org.uk/help-for-people/befriending.html. I ddarganfod mwy a gwneud cais i ddod yn wirfoddolwr digidol gyda PAVO, edrychwch ar eu hysbyseb ar Gwirfoddoli Cymru: Gwirfoddoli Cymru Hysbyseb PAVO

Quotation mark

Diolch am y cyfle gwych hwn! Rwyf newydd orffen galwad Zoom gydag un o fy ffrindiau oedd heb Zoom. Fe gymerodd hi awr i ni ar y ffôn i’w osod ond waw !! Pan welsom ein gilydd o'r diwedd, roedd yn brofiad mor emosiynol. Dwi ddim wedi ei gweld hi ers misoedd ac mae hyn wir wedi gwneud ei diwrnod hi. Nawr mae hi'n mynd i osod Facebook ... anhygoel.

Buddiolwr cyfeillio digidol CMGP