Neidiwch i’r prif gynnwys

Defnyddio atgofion chwaraeon i fynd i’r afael ag unigrwydd, iselder a dementia

Mae Atgofion Chwaraeon yn elusen sy'n ymroddedig i ddod ag oedolion hŷn ynghyd i siarad ac i gofio drwy chwaraeon. Gall yr oedolion hŷn sy'n dod i'w clybiau ar-lein neu yn y gymuned fod yn ynysig, neu'n byw gydag iselder, dementia neu gyflyrau tymor hir eraill. Mae gan bawb un peth yn gyffredin: angerdd tuag at siarad a chofio drwy chwaraeon!

The Supporting Memories Foundation Wales (Sefydliad Cefnogi Atgofion Cymru)
Cefnogwyr pêl-droed Cymru gyda'i gilydd ar alwad Zoom
Cartrefi gofal ac oedolion bregus gyda'i gilydd ar alwad Zoom gyda Gareth Sullivan, Swyddog Cynhwysiant ar gyfer Rygbi Dreigiau
Dyn hŷn yn darllen hen erthygl papur newydd ar ddigwyddiad chwaraeon

Roedd y Sefydliad eisoes yn cynnal clybiau cymunedol i ddod â phobl ynghyd yn gorfforol i hel atgofion. Ond roedd ganddynt ddiddordeb mewn ehangu eu gweithgaredd i glybiau ar-lein. Aethant at Gymunedau Digidol Cymru ac roedden nhw’n gallu helpu’r Sefydliad Atgofion Chwaraeon trwy ddarparu hyfforddiant i wirfoddolwyr i’w galluogi i ddod yn Bencampwyr Digidol.

Mae’r gwirfoddolwyr hyn wedi bod yn helpu oedolion hŷn dros 50 i ddefnyddio’u dyfeisiau i gael mynediad i’r Clybiau Atgofion Chwaraeon ar-lein a dros y ffôn. Roedd llawer o’r unigolion hyn wedi’u hynysu’n llwyr ond erbyn hyn mae ganddyn nhw gysylltiad wythnosol trwy Atgofion Chwaraeon ac maen nhw wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.

Er bod y clybiau cymunedol Atgofion Chwaraeon yn dechrau ail-agor ar ôl y pandemig, maent yn parhau â’u clybiau digidol ochr yn ochr â’r rhain er mwyn parhau i gysylltu â mwy o bobl hŷn.

I ddarganfod mwy neu i wneud cais i ddod yn wirfoddolwr atgofion chwaraeon ewch i: https://www.sportingmemoriesnetwork.com/forms/volunteering-enquiry