Neidiwch i’r prif gynnwys

Peter y gwirfoddolwr yn hyrwyddwr digidol i bobl hŷn yng ngorllewin Cymru

Mae Peter Loughran wedi bod yn helpu pobl yng ngorllewin Cymru i ddefnyddio technoleg ers dros deg mlynedd, ond mae’n dal i fwynhau’r boddhad o helpu rhywun i fynd ar-lein am y tro cyntaf.

Mae Peter Loughran yn wirfoddolwr digidol

Dechreuodd profiad Peter o wirfoddoli digidol yn 2007, pan oedd yn helpu pobl gyda’r trosglwyddiad teledu o ddaearol i ddigidol. Bellach, mae’n gwirfoddoli gyda U3A Caerfyrddin, Age Cymru Sir Gâr a RVS.

Mae’n cyflwyno sesiynau grŵp rheolaidd ond mae hefyd yn helpu pobl yn unigol. Mae pobl yn gofyn am ei help gydag amrywiaeth anferth o dasgau ar-lein – e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, siopa ar-lein, anfon negeseuon, Skype neu Facetime ac amrywiaeth eang iawn o apiau.

Meddai Peter, “Dw i’n cael boddhad mawr o helpu cleientiaid – sydd yn eu nawdegau weithiau – a gweld eu brwdfrydedd pan maen nhw’n darganfod y posibiliadau. Ac wrth gwrs, mae gwirfoddoli’n fy helpu i gael y newyddion diweddaraf, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â gwirfoddolwyr eraill.”

Yn ddiweddar, mae Peter wedi cofrestru ar gyfer y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Digidol, ac mae’r adnoddau, y modiwlau hyfforddiant a’r fforwm cyfathrebu ar-lein wedi bod yn offeryn defnyddiol ac amlbwrpas iddo er mwyn gwella ei wybodaeth a’i sgiliau. Mae’n annog pob gwirfoddolwr i gofrestru ar ei gyfer.

Effaith

Un o’r bobl a gafodd ei helpu gan Peter yw Rosemary, sy’n mynychu ei sesiynau digidol wythnosol yn U3A yng Nghaerfyrddin. Rhoddodd Peter help i Rosemary brynu llechen gyfrifiadurol addas a’i gosod.

Dywed Rosemary, “Mae cymorth Peter wedi trawsnewid fy mywyd! Heb ei help i brynu llechen a’i gymorth i osod popeth, ni fuaswn i’n defnyddio technoleg heddiw. Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan U3A ac Age Cymru Sir Gâr wedi bod yn hollbwysig. Mae gwirfoddolwyr fel Peter yn hanfodol wrth ddatblygu gwasanaeth amrywiol o ansawdd uchel i helpu pobl fel fi.”