Neidiwch i’r prif gynnwys

Stori Caroline

Mae Caroline Davis yn wirfoddolwr digidol ar gyfer Age UK, gan gynorthwyo pobl hŷn i fynd ar-lein yn bennaf.

Dyn oedrannus gyda merched iau yn edrych ar ffôn wrth wenu.

Dechreuais wneud gwaith gwirfoddol digidol ar ôl colli fy nhad ychydig flynyddoedd yn ôl. Roeddwn i wedi treulio cryn dipyn o amser yn ei helpu i ddefnyddio Twitter, Facebook a siopa ar-lein yn y gorffennol.  Roeddwn yn gweld eisiau y teimlad o allu helpu rhywun, felly mae gwneud gwaith gwirfoddoli digidol gyda phobl hŷn wedi bod yn brofiad mor werth chweil, hwyliog a diddorol.

I’n cenhedlaeth ni, mae technoleg mor endemig ac yn rhan annatod o’n bywydau.  Ond i nifer o bobl hŷn, nid ydynt erioed wedi cael unrhyw gyswllt gyda thechnoleg ddigidol ar unrhyw adeg.  Mae mor bwysig nawr – yn enwedig yn ystod y pandemig – bod pobl yn sylweddoli’r cyfleoedd gwerth chweil y mae mynd ar-lein yn eu cynnig.

Roedd un fenyw a helpais erioed wedi defnyddio tabled, ac erbyn hyn, mae’n gallu darllen y papur newydd bob dydd hyd yn oed gyda siop leol y pentref ar gau.  Mae arwahanrwydd ac unigrwydd yn beth mor ofnadwy, ac mae mor bwysig bod y rhai hynny ohonom sydd ag ychydig amynedd a rhywfaint o sgiliau digidol yn helpu pobl hŷn i fynd ar-lein.

Quotation mark

Mae mor bwysig bod y rhai hynny ohonom sydd ag ychydig amynedd a rhywfaint o sgiliau digidol yn helpu pobl hŷn i fynd ar-lein.

Caroline