Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae technoleg yn helpu i greu amgylchedd hapus, cyfeillgar yng Nghartref Gofal Tŷ Gwyn

Mae Cartref Gofal Tŷ Gwyn yn cefnogi 55 o oedolion sydd wedi cael diagnosis meddygol cymhleth amrywiol, gan gynnwys dementia a diffyg synhwyraidd. Trwy weithio gyda Cymunedau Digidol Cymru, fe wnaeth wella hyder digidol staff a phreswylwyr, a gwelwyd amrywiaeth o welliannau lles o ganlyniad.

Default Alt Text

Pam?

Mae Tŷ Gwyn yn gartref gofal preswyl yng Nghwmbrân, sy’n cael ei redeg gan Hafod Care. Mae’r staff yn ymfalchïo mewn darparu amgylchedd hapus, cyfeillgar a chynnes, sy’n caniatáu i breswylwyr fod mor annibynnol neu gysylltiedig ag y bydd eu hanghenion a’u hangenrheidiau yn ei ganiatáu.

Fel nifer o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, roedd y tîm yn ymwybodol y gall technoleg ddigidol gynnig amrywiaeth o fuddion iechyd a lles i bobl. Mae hyn yn arbennig o wir ymhlith pobl hŷn a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor. Felly roeddent yn falch iawn o gael gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i ddatblygu gweithgareddau digidol yn y cartref.

Sut?

I ddechrau ar bethau, fe wnaeth chwe aelod o staff Tŷ Gwyn gymryd rhan mewn hyfforddiant a gynigiwyd gan Cymunedau Digidol Cymru. Fe wnaeth y sesiwn, Gweithgareddau Digidol Ysbrydoledig, agor eu llygaid i’r posibiliadau a gynigir gan dechnoleg ddigidol i wella bywydau preswylwyr. Rhoddwyd benthyg dyfeisiau i’r tîm, gan gynnwys penset rhithwirionedd, llechi ac Echo Dot, am dri mis, er mwyn iddyn nhw roi cynnig ar weithgareddau gwahanol gyda’r preswylwyr. Yn olaf, cyfeiriodd Cymunedau Digidol Cymru y staff at amrywiaeth o adnoddau ar-lein, y gallent eu defnyddio i ddatblygu gweithgareddau digidol.

Effaith

O fwynhau posau a chroeseiriau ar-lein i ddarganfod y penawdau newyddion diweddaraf, fe wnaeth preswylwyr Tŷ Gwyn fwynhau defnyddio’r dechnoleg mewn nifer o ffyrdd gwahanol.

Roedd y penset rhithwirionedd yn arbennig o ddefnyddiol yn yr uned dementia – dywedodd y Rheolwr, Tracey Webb, ei bod yn hyfryd gweld y preswylwyr yn defnyddio’r penset ac yn chwerthin gyda’r staff.  Fe wnaeth yr Echo Dot alluogi’r bobl yn yr uned breswyl i wirio’r tywydd a’r penawdau newyddion. Pan roedd ymweliadau a theithiau’n cael eu trefnu, anogwyd pobl i’w ddefnyddio i ddarganfod mwy am ble yr oeddent yn mynd.

Ar gyfer staff y cartref, roedd benthyg yr offer yn golygu eu bod nhw’n gallu rhoi cynnig ar weithgareddau gwahanol a gweld beth oedd yn gweithio. Roedd modd iddynt wedyn lunio achos busnes mwy cymhellol i brynu eu hoffer eu hunain, a oedd yn bodloni anghenion y preswylwyr orau.