Neidiwch i’r prif gynnwys

Comisiynydd Pobl Hyn Cymru: Gadael Neb ar Ol (2020)

Camau Gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hyn

Default Text

Mae’r cyfnod hwn wedi dangos bod angen camau brys a radical i gynyddu cynhwysiant digidol yng Nghymru. Dylai mynediad digidol gael ei weld yn awr fel hawl ac fel cyfleustod hanfodol yn yr un ffordd â nwy a thrydan.

Darllenwch yr adroddiad yma: Gadael Neb ar Ol [yn agor mewn ffenestr newydd]

 

Quotation mark

“Mae cymaint yn teimlo’n anniddig, yn bennaf am fod cymaint ohonynt nad ydynt yn defnyddio Cyfryngau Cymdeithasol. Waeth faint o weithiau y dangosir i fy Ngrŵp sut i ddefnyddio’r ffonau neu’r llechi mwyaf elfennol, nid ydynt yn teimlo’n ddigon hyderus i’w defnyddio ar eu pen eu hunain. Mae hyn wrth gwrs yn gwneud i lawer deimlo eu bod yn dioddef gwahaniaethu am nad ydynt yn cael gwybodaeth hanfodol.”

Person hŷn mewn digwyddiad ymgysylltu

Quotation mark

I lawer o bobl hŷn, mae’r pryder a’r ynysigrwydd maent wedi’u profi yn ystod pandemig Covid-19 wedi’u dwysau drwy beidio â bod ar-lein. Heb fynediad at y rhyngrwyd, gall fod yn anodd canfod gwybodaeth, cael atebion i gwestiynau, a chadarnhau cynnwys adroddiadau. Mae mynediad i’r rhyngrwyd yn dod â buddiannau ehangach sydd wedi bod yn arbennig o bwysig i lawer o bobl hŷn yn ystod y pandemig, fel helpu i’w cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a defnyddio gwasanaethau ar-lein gwerthfawr fel danfon bwyd neu feddyginiaethau.

Adroddiad