Neidiwch i’r prif gynnwys

Mis Ionawr! Mae’n bryd cyflwyno trefn ffitrwydd newydd!

Catherine Evans sy'n edrych ar yr apiau ymarfer corff fydd yn annog pobl i fynd ar-lein

Merch yn defnyddio app ffitrwydd ar ei wyliad smart i fonitro perfformiad ymarfer.

Os ydych chi fel fi, mae eich trefn ymarfer corff wedi mynd i’r wal ers mis Rhagfyr (a mis Tachwedd hefyd os ydw i’n gwbl onest). Felly os ydych chi’n teimlo bod arnoch angen dechrau 2019 gyda chynllun ffitrwydd newydd sbon, mi fyddwch yn falch o glywed bod defnyddio technoleg yn gallu bod yn ffordd wych o ddod o hyd i sesiwn ymarfer corff newydd, rhoi hwb i’ch ysgogiad a dilyn eich cynnydd – heb i chi fynd ar gyfyl y gampfa!

Mae defnyddio’r apiau hyn hefyd yn ffordd wych o annog pobl sydd ddim ar-lein i ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol.

Mae yna filoedd o apiau ffitrwydd ar y farchnad, ond dyma’r rhai y mae tîm Cymunedau Digidol Cymru yn eu hargymell. Maent yn hawdd i ddefnyddwyr technoleg rheolaidd eu defnyddio, a gellir eu lawrlwytho i ffôn clyfar neu dabled. Mantais arall yw bod y rhan fwyaf ohonynt yn rhad ac am ddim.

7 minute workout

Os oes arnoch angen rhywbeth sy’n gyflym ac yn effeithiol, dyma’r ap i chi. Mae’r ap ffitrwydd hwn, sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar unrhyw adeg, yn unrhyw le, heb offer, yn berffaith i unrhyw un sy’n teimlo nad oes ganddynt yr amser i wneud ymarfer corff na’r arian i dalu am offer drud neu i ymaelodi â’r gampfa. Mae’r sesiynau yn para ychydig dros saith munud ac yn cynnwys 12 ymarfer sy’n 30 eiliad yr un, gyda saib o 10 eiliad i ddilyn pob un. Gyda phob ymarfer mae yna gyfarwyddiadau llawn ar ffurf fideo, sain, delweddau a geiriau. Gallwch hefyd ddilyn eich gweithgarwch a monitro’ch cynnydd yn yr ap, er mwyn cynnal eich ysgogiad.

Active10

Mae Cynghorydd Cymunedau Digidol Cymru, Lon Mosely yn hoff iawn o ap Active 10 y GIG. Mae’n declyn tracio cerdded sy’n eich annog i gerdded yn sionc am 10 munud bob dydd – ac yn berffaith i bobl hŷn. Gall cerdded yn sionc am 10 munud yn rheolaidd wneud i chi deimlo’n well mewn sawl ffordd. Gall roi hwb i’ch egni, clirio’ch pen a chodi’ch hwyliau. Gall helpu pobl sydd â phoen yng ngwaelod y cefn a’r rheiny sydd mewn perygl o ddioddef pwysedd gwaed uchel. Mae’n wych hefyd ar gyfer eich iechyd hirdymor – gall leihau’r perygl i chi ddioddef salwch difrifol fel clefyd y galon, diabetes math 2, dementia a rhai mathau o ganser.

Couch25k

Rhedeg yn brofiad newydd? Cynlluniwyd Couch to 5K ar gyfer y rheiny sy’n dechrau o’r dechrau’n deg. Mae’r ap hwn yn eich cael chi ar eich traed, yn symud, ac yn eich helpu i symud yn hwylus o gerdded i redeg. Wrth i chi wella, mae’r sesiynau’n mynd yn fwy anodd. Y nod yw ei ddefnyddio dair gwaith yr wythnos am 20 i 30 munud ar y tro, ac mewn naw wythnos byddwch yn barod i redeg 5 cilometr. Mae rhith-hyfforddwr yn eich tywys trwy bob sesiwn. Os ydych yn defnyddio fersiwn rhad ac am ddim y GIG/BBC, ‘One You’, cewch ddewis o amrywiaeth o hyfforddwyr, gan gynnwys Jo Whiley, Sarah Millican a Michael Johnson.

MyFitnessPal

Mae Rheolwr Cymunedau Digidol Cymru, Matt Lloyd, yn taeru wrth MyFitnessPal. Mae’r ap hwn wedi bod ar gael ers meitin, ac mae yna reswm da dros hynny. Yn ogystal â chyfrif calorïau, mae’n dilyn eich sesiynau ymarfer corff ac yn cyfrif eich camau. Mae MyFitnessPal hefyd yn gallu cysylltu gyda sawl ap arall, gan gynnwys Strava (gweler isod) a dyfeisiau yr ydych yn eu gwisgo fel FitBit a Garmin GPS.

Fitbit

Cynlluniwyd ap Fitbit i weithio gyda’r teclyn tracio gweithgarwch o’r un enw yr ydych yn ei wisgo, ac mae’n cyfrif eich camau a’r calorïau yr ydych yn eu llosgi wrth ddilyn eich cyflymder a’r pellter yr ydych yn ei deithio. Gallwch ddefnyddio’r ap ar ei ben ei hun hefyd i ddilyn gweithgarwch sylfaenol trwy eich ffôn. Gallwch osod targedau ar gyfer sesiynau ymarfer corff ac arferion cysgu a bwyta, a’u rheoli. Pan fyddwch yn cysylltu’r ap at ddyfais yr ydych yn ei gwisgo, gall gasglu data ar bopeth, o guriad eich calon i faint o gwsg heddychlon yr ydych yn ei gael bob nos. Mae Cynghorydd Cymunedau Digidol Cymru, Angela Jones, yn cadw llygad barcud ar ei chamau pan fydd hi yn y swyddfa!

Strava/Map My Run

Waeth a ydych chi’n rhedeg yn rheolaidd neu am ddechrau arni, mae’r apiau hyn yn eich helpu i gadw llygad ar eich cyflymder, pellter, hyd y sesiwn, calorïau, a mwy. Os ydych chi wrth eich bodd yn cystadlu â’ch ffrindiau, yna gallwch ddefnyddio’r apiau hyn i gymharu’ch canlyniadau gyda phobl eraill yn eich ardal. Dyma ffordd wych o gynnal eich ysgogiad, gan eu bod hefyd yn dweud wrthych pan fyddwch wedi cyflawni eich amser gorau dros bellter penodol. Rydw i wrth fy modd yn defnyddio Strava wrth redeg – ‘does dim byd gwell na gwybod ‘mod i wedi rhagori ar fy amser gorau wrth redeg ar fy llwybr arferol.

Zombies, Run

Os ydych chi wrth eich bodd â gemau fideo, dyma’r ap ffitrwydd i chi. Cewch ddewis tasg, neu stori, a chi yw’r prif gymeriad mewn sesiwn redeg, yng nghwmni troslais. Mae pob tasg yn symud eich stori yn ei blaen, a bob nawr ac yn y man mae llond lle o sombïod yn dechrau eich erlid, gan eich gorfodi i gyflymu ac weithiau rhedeg nerth eich traed yn ystod eich sesiwn hyfforddi. Ond, peidiwch â phoeni’n ormodol, chewch chi ddim bod yn swper i sombi, er y gallech golli cyflenwadau hanfodol, ac mae hyn yn cadw’ch sylw wrth i chi redeg. Mae Jo Brown, aelod o dîm marchnata Cymunedau Digidol Cymru, wrth ei bodd yn defnyddio’r ap hwn i groesi Caerdydd pan fydd hi ar frys!

Spotify Running

Os oes arnoch angen cerddoriaeth er mwyn gwneud ymarfer corff, yna ap Spotify Running yw’r un i chi. Yn lle rhedeg a cheisio cadw i fyny gyda chyflymder y gerddoriaeth, mae ap Spotify Running yn cyfateb y gerddoriaeth atoch chi. Mae’r ap yn dewis cerddoriaeth sy’n cyd-fynd â’ch cyflymder chi er mwyn eich helpu i gadw i fyny. Mae’n gweithio allan yn yr awyr agored, a dan do ar y peiriant rhedeg, ac mae’n gweithio gyda chyflymder rhwng 140 a 190 curiad yr eiliad.

Yoga.com a pocket yoga

Os ydych chi’n chwilio am ymarfer corff sy’n fwy ysgafn, yna mae yna ddigon o apiau yoga i ddewis ohonynt. Mae’r apiau hyn yn darparu fideos i ddangos ystum y corff yn ogystal ag ymarferion anadlu. Maent yn eich galluogi i ddod o hyd i ystumiau ar sail math, lefel a ffactorau eraill. Ac, yn ogystal, gallwch weld y cyhyrau y byddwch yn eu defnyddio ymhob ystum. Mae yna raglenni niferus hefyd i’ch helpu i ddechrau ar eich trefn hyfforddi neu ei symud yn ei blaen.

Os ydych chi wrth eich bodd ag ap ffitrwydd penodol, da chi dywedwch wrthym ar Twitter trwy grybwyll @DC_Wales a defnyddio’r hashnod #GetFitGetOnline