Neidiwch i’r prif gynnwys

Canllaw newydd yn hyrwyddo cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i wella cynhwysiant digidol yng Nghymru trwy gyhoeddi canllaw newydd

Mae’r ddogfen, sy’n cael ei lansio ddydd Iau 11 Gorffennaf, wedi’i bwriadu ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ac mae’n cynnwys cyngor ymarferol ar sut i gefnogi cynhwysiant digidol yn lleol.

Mae cynhwysiant digidol yn golygu bod â’r cymhelliad, y sgiliau a’r mynediad i elwa’n llawn ar dechnoleg ddigidol. Os nad oes gan bobl un o’r rhain, neu gyfuniad ohonynt, gallent fod wedi’u hallgáu’n ddigidol ac mewn perygl o gael eu gadael ar ôl mewn cymdeithas lle mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, yn mynd ar-lein.

At ei gilydd, nid yw 11 y cant o oedolion yng Nghymru ar-lein, ond mae rhai rhannau o’r boblogaeth mewn perygl uwch o allgáu digidol nag eraill. Mae’r rhain yn cynnwys pobl hŷn, pobl ag anabledd neu broblemau iechyd tymor hir a phobl sydd â llai o fynediad at addysg.

Dywedodd Bob Gann, awdur y canllaw ac ymchwilydd ymgynghorol ar gynhwysiant digidol ac iechyd yng Nghymru: “Nid yw mwy nag un o bob 10 o boblogaeth Cymru ar-lein, gan gynnwys llawer o’r rhai y mae arnynt angen gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol fwyaf. Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor ymarferol i sefydliadau iechyd a gofal ar ffyrdd y gallant gynorthwyo pobl i fynd ar-lein a manteisio i’r eithaf ar fuddion iechyd digidol.”

Dywedodd Andrew Griffiths, Prif Weithredwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: “Mae mynediad at dechnoleg ddigidol yn allweddol i’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau ar draws GIG Cymru, a rhan bwysig o hynny yw galluogi pobl i reoli eu hiechyd a’u gofal eu hunain. Bydd y canllaw newydd hwn yn helpu sefydliadau i ddatblygu’r defnydd o dechnoleg ar draws pob rhan o gymdeithas.”

Dywedodd Karen Lewis, Cyfarwyddwr Arloesi ac Ymgysylltu yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru:

“Wrth i dechnoleg ddatblygu’n gyflymach fyth, mae’r cyfleoedd ar gyfer dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol. Fodd bynnag, un o’r heriau allweddol yw sicrhau bod gan staff, gofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth a chleifion y sgiliau digidol sy’n ofynnol i elwa o’r trawsnewidiad sydd eisoes yn digwydd, ond sy’n debygol o gynyddu cryn dipyn yn ystod y blynyddoedd i ddod.

“Mae’r canllaw newydd hwn yn rhoi sylfaen ragorol i bobl sy’n gweithio ym meysydd iechyd a gofal yng Nghymru, wrth iddynt gychwyn ar y daith trawsnewid digidol gyda’u cydweithwyr, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth.”

Mae cyhoeddi’r Canllaw Cynhwysiant Digidol yn dilyn adroddiad diweddar ar sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i gefnogi a monitro iechyd yng Nghymru, gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r canllaw ar gael i’w lawrlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

Graffeg o ganllaw cynhwysiant digidol

Mae’r GIG yng Nghymru wedi ymrwymo i alluogi pobl i ddefnyddio technolegau digidol i reoli’u hiechyd, eu lles a’u gofal eu hunain. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys ystod o adnoddau sy’n gallu helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu’n lleol.

Lawrlwythwch y canllaw