Neidiwch i’r prif gynnwys

Pam a sut mae actifydd undeb llafur yn ceisio helpu pobl hyn i fynd ‘ar-lein’

Mae Jenny Sims yn newyddiadurwr llawrydd yng Nghaerdydd, yn Gyd-gadeirydd Cyngor 60+ yr NUJ, ac yn Aelod o Weithrediaeth Genedlaethol y Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol, sy’n cynrychioli dros 1,000 o sefydliadau cyswllt - gan gynnwys Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, a miliwn o aelodau. Chwaraeodd ran annatod yn perswadio’r Confensiwn i sefydlu gweithgor newydd ar Gynhwysiant Digidol, i helpu mwy o bobl i fynd ar-lein. Bydd y gweithgor yn cyfarfod am y tro cyntaf ar y 3ydd o Fedi.

Ers talwm, cefais swydd fel newyddiadurwr dan hyfforddiant ar bapur newyddion wythnosol, gyda hen deipiadur swyddfa a fyddai’n clindarddach wrth i chi daro’r bysellau ac yn canu wrth i chi ddychwelyd y cludwr.

Heddiw, mae gen i liniadur, iPad ac iPhone – sy’n canu cân pan gaf alwad ac yn tincian pan gaf neges. Yn y cyfamser, symudais ymlaen o o deipiaduron llaw cludadwy a theipiaduron trydanol, trwm, i gyfrifiaduron a bysellfyrddau pan ymunodd y cylchgrawn lle’r oeddwn i’n gweithio â’r oes ddigidol. Gorfodwyd newid arnaf ac, yn ffodus, rwyf wedi bod yn diweddaru fy sgiliau digidol i gadw i fyny â newid fyth ers hynny.

Ond, nid yw llawer o bobl hŷn wedi bod mor ffodus; nid ydynt erioed wedi defnyddio cyfrifiadur na ffôn clyfar ac maent o dan anfantais, wedi’u dieithrio a’u difreinio, ac mae arnynt ofn newid yn aml. Felly, er bod llawer o gynlluniau ar gael i’w helpu i ddysgu a defnyddio cyfrifiaduron, nid yw rhai pobl am drafferthu.

Mae adroddiadau niferus yn dangos bod llythrennedd digidol yn gallu helpu i godi pobl allan o dlodi a lliniaru unigrwydd ac unigedd – materion y mae Cyngor 60+ Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) a’r Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol yn ymgyrchu drostynt.

Gan fy mod yn credu bod llythrennedd digidol yn allweddol i fynd i’r afael â’r materion hyn, ar ôl cael fy ethol i Weithrediaeth Genedlaethol y Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol, llwyddais yng Nghynhadledd Eilflwydd y Cyfranogwyr yn gynt eleni i’w berswadio i sefydlu gweithgor newydd ar Gynhwysiant Digidol, yn benodol i helpu cael mwy o bobl ar-lein.

At hynny, cymeradwywyd cynnig arall yn galw ar y Confensiwn i ymgyrchu dros amddiffyn y bobl hŷn hynny nad ydynt, ac na fyddant fyth, ar-lein. O ganlyniad, bydd y gweithgor a sefydlwyd yn mynd i’r afael â’r ddau fater a’i enw yw’r gweithgor Cynhwysiant/Allgáu Digidol.

Ond ni fydd yn orchwyl hawdd. Roedd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru, a siaradodd mewn sesiwn ar Gynhwysiant Digidol yn Senedd flynyddol y Confensiwn i Bensiynwyr yn Blackpool, ym mis Mehefin, wedi ‘synnu o weld y dicter a’r ofn ynghylch y pwysau roedd pobl yn ei deimlo i fynd ar-lein’.

Nodau allweddol y gweithgor fydd helpu pobl i oresgyn yr ofn a’r elyniaeth honno, rhoi cyhoeddusrwydd i waith Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant – prosiect cynhwysiant digidol gan Lywodraeth Cymru a gyflwynir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru – a gwaith mudiadau eraill drwy ei 1,000 o sefydliadau cyswllt, undebau a fforymau pobl hŷn, ac annog pobl heb unrhyw sgiliau digidol i ymuno. Ein gobaith yw gwneud gwahaniaeth. Gwyliwch y gofod hwn!