Neidiwch i’r prif gynnwys

Y cyntaf o’i fath yng Nghymru – lansio cynllun benthyca llechi yn llyfrgelloedd Bro Morgannwg!

Heddiw, lansiwyd cynllun a fydd yn galluogi aelodau llyfrgelloedd Bro Morgannwg i fenthyg iPad yn yr un modd ag y gallant fenthyg llyfr.

Dyma’r cynllun cyntaf o’r fath yng Nghymru, sydd wedi gweld Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, Cyngor Bro Morgannwg, Cymdeithas Tai Newydd a nifer o bartneriaid eraill, yn cydweithio i wireddu ‘Cynllun Benthyca Llechi’r Fro’.

Dywedodd Danielle Roberts, Ymgynghorydd Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant: “Fel prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae’n wych ein bod yn helpu i arwain ar y cynllun hwn. Trwy ein gwaith, rydym yn cefnogi sefydliadau i helpu mwy o bobl i fwynhau buddion technoleg ddigidol yn ein cymunedau; darparu mynediad at wasanaethau lleol, goresgyn unigedd a chyfoethogi eu bywydau trwy fod ar-lein. Mae’r fenter hon hefyd yn ganlyniad perthynas waith hirsefydlog gyda Chymdeithas Tai Newydd, yn enwedig Scott Tandy, yn ei rôl fel Swyddog Adfywio Cymunedol.”

Erbyn hyn, gall 45,000 o aelodau llyfrgell gael mynediad at y rhyngrwyd trwy’r llechi sydd ar gael trwy’r cynllun hwn, i’w helpu nhw i ddysgu mwy am dechnoleg ddigidol. Yn ogystal, bydd y cynllun peilot arloesol yn darparu cymorth i’r rheiny sy’n benthyg llechen, a bydd Hyrwyddwyr Digidol gwirfoddol ar gael i helpu.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, Cyngor Bro Morgannwg: “Nid oes gan lawer o bobl ledled Bro Morgannwg fynediad rheolaidd i’r rhyngrwyd ac, o ganlyniad, cânt eu hallgáu o ystod eang o adnoddau a gwasanaethau hanfodol. Bydd y prosiect arloesol hwn yn cynorthwyo aelodau llyfrgell i fenthyg llechi yn yr un modd ag y gallant fenthyg llyfrau. Gobeithiwn y bydd y prosiect yn helpu’r rhai sydd angen mynediad i’r rhyngrwyd a thechnoleg fwyaf.

Gan nad yw 11% o oedolion yng Nghymru ar-lein, mae’n gyfle gwych i bobl ddatblygu sgiliau digidol newydd. Bydd yr iPads yn cael eu llwytho o flaen llaw gyda llawer o apiau defnyddiol, gan gynnwys mynediad at wasanaethau ar-lein y llyfrgell, apiau iechyd a llesiant, a gwybodaeth leol. Daw’r iPads â mynediad i’r rhyngrwyd, ac felly bydd hi’n bosibl i’r rheiny sydd heb gysylltiad rhyngrwyd gartref eu defnyddio.

Dywedodd Jane Hutt AC, Bro Morgannwg: “Rwy’n hynod falch bod y Cynllun Benthyca Llechi wedi cael ei lansio ym Mro Morgannwg. Bydd y cynllun yn helpu preswylwyr Bro Morgannwg i fynd ar-lein. Mae allgáu digidol yn cyfrannu’n fawr at unigrwydd ac arwahanrwydd, ac mae mor bwysig ein bod yn helpu cymaint o bobl â phosibl i gael mynediad at gymunedau a gwasanaethau ar-lein.”

Cymunedau Gwledig Creadigol yw menter adfywio wledig Cyngor Bro Morgannwg. Dywedodd Kaz van den Berg, Cymunedau Gwledig Creadigol: “Mae Cymunedau Gwledig Creadigol yn falch o beilota Cynllun Benthyca Llechi’r Fro ym Mro Morgannwg. Mae ardaloedd gwledig yn fwy agored i allgáu digidol a bydd darparu’r cynllun hwn ym mhob un o’n llyfrgelloedd yn sicrhau bod preswylwyr y Fro yn cael cyfle i gael mynediad at wasanaethau ac i archwilio manteision bod ar-lein. Edrychwn ymlaen at weld sut bydd ein cymunedau yn elwa o’r prosiect arloesol hwn.”

Os ydych yn byw ym Mro Morgannwg, ac os oes gennych ddiddordeb yng Nghynllun Benthyca Llechi’r Fro, ewch i’ch llyfrgell leol i gael mwy o wybodaeth.

Mae Cynllun Benthyca Llechi’r Fro yn cael ei arwain gan Gymdeithas Tai Newydd a Chymunedau Digidol Cymru, gyda chymorth ariannol trwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae Gwasanaethau Llyfrgell Bro Morgannwg, Cwmni Adeiladu Hale Construction a WK Plasterers yn cefnogi’r cynllun.