Neidiwch i’r prif gynnwys

Cadwch y dyddiad: Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020

Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu ledled y byd ar 11 Chwefror 2020, gyda’r thema: Gwella’r we gyda’n gilydd.

Mae’r diwrnod yn gyfle gwych i ddechrau sgwrs am y defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ac i ysbrydoli pobl ifanc i greu rhyngrwyd well i’r dyfodol. Yng Nghymru, byddwn yn cefnogi digwyddiadau a gweithgareddau, yn hyrwyddo’r rhai sy’n cael eu cynnal gan sefydliadau eraill, yn rhannu adnoddau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ac yn codi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch yn gyffredinol.

Beth yw Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel?

Nod Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw ysbrydoli sgwrs genedlaethol ynghylch defnyddio technoleg mewn ffordd gyfrifol, barchus, feirniadol a chreadigol. Mae’r dathliad, a gydgysylltir gan yr UK Safer Internet Centre yn y DU, yn cynnwys cannoedd o sefydliadau yn helpu i hyrwyddo’r defnydd diogel, cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol i blant a phobl ifanc.

Mae’r diwrnod yn gyfle i amlygu defnyddiau cadarnhaol o dechnoleg ac archwilio’r cyfraniad rydyn ni i gyd yn ei wneud at helpu i greu cymuned ar-lein well a mwy diogel. Mae’n galw ar bobl ifanc, rhieni, gofalwyr, athrawon, gweithwyr cymdeithasol, gorfodwyr y gyfraith, cwmnïau, llunwyr polisïau a mwy i gydweithio i helpu i greu rhyngrwyd well.

Yn arbennig, rydyn ni’n annog yr ysgolion a sefydliadau eraill sydd wedi bod yn rhan o’n menter Arwyr Digidol i ddangos unwaith eto sut y gall plant a phobl ifanc yng Nghymru gymryd perchnogaeth dros greu rhyngrwyd ddiogelach.

O ganlyniad i gamau ar y cyd yn y DU, cyrhaeddodd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 46% o bobl ifanc 8-17 oed a 26% o rieni yn y DU.
Lledaenu’r gair

I gymryd rhan yn # Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel/#SaferInternetDay:

• Ewch i www.saferinternetday.org.uk
• Dilynwch @UK_SIC ar Twitter
• Ymunwch â’r sgwrs genedlaethol gan ddefnyddio #SaferInternetDay
• Hoffwch @saferinternetuk ar Facebook
• Dilynwch @DC_Wales ar Twitter, a Cymunedau Digidol Cymru ar Facebook
• Dilynwch @UK_SIC ar Instagram

Gallwch chi helpu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel i gyrraedd mwy fyth o bobl! Beth am drydar hwn:

Cadwch y dyddiad! Dydd Mawrth 11 Chwefror 2020 yw DiwrnodDefnyddio’rRhyngrwydynFwyDiogel! I ddysgu mwy am sut y gallwch chi gymryd rhan, dilynwch @UK_SIC ac ewch i www.saferinternetday.org.uk