Neidiwch i’r prif gynnwys

Strategaeth Ddigidol i Gymru – gosod y cyd-destun

Post gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Nid yw’n ymwneud yn unig â chyfrifiaduron. Gadewch i ni fod yn glir am hynny o’r dechrau.

Mae’r term ‘digidol’ yn cwmpasu llawer, ond yn ei hanfod mae’n ymwneud â defnyddio technoleg i wneud pethau’n well – i wneud cwmnïau’n fwy cynhyrchiol neu i greu cynnyrch a marchnadoedd newydd, yn ogystal â datblygu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid.

Ddwy flynedd yn ôl, cadeiriais banel arbenigol i Lywodraeth Cymru edrych ar sut y gallem harneisio pŵer digidol i wella gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein hadroddiad Newid y System yn ei roi fel hyn: “nid yw newid digidol yn ymwneud â thechnoleg yn unig, mae’n ymwneud â newid diwylliant. Mae’n ymwneud â bod yn agored. Mae’n ymwneud â defnyddio data i ddatrys problemau. Yn hytrach na chynllunio gwasanaethau o safbwynt yr hyn y mae sefydliadau’n credu sydd ei angen ar ddinasyddion, mae dull digidol yn cynnwys cynllunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y defnyddiwr terfynol”.

Mae gallu cael gafael ar y pethau bob dydd sydd eu hangen arnom yn ddigidol bellach yn normal. Ond fel y dangosodd pandemig COVID i ni, nid oedd hynny’n wir am lawer o wasanaethau cyhoeddus allweddol. Gwelsom addasu cyflym i newid ein ffordd o weithio a byw, ac mae’r profiad wedi codi ymwybyddiaeth a disgwyliadau o ran sut mae’n rhaid i ni barhau i arloesi.

Ein gweledigaeth

Rydym am i bobl yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus modern, effeithlon a symlach ac ar yr un pryd, ysgogi arloesedd yn ein heconomi a chefnogi canlyniadau heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ein gweledigaeth yw y bydd “Digidol yng Nghymru yn gwella ansawdd bywyd, cynaliadwyedd a thwf economaidd, gan greu gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gefnogir gan arweinyddiaeth effeithiol, data a diwylliant o arloesi a chydweithredu.”

Rydym yn creu strategaeth ddigidol i Gymru a fydd yn ein helpu i gyflawni yn erbyn y weledigaeth honno. Rhaid iddi nodi’n glir ein huchelgais ar gyfer Cymru, y canlyniadau yr ydym am eu gweld a’r camau gweithredu a fydd yn eu cyflawni.

Mae ein ffordd o feddwl wedi datblygu dipyn ond rydym am brofi lle rydyn ni arni a defnyddio dulliau torfol i gasglu syniadau i’w chryfhau. Felly, rydym yn rhannu ein drafft yn agored i gael eich mewnbwn i helpu i lunio’r fersiwn derfynol.

Mae’r strategaeth wedi’i rhannu’n genadaethau sy’n dod o dan y weledigaeth. Mae’r cenadaethau’n disgrifio’r hyn yr ydym am ei gyflawni.

Default Alt Text

Rhannu ein ffordd o feddwl

Dyma’r cyntaf o gyfres o bostiadau y byddwn yn eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf. Byddwn yn creu blog am bob cenhadaeth yn ei thro, gan ddarparu cyd-destun, y canlyniadau y bydd pob cenhadaeth yn eu cyflawni a rhai o’r camau gweithredu sydd wedi’u nodi i’w cyflawni. Rydym yn gobeithio, wrth ddefnyddio’r dull hwn, y gallwn gael adborth i’n helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y pethau cywir i gyflawni’r canlyniadau cywir.

Ein nod yw cyhoeddi’r strategaeth derfynol y flwyddyn nesaf. Nid yw hynny’n golygu bod camau wedi’u gohirio tan hynny. Mae llawer iawn o waith eisoes yn cael ei wneud ar draws sefydliadau yng Nghymru i ddarparu gwell gwasanaethau a chreu Cymru well. Rydym yn bwriadu arddangos rhai o’r rhain yn ein postiadau a’n digwyddiadau sydd ar y gweill. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) sydd newydd ei chreu hefyd yn profi dulliau newydd, yn datblygu safonau cyffredin ac yn canolbwyntio ar sgiliau a gallu digidol.

Cyflawni’r strategaeth

Er bod gan Lywodraeth Cymru rôl arweiniol glir o ran cyflawni, ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio â’r holl sefydliadau sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chyda chefnogaeth y Prif Swyddogion Digidol yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol, a CDPS y gallwn gyflawni ein huchelgais. Bydd gan CDPS, sydd wedi helpu i ddatblygu’r strategaeth hon, rôl hefyd o ran monitro ac adrodd ar gynnydd unwaith y bydd y strategaeth wedi’i lansio.

I gyflawni ein canlyniadau rydym angen map trywydd clir ar gyfer gweithredu. Mae gwaith eisoes wedi ei wneud i nodi rhai camau sydd eu hangen a beth sydd angen newid ar gyfer bob cenhadaeth.  Yn gyfochrog â’r gwaith ymgysylltu, fyddwn yn troi’r camau rydym wedi nodi i mewn i gynllun cyflawni, yn amlygu rolau a chyfrifoldebau ar draws y Prif Swyddogion Digidol, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a sefydliadau sector gyhoeddus eraill. Fe fydd hwn yn ddogfen byw, yn amlinellu cynllun realistig ar gyfer y camau fyddwn yn cymryd yn y tymor byr a chanolig, yn hyblyg ac yn dibynnu ar adnoddau a blaenoriaethau.  Fydd cynnydd yn ei herbyn yn cael ei monitro a chofnodi

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Dyma ein cyfle i weld mwy o gydweithrediad rhwng dinasyddion, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau i ddarparu gwell gwasanaethau, tyfu’r economi a chefnogi llesiant cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Rydym am i wasanaethau gael eu cynllunio i gefnogi pobl beth bynnag fo’u cefndir, ac mewn ffordd sy’n golygu y gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Disgwyliwn i’r strategaeth gyfrannu at gynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol, yn bennaf tuag at Gymru Ffyniannus, Cymru Fwy Cyfartal, Cymru o Gymunedau Cydlynus a Chymru â Diwylliant Bywiog lle y mae’r Gymraeg yn Ffynnu. Yn fwy sylfaenol, mae cyflawni trawsnewid digidol go iawn yn y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhoi cyfle enfawr i gyrff cyhoeddus gefnogi’r pum ffordd o weithio sy’n ofynnol gan y Ddeddf. Byddwn yn cynllunio gwasanaethau cyhoeddus digidol cydgysylltiedig drwy gydweithredu ac integreiddio. Drwy ymgysylltu‘n dda byddwn yn cynllunio gwasanaethau’n ymwneud yn uniongyrchol â defnyddwyr sy’n atal aneffeithlonrwydd a phrofiad anghyson i’r dinesydd. Yn olaf, drwy gynllunio gwasanaethau mewn ffordd ystwyth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau wedi’u cynllunio ar gyfer y tymor hir.

Oherwydd, nid yw ‘digidol’ yn ymwneud yn unig â chyfrifiaduron – mae’n ymwneud â phobl.