Neidiwch i’r prif gynnwys

Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 2 – Yr Economi Ddigidol

Post gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Fel yr wyf wedi dweud eisoes yn fy mlog cyntaf, mae ‘digidol’ yn ymwneud â mwy na thechnoleg yn unig – mae’n ymwneud â phobl hefyd. Mae hynny yr un mor wir yn achos ein heconomi.

Wrth inni ddod allan o’r pandemig ac ymadael â’r UE, bydd arloesedd digidol yn parhau’n rym a fydd yn tarfu ar ein bywydau. Ond mae manteision i hynny. Bydd yn golygu na fydd yn rhaid i bobl ymgymryd â thasgau bob dydd dibwys a bydd yn eu galluogi i fod yn fwy creadigol a chynhyrchiol. Bydd yn cefnogi swyddi sgiliau uwch y dyfodol. Bydd yn agor marchnadoedd newydd ar gyfer masnach. Bydd yn helpu i sbarduno economi llesiant ar gyfer pobl a busnesau Cymru.

Mae arloesi digidol hefyd yn newid byd gwaith a’n heconomi. Cydnabu’r Athro Phillip Brown hyn yn ei adolygiad ar gyfer y llywodraeth – Adolygiad o arloesi digidol. Ni ellir dadwneud y newid hwn. Rhaid inni gofleidio manteision arloesi ac awtomeiddio digidol, gan greu economi fodern ffyniannus ac iach yng Nghymru.

Nod y Strategaeth Ddigidol hon yw cefnogi’r uchelgais hwn.

Dyna pam mai ein hail Genhadaeth yw:

Sbarduno twf economaidd, cynhyrchiant a chydnerthedd drwy groesawu a manteisio ar arloesedd digidol.

Beth fyddwn ni’n ei wneud? 

Byddwn yn manteisio ar gyfleoedd i elwa ar dechnolegau newydd er mwyn sbarduno buddsoddiad, a denu talent newydd i Gymru. Gan fabwysiadu argymhellion yr Athro Brown i gyflymu trawsnewid diwydiannol, byddwn yn hoelio sylw ar hyrwyddo gwaith i ddatblygu clystyrau arloesi digidol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda diwydiant, sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid eraill i gyd-greu’r partneriaethau y bydd ar y clystyrau hyn eu hangen er mwyn ffynnu. Er enghraifft, rwy’n edrych ymlaen at y cynigion sy’n cael eu cyflwyno gan y sector addysg uwch yng Nghymru i greu “Cyflymydd Cenedl Ddata”, gan ddod a’i allu ef a gallu’r diwydiant a’r sector cyhoeddus ynghyd i sbarduno arloesedd ym maes data a deallusrwydd artiffisial.

Byddwn yn helpu busnesau i ddatblygu sgiliau eu gweithluoedd ar gyfer y dyfodol, gan fanteisio ar y newid yr ydym yn ei weld yn y galw am sgiliau Seiber a Deallusrwydd Artiffisial yng Nghymru.

Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, byddwn yn cefnogi twf yr economi ddigidol yng Nghymru drwy annog pobl i weithio’n hyblyg ac o bell, er mwyn helpu i sbarduno gwaith adfywio a gweithgarwch economaidd mewn cymunedau. Bydd hynny’n golygu y bydd gweithwyr yn gallu parhau’r un mor gynhyrchiol a bydd hefyd, ar yr un pryd, yn hyrwyddo gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Mewn blog diweddarach, byddwn yn trafod cysylltedd a’r seilwaith yr ydym am ei ddatblygu a manteisio arno er mwyn rhoi’r gefnogaeth orau y mae ei hangen ar fusnesau i gyflawni’n huchelgais ar gyfer economi ddigidol.

Chwilio am gyfleoedd ar gyfer gweithleoedd cydweithredol neu weithleoedd a rennir a'u harchwilio, ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat i annog cydweithredu a lleihau teithio. Gwella arferion a phrosesau caffael drwy weithio gyda chyflenwyr a rhanddeiliaid i sicrhau gwell canlyniadau i bawb. Cenhadaeth 2 Sbarduno twf economaidd, cynhyrchiant a chydnerthedd drwy gynnwys a defnyddio arloesedd digidol. Darparu cymorth seiberddiogelwch i alluogi cwmnïau yng Nghymru i gryfhau eu gwydnwch a'u cynhyrchiant pan fyddant yn wynebu bygythiadau seiber. Cefnogi busnesau i gyflymu ymaddasu i ddyfodol gwaith a sgiliau yng Nghymru yn seiliedig ar egwyddorion economi werdd, gynaliadwy a ffyniannus. Gweithio gyda busnesau, cyrff diwydiant, sefydliadau ymchwil a rhanddeiliaid eraill i hoelio cymorth ar y clystyrau diwydiannol penodol i sicrhau eu bod yn tyfu ac yn ffynnu.

Beth fydd yn wahanol?

Ein nod yw cyflawni’r set hon o ganlyniadau:

  • Sector a chymuned busnes digidol ffyniannus, fydd ag ecosystem gymysg o gwmnïau bach, canolig a mawr a fydd yn seiliedig ar dechnoleg.
  • Y gallu i fanteisio ar ddatblygiadau newydd ym maes arloesi digidol, i ragori mewn cystadleuaeth fyd-eang am farchnadoedd a diwydiannau newydd, ac i ddenu talent newydd i Gymru.
  • Bydd gan bobl y sgiliau i allu cyflawni swyddi’r dyfodol a bydd gan gyflogwyr ffynhonnell o dalent ar gyfer gyrfaoedd yn y maes digidol, ac ym maes data a thechnoleg.
  • Gweithlu cytbwys ac amrywiol yn yr economi ddigidol.
  • Bydd amrywiaeth o offer a thechnolegau digidol yn cael eu defnyddio i greu cymuned fwy cynaliadwy ac effeithlon, fydd ag enw da am arwain ar arloesi.
  • Mabwysiadu’r arferion gorau ym maes caffael, a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth symud Cymru yn ei blaen ac wrth gefnogi’r strategaeth hon.
  • Llai o allyriadau carbon oherwydd y bydd llai o bobl yn cymudo, a gweithlu cydnerth a fydd yn gallu ymateb yn gyflym i argyfyngau mawr.

Cynllun ar gyfer cyflawni

Fel y dywedwyd yn ein blogiau blaenorol, bydd yn rhaid wrth gynllun cyflawni clir er mwyn sicrhau’r canlyniadau hyn. Mae gwaith wedi’i wneud eisoes i nodi rhai o’r camau y mae angen eu cymryd a’r pethau y mae angen eu newid. Bydd y camau hyn yn y Strategaeth Ddigidol hon yn cefnogi’r gweithgarwch sy’n mynd rhagddo i greu adferiad economaidd. Dyma’r fersiwn gyntaf o’n map ffordd ar gyfer cyflawni’r nod hwnnw. Bydd yn ddogfen fyw a byddwn yn monitro ac yn adrodd ar y cynnydd a wneir.

Eich barn chi

Byddem yn falch iawn o gael clywed eich barn am yr amcanion sydd gennym yn y genhadaeth hon, am y canlyniadau yr ydym am eu cyflawni, ac am sut yr ydym yn bwriadu eu cyflawni. Er enghraifft:

  • Ydych chi’n credu mai dyma’r canlyniadau cywir?
  • Pa rwystrau allai godi, yn eich barn chi?
  • Ydych chi’n credu bod unrhyw fylchau ac, os ydych, beth ydyn nhw?
  • Pe bai’n rhaid ichi flaenoriaethu, beth fyddai eich 3 prif flaenoriaeth?
  • Pa enghreifftiau rydych chi wedi’u gweld yng Nghymru, neu y tu allan i Gymru, o ddiwydiannau sy’n defnyddio technolegau trawsnewidiol neu dechnolegau sy’n tarfu er mwyn ysgogi cynhyrchiant neu gydnerthedd?
  • Pa newidiadau neu welliannau rydych chi’n meddwl y gallai busnesau eu gwneud yn gyflym i roi hwb i’r broses o fabwysiadu rhagor o dechnolegau digidol?

Cadwch lygad am y blog nesaf ar y Genhadaeth Data a Chydweithredu, a fydd ar gael yn fuan.