Neidiwch i’r prif gynnwys

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021: Pam mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen

Mae pandemig Covid-19 wedi ein gorfodi ni i dreulio llawer mwy o’n bywydau ar-lein. Yma, mae’r Cydlynydd Cyfathrebu Gemma Murphy yn ystyried pam mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn fwy perthnasol yn 2021 nag erioed o’r blaen.

Fel rhiant i blentyn 5 oed doeddwn i ddim yn meddwl bod diogelwch y rhyngrwyd yn fater roedd angen i mi boeni amdano; wedi’r cwbl, pa mor aml mae fy mab yn mynd ar-lein mewn gwirionedd? Ond wrth i fyd addysg symud ar-lein, dechreuais feddwl am yr amser roedd yn ei dreulio o flaen sgrin a sylweddolais efallai y dylwn i ddechrau meddwl am ddiogelwch y rhyngrwyd a chymryd camau i’w amddiffyn rhag niwed.

Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu yn fyd-eang bob mis Chwefror er mwyn hybu defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol i blant a phobl ifanc ac annog sgwrs genedlaethol.

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gefnogwr brwd o’r ymgyrch hon. Eleni y thema yn y DU yw ‘Rhyngrwyd dibynadwy: beth sy’n ddibynadwy yn y byd ar-lein’.

Pam mae hyn yn fwy perthnasol nag erioed o’r blaen

Dangosodd adroddiad diweddar gan Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd fod cynnydd wedi bod mewn achosion o ecsbloetio plant ar-lein a chynnwys niweidiol yn 2020:

  • Gwnaeth eu dadansoddwyr brosesu 299,600 o adroddiadau, a oedd yn cynnwys rhybuddion gan aelodau’r cyhoedd. Mae hyn yn gynnydd o 15% ers 2019 pan gafwyd 60,400 o adroddiadau o’r fath.
  • Cadarnhawyd bod 153,350 o’r adroddiadau hyn yn cynnwys delweddau a/neu fideos o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae hyn yn cymharu â 132,700 yn 2019 – cynnydd o 16%. Mae pob adroddiad yn cynnwys rhwng un a miloedd o ddelweddau a fideos o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae hyn yn cyfateb i filiynau o ddelweddau a fideos.
  • Roedd 68,000 o’r adroddiadau hyn yn cynnwys deunydd wedi’i “hunan-gynhyrchu” o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol – cynnydd o 77% ers 2019 pan gafwyd cyfanswm o 38,400 o adroddiadau.

Wrth i blant barhau i ddarganfod ffyrdd newydd o gysylltu â’i gilydd ar bob math o ddyfeisiau a llwyfannau, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn eu helpu i wneud dewisiadau mwy doeth a mwy diogel ynglŷn â’r bobl maen nhw’n siarad gyda nhw a’r pethau maen nhw’n eu rhannu ar-lein, yn enwedig o ystyried y cynnydd yn nifer y bobl sy’n paratoi plant ar gyfer eu cam-drin yn rhywiol ar-lein.

Mae gan Internet Matters ganllaw manwl i rieni a gofalwyr sy’n esbonio sut i helpu plant i ddeall problem ‘perygl dieithriaid’ ar-lein.

Fel rhiant beth alla i ei wneud?

Wrth i ddysgu ar-lein ddod yn norm rydw i wedi dechrau sgwrsio gyda fy machgen bach am bwysigrwydd diogelwch ar-lein. Mae’n gwybod y dylai ddweud wrtha i os bydd yn gweld rhywbeth sy’n ei ypsetio ar-lein, ac rydw i hefyd wedi dileu fy app Youtube a gosod fersiwn ar gyfer plant yn ei le. Os yw’n defnyddio Youtube kids gallaf fonitro’r pethau mae’n eu gwylio a blocio fideos dydw i ddim eisiau iddo eu gwylio. Rydw i hefyd wedi newid y gosodiadau ar fy llwybrydd rhyngrwyd i chwilio’n ddiogel ac mae hyn yn cynnig amddiffyniad ychwanegol rhag cynnwys niweidiol.

Mae’r Ganolfan Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel wedi cynhyrchu llawer o adnoddau wedi’u hanelu at rieni i’w helpu i gynorthwyo eu plant i adnabod ffynonellau gwybodaeth dibynadwy ar-lein. Mae’r canllawiau wedi’u hysgrifennu i dargedu grwpiau oedran gwahanol rhwng 3 a 18 oed. Hefyd, mae yna awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau y gallech chi eu gwneud fel teulu er mwyn helpu pawb i ddeall peryglon gwybodaeth annibynadwy.

Yn ogystal â’r canllawiau ar-lein, rydym ni yng Nghymunedau Digidol Cymru yn cynnal gweminar ar gyfer rhieni i’w helpu i ddeall sut i gynnig cymorth i’w plant ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein.

Rydw i’n gweithio gyda phobl ifanc, pa wybodaeth sydd ar gael?

Os ydych yn athro neu’n gweithio mewn lleoliad ieuenctid efallai bydd gennych ddiddordeb yn yr adnoddau llyfrgell mae Canolfan Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y DU wedi eu cynhyrchu yn arbennig ar gyfer addysgwyr. Mae’r rhain yn cynnwys dewis eang o ffilmiau, cynlluniau gwersi, gwasanaethau, gweithgareddau cyflym a mwy! Mae safle Hwb Llywodraeth Cymru wedi darparu’r rhain yn y Gymraeg hefyd.

Rydw i’n gobeithio bydd fy mab yn tyfu i fyny gan ddeall nad yw popeth sydd i’w weld ar-lein yn wir, a bod angen gofyn o ble mae’r wybodaeth yn dod. Dyma pam fy mod yn cymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, ar lefel bersonol a phroffesiynol. Mae’r rhyngrwyd, dulliau o gysylltu’n ddigidol ag eraill, a thechnoleg yn newid yn barhaus felly byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y gweithgareddau ar 9 Chwefror. Diolch am ddarllen!

Gallwch gymryd rhan yn #SaferInternetDay / #DefnyddiorRhyngrwydynFwyDiogel drwy:
• Ymweld â www.saferinternetday.org.uk
• Dilyn @UK_SIC ar Twitter
• Ymuno â’r sgwrs genedlaethol gan ddefnyddio #SaferInternetDay  #DefnyddiorRhyngrwydynFwyDiogel
• Hoffi @saferinternetuk ar Facebook
• Dilyn @DC_Wales ar Twitter, a Cymunedau Digidol Cymru ar Facebook
• Dilyn @UK_SIC ar Instagram