Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwaith i’w wneud o hyd er mwyn i Gymru ddod yn genedl ddigidol gynhwysol

“Mae’r rhai sy’n cael eu ‘gadael ar ôl’ mewn perygl o syrthio ymhellach yn ôl os na fyddwn yn mynd i’r afael â’r lefelau cyndyn o allgáu digidol sy’n parhau” – yr Athro Hamish Laing, Cadeirydd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Mae grŵp dylanwadol o 40 o sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn galw am roi terfyn ar allgáu digidol yng Nghymru.

Heddiw (dydd Iau 18 Mawrth), mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru*, sy’n cynnwys sefydliadau fel BT, Dŵr Cymru, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, Anabledd Cymru, y Comisiynydd Pobl Hŷn ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi cyhoeddi Agenda ar gyfer cynhwysiant digidol sy’n amlygu pum maes yr hoffai iddynt gael eu blaenoriaethu yn ystod y pum mlynedd nesaf fel bod pawb yng Nghymru sydd angen ac eisiau cael mynediad at y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol, ac elwa ohonynt, yn gallu gwneud hynny.

Agenda Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru – pum maes blaenoriaeth

  1. Ymsefydlu cynhwysiant digidol ym mhob sector
  2. Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  3. Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
  4. Blaenoriaethu sgiliau digidol yn yr economi ar ôl Covid
  5. Gosod isafswm safon byw digidol newydd

Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 90% o oedolion (16 oed a hŷn) wedi dweud eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd yn bersonol yn 2019/20. Mae hyn yn fwy na’r 77% yn 2012/13, ond yn ôl yr Athro Laing, Cadeirydd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, mae’n dal i fod yn fyr o’r nod os yw Cymru am fod yn genedl ddigidol gynhwysol. Dywedodd:

“Er bod y rhyngrwyd wedi bod gyda ni ers 30 mlynedd, mae twf gweithgarwch ar-lein dyddiol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn syfrdanol. O siopa i fancio, dysgu i gymdeithasu – i lawer ohonom, mae digidol yn ddiofyn bellach. Fodd bynnag, wrth i’n hangen am fynediad fforddiadwy, diogel a dibynadwy i’r rhyngrwyd gynyddu er mwyn i ni gymryd rhan mewn bywyd pob dydd, mae’r angen i fynd i’r afael ag allgáu digidol mewn ffordd ystyrlon a chyfannol yn dod yn fwy brys.

“Mae Covid-19 wedi amlygu anghydraddoldebau digidol y wlad yn glir. Nid yw llawer o blant a phobl ifanc wedi gallu dysgu ar-lein, nid yw cleifion wedi gallu cymryd rhan mewn ymgynghoriadau fideo, nid yw perthnasau wedi gallu cysylltu ag anwyliaid sydd wedi’u hynysu yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal…ac ymlaen â’r rhestr.

“Mae mynd i’r afael ag allgáu digidol yn hanfodol ar gyfer cymdeithas gyfiawn a chyfartal, ac mae’n gofyn am ymyrraeth, adnoddau a blaenoriaethu cyson. Mae’r rhai sy’n cael eu ‘gadael ar ôl’ mewn perygl o syrthio ymhellach yn ôl os na fyddwn yn mynd i’r afael â’r lefelau cyndyn o allgáu digidol sy’n parhau. Mae Llywodraeth Cymru a mentrau cynhwysiant digidol lleol eraill yng Nghymru wedi cyflawni llawer iawn, ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd.”

Mae Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Lles yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cael ei chyflwyno gan Ganolfan Cydweithredol Cymru mewn partneriaeth â’r Sefydliad Pethau Da a Phrifysgol Abertawe. Ers 2019, mae’r rhaglen wedi bod yn gweithio’n rhagweithiol gyda phob un o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru i helpu i fynd i’r afael ag allgáu digidol. Mae’r cymorth yn amrywio o hyfforddiant ymarferol ar gyfer staff clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddatblygu eu sgiliau digidol, i gymorth strategol i helpu uwch swyddogion gweithredol ym maes iechyd i integreiddio cynhwysiant digidol i’w gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd.

Mae Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru ac aelod o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, yn croesawu’r argymhellion diweddaraf. Dywedodd:

“Mae’r twf cyflym mewn technolegau digidol yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl ddod yn bartneriaid mwy gweithredol yn eu gofal eu hunain. Ond mae perygl mawr hefyd y gallai pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol gael eu gadael ar ôl.

“Heb fynediad at y rhyngrwyd, fe all fod yn anodd dod o hyd i wybodaeth, cael atebion i gwestiynau, a chadarnhau’r hyn sy’n cael ei adrodd. Mae mynediad i’r rhyngrwyd a sgiliau digidol sylfaenol yn arwain at fuddion ehangach hefyd sydd wedi bod yn arbennig o bwysig i lawer o bobl hŷn yn ystod y pandemig, fel eu helpu i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a defnyddio gwasanaethau ar-lein defnyddiol, gan gynnwys trefnu danfoniadau bwyd neu feddyginiaeth.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod pob unigolyn yn y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hynny sy’n ddi-waith ac yn ceisio gwaith yn yr amgylchiadau anodd hyn, yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol i ddatblygu’r sgiliau digidol sy’n ofynnol i gymryd rhan yn ddiogel ac yn effeithiol yn yr economi ddigidol ar ôl Covid.”

Bydd y Gynghrair yn ceisio cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i osod cynhwysiant digidol fel blaenoriaeth drawsbynciol ar gyfer pob maes – gan gynnwys mentrau gwrthdlodi a lles cenedlaethol. Bydd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru hefyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn ystod y misoedd i ddod i sicrhau bod cynhwysiant digidol yn cael ei brif ffrydio ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Mae BT, sydd wedi bod yn aelod gweithredol o Gynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru ers iddo gael ei ffurfio y llynedd, eisoes wedi buddsoddi mewn ystod o fentrau ac ymgyrchoedd i fynd i’r afael ag allgáu digidol ledled Cymru, gan gynnwys y rhaglen Sgiliau ar gyfer Yfory. Dywedodd Nick Speed, Cyfarwyddwr Grŵp BT yng Nghymru:

“Mae’r pandemig wedi dangos yn glir y rôl allweddol y mae technoleg ddigidol a chysylltedd â’r rhyngrwyd yn ei chwarae yn ein bywydau ni i gyd. Ond mae’r ddibyniaeth gynyddol hon ar dechnoleg gysylltiedig wedi amlygu heriau, yn ogystal â chyfleoedd. Mae wedi pwysleisio’r rhaniad digidol sy’n bodoli bellach, nid dim ond o ran mynediad at ddyfeisiau digidol a chwmpas, ond hefyd sgiliau digidol aelwydydd a busnesau, mewn dinasoedd a chymunedau gwledig.

“Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru a phartneriaid eraill i amlygu a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu cysylltedd a sgiliau digidol yng Nghymru.”