Neidiwch i’r prif gynnwys

Angen meddwl creadigol a chamau positif i sicrhau bod gan bawb fynediad at y Rhyngrwyd

Dr Sangeet Bhullar, Sylfaenydd WISE KIDS

Default Text

Mae pawb wedi teimlo effaith Covid-19, ond neb yn fwy na phlant a phobl ifanc nad yw eu teuluoedd yn gallu fforddio costau data/costau digidol mynd ar-lein, neu sy’n methu cael cysylltiad Rhyngrwyd i ddiwallu eu hanghenion gwaith ac addysg.

Mae Covid wedi newid sawl peth yn ein bywydau bob dydd. I lawer, mae wedi tynnu sylw at yr hyn rydym yn ei werthfawrogi a’r hyn rydym yn fodlon gwneud hebddo. Mae hefyd wedi tynnu sylw at rym enfawr y Rhyngrwyd i gadw ffrindiau a theuluoedd mewn cysylltiad, a helpu llawer o fusnesau, gan gynnwys fy musnes i, i gynnig ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaethau. Pwy fyddai wedi dychmygu y byddai brawddegau fel “Hyfforddiant ar Zoom?” neu “Pwyswch ‘unmute’, dydyn ni ddim yn eich clywed!” yn dod mor gyffredin?

Fodd bynnag, mae Covid hefyd wedi dangos i ni beth sydd ddim yn gweithio a sut y gall tlodi waethygu’r gagendor digidol a dwysau’r anghydraddoldebau rhwng pobl sy’n gallu cael gafael ar bethau a’r rhai sy’n methu.

Rydym yn clywed mwy o eiriau fel ‘tlodi data’ a ‘thlodi digidol’. Beth maen nhw’n ei olygu? Yn syml iawn, maen nhw’n cyfeirio at sefyllfa lle nad yw pobl yn gallu fforddio cost data/cost ddigidol mynd ar-lein, neu ddim yn gallu cael cysylltiad Rhyngrwyd (ar gyflymder eithaf da a digonol) i ddiwallu eu hanghenion gwaith ac addysgol.

Ond mae gan hyn ganlyniadau. Gadewch i ni ddefnyddio ysgolion a phobl ifanc fel enghraifft. Rydym ni’n gwybod bod gan ysgolion oedd â gweledigaeth, staff medrus a chefnogaeth i baratoi ar gyfer dysgu o bell fantais yn ystod y cyfnod clo – roedden nhw’n gallu darparu addysg i’w disgyblion, a sicrhau nad oedden nhw’n cael eu gadael ar ôl (gan ragdybio bod gan y rhan fwyaf o’r disgyblion fynediad da i’r Rhyngrwyd hefyd – band-eang a dyfeisiau). Fodd bynnag, nid yw rhai ysgolion wedi gallu darparu cynnig amgen teg digonol ar gyfer eu disgyblion. Maen nhw wedi gorfod delio â heriau hyder a gallu staff, diffyg adnoddau, ynghyd â’r ffordd y mae disgyblion a theuluoedd yn derbyn y newid hwn. Felly doedd hwn ddim yn newid di-dor o ysgol ffisegol i un cwbl ddigidol. Teg yw dweud y bydd llawer o ddisgyblion, heb y cymorth angenrheidiol gan athrawon, yn cael eu gadael ar ôl.

Yn ogystal â hyn, mae gennym ni hefyd deuluoedd tlawd lle mae cysylltiad Rhyngrwyd yn foethusrwydd na allan nhw ei fforddio. Mewn rhai achosion, roedd yn rhaid i deuluoedd ddewis rhwng bwydo eu teuluoedd neu gael mynediad i’r Rhyngrwyd i’w hunain a’u plant. Felly mae plant o’r teuluoedd hyn yn wynebu anawsterau ychwanegol.

Ar ôl siarad gyda rhai athrawon, rwy’n gwybod bod ysgolion wedi ceisio cynnig datrysiadau i ddisgyblion oedd ddim ar-lein drwy ddarparu taflenni papur o wersi.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Casnewydd, fy awdurdod lleol i, wedi cyhoeddi erthygl yn dweud bod mwy na 2500 o bobl ifanc yng Nghasnewydd heb dechnoleg ddigonol ar gyfer addysg yn y cartref adeg y cyfnod clo cyntaf. Aeth yr awdurdod lleol i’r afael â hyn drwy raglen gymorth Llywodraeth Cymru a darparodd ddyfeisiau a chysylltiad Wi-Fi. Yn yr un modd, cyhoeddodd awdurdod lleol arall, Gwynedd, eu bod am ddarparu gliniaduron i’w holl ddisgyblion Blwyddyn 10 ac 11 gan eu bod yn cydnabod y byddai disgyblion yn cael eu gadael ar ôl heb dechnoleg ddigonol.

Gall sefyllfaoedd fel hyn ymddangos yn anghredadwy i lawer sy’n cymryd cysylltiad Rhyngrwyd yn ganiataol. A dim ond un enghraifft fach iawn yw hon o sut gall tlodi a thlodi digidol waethygu rhaniadau sy’n bodoli eisoes.

Rydym yn gwybod y gall cael cysylltiad i’r Rhyngrwyd gyda band-eang da a’r ddyfais iawn fod yn bwysig iawn o ran sicrhau cyfleoedd i bobl gyffredin. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod mai dim ond y cam cyntaf yw mynediad. Mae angen i bobl gyffredin hefyd gael eu hysbrydoli i ddysgu a datblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth, hyder a sgiliau er mwyn manteisio i’r eithaf ar wasanaethau ar-lein a rheoli eu preifatrwydd a diogelwch ar-lein. O bryd i’w gilydd, mae amgylchiadau bywyd yn golygu efallai na fydd pobl yn dewis ymgysylltu hyd yn oed pan mae’r mynediad hwn a’r cyfleoedd dysgu ar-lein ar gael. Ar gyfer hyn mae angen i ni edrych ar ein hunain yn gyffredinol, beth sy’n ein cymell, beth sy’n ysbrydoli rhai ohonom i fanteisio’n llwyr ar y cyfleoedd sydd ar gael. Mae angen i ni gydnabod y rhwystrau gwirioneddol sy’n atal pobl rhag gwireddu eu potensial bywyd pob dydd yn llawn, a mynd i’r afael â’r anghenion hynny.

Rai blynyddoedd yn ôl, cymerais ran mewn prosiect ymchwil bach gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru yn archwilio sgiliau ac anghenion digidol pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Cefais gyfarfod â dyn ifanc oedd yn cael cefnogaeth gan elusen anhygoel wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, a oedd yn cynnig ‘addysg’ iddo mewn ffordd bersonol, gefnogol ac nad oedd yn teimlo fel ysgol. Eglurodd sut y gwnaeth y ganolfan iddo deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a chynnig addysg iddo ar gyflymder oedd yn gweddu iddo, ac roedd wrth ei fodd gyda hynny. Dywedodd ei fod yn magu hyder ac yn dysgu sgiliau sylfaenol. Eglurodd nad oedd wedi cael llawer o addysg yn yr ysgol uwchradd. Roedd ei ddyhead i ddysgu, rhywbeth y rhoddodd addewid i’w riant a oedd yn marw sawl blwyddyn ynghynt, yn amlwg. Roedd am ddysgu sgiliau mathemateg a llythrennedd er mwyn iddo allu cael trefn ar ei sefyllfa ariannol ei hun. Roed ganddo ffôn sylfaenol, ond doedd ganddo ddim modd o fforddio unrhyw beth arall (na’r dyhead o ran hynny).

Yr hyn ddaeth i’r amlwg i mi wrth wrando ar y dyn ifanc hwn, ac eraill sy’n debyg iddo, yw bod amgylchiadau bywyd yn chwarae rhan fawr yn ‘os, pryd a sut’ mae pobl yn ymgysylltu â thechnolegau digidol. Felly, os mai’n nod yw annog pobl i fod yn fedrus a hyderus yn ddigidol, mae angen i ni wrando a deall gyntaf ble maen nhw, beth sy’n eu cymell a pha rwystrau maen nhw’n eu hwynebu, a gwneud hyn gyda charedigrwydd a gofal. Yna, helpu i greu’r sylfeini a fydd yn eu galluogi i gymryd y camau nesaf ar y daith.

O gofio hierarchaeth anghenion Maslow, a safle ein defnyddwyr gwasanaethau a’n cleientiaid yn y pyramid hwn, gallwch gyd-gynllunio’r datrysiadau’n well er mwyn diwallu anghenion os ydym yn meddwl am gynhwysiant digidol a chyfranogiad/grymuso digidol fel taith sy’n dechrau gyda chael mynediad (band-eang a chyfarpar) a sgiliau digidol sylfaenol. Mae sawl prosiect amhrisiadwy fel Cymunedau Digidol Cymru sydd wedi rhoi cefnogaeth wych i helpu sefydliadau a defnyddwyr gwasanaethau i gael eu cynnwys yn ddigidol ac elwa ar dechnolegau digidol. Mae rhywfaint o’r gwaith hwn wedi bod mewn lleoliadau gofal cymdeithasol mawr eu hangen.

Ond mae hefyd angen i ni gynyddu ein dealltwriaeth o’r rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu, a’r ecosystemau y maen nhw’n gweithredu ynddyn nhw er mwyn i ni allu sicrhau newid go iawn. Rwy’n cael fy atgoffa ein bod ni oll yn rhanddeiliaid gyda chyfrifoldeb am y daith gyfunol hon tuag at sicrhau bod pawb wedi’u cynnwys a’u galluogi yn ddigidol.

Mwy na 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i’n darparu hyfforddiant i athrawon yng Ngheredigion, yn archwilio llythrennedd digidol mewn addysg a sut y gallai addysgwyr ymgysylltu’n well â’u dysgwyr. Bu’r gweithdy yn trafod, ymysg pethau eraill, y pethau cadarnhaol sy’n dod yn sgil chwarae gemau ar-lein i lawer o blant. Rhannodd un o’r athrawon a oedd yn dod o ysgol mewn ardal cymharol dlawd brofiad yr ysgol. Eglurodd eu bod wedi penderfynu dechrau clwb gemau ar ôl ysgol yn yr ysgol honno, er mwyn i ddisgyblion allu chwarae ar yr Xbox gyda’u cyfoedion. Roedden nhw wedi gweld bod chwarae gemau ar-lein gyda’u ffrindiau yn brofiad cymdeithasol pwysig i’w disgyblion. Roedden nhw hefyd yn gwybod bod plant yn yr ysgol a oedd yn dod o deuluoedd na allai fforddio cost Xbox. Roedden nhw’n gweld y bwlch hwn ac yn gwneud eu rhan wrth geisio ei leihau. Roedd yr ysgol hon yn dangos gweledigaeth, empathi ac ewyllys.

Mae arnom ni angen rhagor o randdeiliaid a phobl gyda’r agwedd bositif hon o “allu gwneud” er mwyn cau ein bwlch tlodi digidol. O ysgolion, colegau a phrifysgolion ac o leoliadau cymunedol a llyfrgelloedd i fusnesau fel ein prif Ddarparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd. Mae angen i ni feddwl yn greadigol a gweithredu mewn ffordd gadarnhaol i sicrhau bod gan bawb fynediad at Ryngrwyd fforddiadwy o ansawdd da. Gallai rhai o’r datrysiadau hynny gynnwys band-eang i’w rannu rhwng y gymuned, uwchgylchu dyfeisiau, canolfannau ffisegol lle gall pobl gael cymorth, neu linellau cymorth un pwynt cyswllt. Bydd rhai datrysiadau yn gofyn am fuddsoddiad gan y llywodraeth a’r awdurdod lleol mewn seilwaith. Mae angen i ni weithio hefyd gydag unigolion a theuluoedd sy’n wynebu tlodi digidol neu sydd â llai o ddiddordeb mewn bod ar-lein er mwyn dymchwel rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan yn yr economi ddigidol – hyder pobl eu hunain, eu sgiliau, eu haddysg a’u hunanhyder ymysg llawer o ffactorau.

Fodd bynnag, gydag ymrwymiad a chynllunio, mae hyn i gyd yn bosibl ac o fewn cyrraedd.

Dr Sangeet Bhullar yw sylfaenydd WISE KIDS, cwmni dielw sy’n grymuso pobl ifanc, teuluoedd, cymunedau a gweithwyr proffesiynol i ddatblygu eu llythrennedd digidol a’u harbenigedd, eu hymdeimlad o asiantaeth a lles fel y gallant ffynnu mewn byd cysylltiedig. Mae’n aelod o Fwrdd Rheoli Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru, aelod o Fwrdd Wikimedia UK. Gellir dod o hyd iddi ar Twitter fel @sangeet