Neidiwch i’r prif gynnwys

Arwyr Digidol

I nifer o blant a phobl ifanc, mae defnyddio technoleg yn dod yn hawdd. Rydym yn eu hyfforddi i fod yn Arwyr Digidol fel y gallwn newid bywydau pobl gyda’i help nhw.

Cysylltwch â ni am gefnogaeth
Mae Digital Hero yn helpu menyw gyda ffôn symudol

Pwy sy’n Arwr Digidol

Mae Arwyr Digidol yn blant a phobl ifanc sy’n ddefnyddwyr technoleg hyderus ac sy’n gallu cefnogi eraill i fynd ar-lein.

Mae Arwyr Digidol yn defnyddio eu sgiliau i helpu eraill sy’n ei chael hi’n anodd dysgu sut i ddefnyddio eu cyfrifiadur, tabled, neu ffôn.  Gallai fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind, neu’n aelod o’r gymuned.

Mae gan bawb sgiliau a thalentau, ac weithiau nid ydym yn sylweddoli pa mor bwysig ydynt a sut y gall eraill elwa o ganlyniad i rannu’r sgiliau hynny.

O ble daw Arwyr Digidol?

Gall Arwyr Digidol fod yn blant ysgol, yn aelodau o’r sgowtiaid neu’r geidiaid, cadetiaid neu fyfyrwyr coleg a phrifysgol.

Sut mae’n gweithio?

  1. Bydd ein tîm anhygoel o hyfforddwyr yn dod i dreulio amser gyda chi ac yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Arwr Digidol.
  2. Byddwch wedyn yn cysylltu â sefydliad yn eich cymuned. Gallai hwn fod yn gartref gofal, hosbis neu ganolfan ddydd leol.
  3. Bydd Arwyr Digidol yn helpu pobl yn y sefydliad hwnnw gyda’u sgiliau a’u hyder digidol.

Beth allai Arwr Digidol ei wneud?

  • Gall redeg clwb ar ôl ysgol i aelodau’r gymuned.
  • Gall ymweld â chartref gofal lleol a rhannu cerddoriaeth a fideos fydd yn helpu preswylwyr i hel atgofion a chael amser da.
  • Gall helpu pobl i ddysgu sut i gadw’n ddiogel ar-lein.
  • Gall roi cymorth i sefydliadau lleol i annog pawb i fynd ar-lein mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Pam bod yn Arwr Digidol?

  • Mae Arwyr Digidol yn datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu
  • Mae’r bobl a gefnogir yn cael hwyl ac yn dysgu defnyddio’r we
  • Gallwch feithrin perthnasoedd cryf yn eich cymuned leol.
  • Mae’n rhoi boddhad i helpu pobl a gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywyd.

Hoffech chi gymryd rhan a datblygu eich Arwyr Digidol eich hun?

Os hoffech, cysylltwch â ni am gymorth drwy lenwi’r ffurflen gynnig gyflym hon.

Ffotograff o aelod o staff CDC yn cynnal sesiwn hyfforddi Arwyr Digidol. Mae nifer o blant yn y dosbarth gyda’i dwylo fyny i ofyn cwestiwn.
Ffotograff o bum disgybl ysgol gwrywaidd ifanc yn rhyngweithio gyda dyfais tabled ar ddesg.
Ffotograff o dri Arwr Digidol ifanc mewn cartref gofal yn cefnogi pobl hŷn i ddefnyddio dyfeisiau tabled.
Ffotograff o ddau Arwr Digidol gwrywaidd ifanc yn dangos rhywbeth i fenyw hŷn ar ddyfais tabled.
Ffotograff o ddau Arwr Digidol gwrywaidd ifanc yn dangos rhywbeth i fenyw hŷn ar ddyfais tabled.
Ffotograff o ddau Arwr Digidol gwrywaidd oed ysgol gynradd a'u hathro yn defnyddio dau ddyfais tabled.
Ffotograff o bedwar disgybl ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant Arwyr Digidol. Maen nhw i gyd yn eistedd o amgylch desg yn dal dyfeisiau tabled tra bod aelod o staff CDC yn goruchwylio.
Ffotograff o bedwar o blant ysgol gynradd yn gwenu wrth ryngweithio â dyfais tabled.
Ffotograff o athro gwrywaidd yn goruchwylio pedwar Arwr Digidol, sy'n eistedd wrth ddesg yn defnyddio dyfeisiau tabled.
Ffotograff agos o Arwr Digidol yn defnyddio tabled.
Ffotograff o ddau aelod o staff CDC yn arwain sesiwn Arwyr Digidol mewn ystafell ddosbarth yn llawn plant.
Ffotograff o chwe phlentyn ysgol a dau athro yn eistedd o amgylch desg yn cymryd rhan mewn sesiwn Arwyr Digidol.
Ffotograff o ddwy ferch ysgol gynradd yn defnyddio dyfeisiau tabled. Mae'r ddau yn cymryd rhan mewn sesiwn Arwyr Digidol.
Ffotograff agos o Arwr Digidol yn defnyddio tabled. Maen nhw'n ateb y cwestiwn 'Pa mor aml ydych chi'n defnyddio'r rhyngrwyd?'
Ffotograff o Arwr Digidol benywaidd yn dangos rhywbeth i ddwy fenyw hŷn ar ddyfais tabled.
Ffotograff o ddwy Arwr Digidol benywaidd yn cefnogi menyw hŷn yn defnyddio cyfrifiadur.

Astudiaethau achos