Neidiwch i’r prif gynnwys

Defnyddwyr canolfan ddydd Age Connects Torfaen yn arbrofi gyda thechnoleg i’w helpu i fyw bywydau mwy diogel ac annibynnol

Gall technoleg chwarae rhan enfawr i helpu pobl i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn hirach yn eu cartrefi eu hunain. Bu Age Connects Torfaen a Cymunedau Digidol Cymru yn cydweithio i alluogi ymwelwyr canolfan ddydd i arbrofi gyda rhai o'r dyfeisiau diweddaraf.

Pam?

Mae Age Connects Torfaen yn darparu gweithgareddau dydd i bobl y mae eu hiechyd a’u symudedd wedi dirywio, yn ogystal â gwasanaeth dydd dementia arbenigol sy’n cynnig cymorth, gweithgareddau a gofal mewn amgylchedd ysgogol.

Roedd Emma Wootten o Age Connects Torfaen yn ymwybodol o’r ystod gynyddol o dechnoleg sydd ar gael sy’n gallu gwella pethau i ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd. Systemau monitro gweithgareddau, systemau hydradu deallus (sy’n atgoffa pobl i yfed), dyfeisiau cyfrifiadurol a reolir â’r llais a chlychau drws fideo – dim ond rhai o’r dyfeisiau all helpu. Ond maen nhw i gyd yn gostus ac roedd Emma eisiau rhoi cyfle i bobl arbrofi gyda nhw cyn ymrwymo’n ariannol.

Sut?

Trefnodd Age Connects ei fod yn benthyg cyfarpar gan Wasanaeth Technoleg Gynorthwyol Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, gyda Cymunedau Digidol Cymru’n darparu Clustffonau Realiti Rhithwir Oculus ac Amazon Echo Dot i bobl arbrofi gyda nhw.

Cafodd tua deg cleient sy’n mynychu’r sesiynau gweithgareddau dydd y cyfle i ddefnyddio’r cyfarpar. Roedd aelodau teuluoedd y cleientiaid sy’n defnyddio technoleg yn rheolaidd yn awyddus iawn, gan eu bod yn fwy cyfarwydd â’r ystod o ddyfeisiau ac yn teimlo’n llai ofnus o arbrofi gyda nhw. Cafodd yr unigolion llai hyderus help gan staff a gwirfoddolwyr i roi cynnig arni.

Effaith

Adroddodd staff yn Age Connects Torfaen fod y cleientiaid wedi mwynhau defnyddio’r dyfeisiau’n fawr iawn, yn cynnwys y Clustffonau Realiti Rhithwir a’r Echo Dot; roedd y ddwy ddyfais wedi creu llawer o gynnwrf a sgwrsio ac roedd pobl wedi mwynhau arbrofi gyda’r pethau newydd hyn.

Defnyddiwyd yr Amazon Echo Dot i gael gwybodaeth am y newyddion, y tywydd ac unrhyw wybodaeth arall o ddiddordeb i’r cleientiaid. Dywedodd rhai o’r bobl oedd yn byw ar eu pen eu hunain y byddent yn hoffi cael eu dyfais eu hunain.

Roedd un wraig arbennig, oedd ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, wedi cyffroi wrth ddefnyddio’r clustffon realiti rhithwir. Roedd y wraig, sydd ddim yn arfer dweud llawer, yn gallu disgrifio beth roedd hi’n ei weld ac yn amlwg wedi cael llawer o bleser o wneud hynny, ac roedd y staff wrth eu bodd.