Neidiwch i’r prif gynnwys

Chanolfan Rheoli Poen a Blinder Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Roedd y rhaglen hon yn dangos i gleifion sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein a digidol er mwyn helpu i reoli eu hiechyd a'u lles gartref.

Crynodeb

Roedd y rhaglen hon yn dangos i gleifion sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein a digidol er mwyn helpu i reoli eu hiechyd a’u lles gartref.

Bu staff therapi galwedigaethol yn cynnwys technoleg ddigidol fel rhan naturiol o’r rhaglen, gan sicrhau ei bod yn hawdd, yn ddeniadol, yn gymdeithasol ac yn amserol.

Defnyddiwyd cyfrifiaduron llechen fel ffordd gyfarwydd ac apelgar o ddangos apiau a gwefannau newydd i gleifion er mwyn rheoli eu hiechyd, a ble i ddod o hyd i ffynonellau credadwy i gael cyngor meddygol.

Digidol sy’n dod gyntaf i gleifion a staff bellach, a ddywedodd bod ganddynt fwy o hyder, sgiliau newydd a gwell mynediad at y wybodaeth gywir, diolch i’r ffaith iddynt gael cyfle i roi cynnig arni mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Pa broblem oedd angen mynd i’r afael â hi?

Mae Canolfan Rheoli Poen a Blinder Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Bronllys, yn cynnig cymorth i bobl ledled Powys sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.

Mae’r ganolfan yn cynnal rhaglen breswyl bythefnos o hyd ar gyfer cleifion sy’n dioddef poen cronig a/neu flinder cronig. Y nod yw helpu pobl i reoli eu cyflwr iechyd yn annibynnol gartref fel bod pobl yn mwynhau ansawdd bywyd gwell.

Roedd staff therapi galwedigaethol yn awyddus i integreiddio technoleg ddigidol, fel ei bod yn rhan naturiol o gyflenwi rhaglenni mewn ffordd sy’n hawdd, yn hygyrch ac yn berthnasol.

Beth oedd yr ymyriad a sut wnaeth hynny weithio?

Cafodd staff y Ganolfan Rheoli Poen a Blinder hyfforddiant Apiau a gwefannau iechyd a lles gan Cymunedau Digidol Cymru ar er mwyn ymgorffori elfennau digidol yn y rhaglen rheoli poen bythefnos o hyd.

Y cam cyntaf oedd magu hyder wrth ddefnyddio technoleg drwy gynnwys hynny yng ngwaith bod dydd y tîm.

Hefyd, rhoddwyd deg iPad i’r tîm ar fenthyg i’w defnyddio yn ystod y rhaglen breswyl, fel bod cleifion yn gallu dysgu sut y gall apiau a gwefannau gwahanol eu helpu i reoli eu cyflyrau iechyd yn annibynnol yn y cartref a sut i ddod o hyd i wybodaeth o ansawdd da ar-lein am iechyd a lles. Dywedodd staff mai dyma oedd un o’r pethau a gafodd yr effaith fwyaf – helpu pobl i ddeall lle i chwilio am ffynonellau credadwy o gyngor meddygol.

“Roedd cael iPads i’w defnyddio yn y sesiynau wedi sicrhau ein bod ni’n defnyddio dull amlgyfrwng oedd yn cynnwys unigolion ac yn sicrhau bod pawb yn rhyngweithio yn ystod y sesiwn.”

Clare Clark, Uwch Ymarferydd Therapi Galwedigaethol

Ymhlith y gweithgareddau penodol oedd:

  • Cymorth un i un gyda defnyddio iPads i fagu hyder defnyddwyr
  • Rhannu apiau dibynadwy drwy lyfrgell apiau’r GIG i gyfeirio at ffynonellau gwybodaeth dilys wedi’u teilwra i ddewisiadau ac anghenion unigolion
  • Helpu i sefydlu a defnyddio tracwyr gweithgareddau ar ffonau clyfar cleifion
  • Cymorth i ddefnyddio seinyddion clyfar er mwyn gosod nodiadau atgoffa a chreu strwythur i bobl. Er enghraifft, pryd i gael seibiant neu pryd i fwyta yn achos pobl a all fod yn cysgu’n fwy nag arfer.
  • Defnyddio Flo i rannu nodiadau atgoffa ac annog pobl i gymrydmwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain – anfonwyd negeseuon dilynol er mwyn helpu cleifion i ddefnyddio eu llyfrau gwaith ôl-driniaeth.
  • Rhoi her les ddyddiol i’r cyfranogwyr gyda’r iPad er enghraifft, archwilio eu cyflyrau iechyd eu hunain yn fanylach, dysgu mwy am fyfyrdod neu eu defnyddio ar deithiau cerdded cefn gwlad.

“Mae gwasanaeth Flo yn cael ei ddefnyddio i anfon negeseuon testun atgoffa awtomatig er mwyn monitro pethau fel pwysedd gwaed cleifion cardiaidd. Ond fe wnaethon ni ei ddefnyddio fel cymorth i ddefnyddio’n llyfrau gwaith – dywedodd menyw ar y rhaglen ei bod hi’n edrych ymlaen at dderbyn negeseuon testun gan Flo a’i bod yn gweld eisiau’r strwythur a’r patrwm cyson wedyn.”

Clare Clark, Uwch Ymarferydd Therapi Galwedigaethol

Erbyn hyn, mae staff yn datblygu eu defnydd o gymorth fideo er mwyn helpu cleifion i deimlo’n gyffyrddus am fynychu apwyntiadau – gan gyflwyno’r tîm y byddant yn ei gyfarfod, dangos y cyfleusterau a helpu gyda chyfarwyddiadau.

Wrth gynllunio eu hymyriadau, mae staff wedi defnyddio model newid ymddygiad profedig EAST er mwyn datblygu atebion digidol a fyddai’n hawdd, yn atyniadol, yn gymdeithasol ac  yn amserol. Er enghraifft, maen nhw’n defnyddio Skype fwyfwy ar gyfer ymgynghoriadau – mae’n dechnoleg hawdd a chyfarwydd y gellir ei defnyddio ar adeg sy’n addas i’r claf, fel yn ystod y diwrnod gwaith.

 Beth oedd effaith yr ymyriad?

  • Er bod gan lawer o’r bobl ar y rhaglen sgiliau TG da yn barod, doedden nhw ddim yn ymwybodol o’r holl adnoddau ar-lein i’w helpu o reidrwydd. Fe’u cyflwynwyd i apiau fel Breathe, Headspace a Calm a dangoswyd iddynt sut i ddefnyddio adnoddau fel ‘popplet’ hefyd i weld a rheoli eu lefelau poen.
  • Roedd sesiynau llythrennedd digidol o gymorth hefyd i bobl ganfod a gwerthuso gwybodaeth am iechyd ar-lein, er mwyn asesu’n feirniadol pa mor ddibynadwy a diogel yw’r cyngor sydd ar gael o wefannau amrywiol.
  • I ddechrau, roedd staff a chleifion yn nerfus ynglŷn â chyflwyno mwy o dechnoleg ddigidol, ond erbyn hyn mae’r tîm wedi symud i sefyllfa lle mai’r digidol sy’n ddiofyn.

“Mae pobl yn barod iawn i ddefnyddio technoleg i gefnogi eu hiechyd. Rydych chi’n tybio y bydddai pobl hŷn yn wrthwynebus, er enghraifft, ond nid felly mae hi’n aml – fe wnaeth dyn yn ei 90au ddangos ei gymhorthion clywed wedi’u cysylltu â Bluetooth inni, a faint o gamau yr oedd wedi’u cyfrif ar ei ffôn.”

Clare Clark, Uwch Ymarferydd Therapi Galwedigaethol

  • Efallai bod heriau wrth weithio o fewn fframweithiau llywodraethu sefydliadol, yn enwedig o ran data, ond mae staff wedi llwyddo i wneud hyn drwy ddefnyddio apiau a ffynonellau gwybodaeth dibynadwy.

Beth oedd y canlyniad o ran sgiliau newydd, iechyd gwell a lles gwell?

  • Gwelwyd cynnydd amlwg mewn hyder wrth ddefnyddio adnoddau a gwasanaethau digidol o ganlyniad i’r ymyriad.
  • Dywedodd staff fod cleifion oedd ddim yn defnyddio technoleg ddigidol o’r blaen yn teimlo’n ddiogel a chyffyrddus i’w harchwilio gartref ar ôl y rhaglen.
  • Gall y ganolfan fod yn hyderus bod cleifion yn defnyddio dulliau chwilio ac apiau mewn ffordd wybodus a bod y ffynonellau a’r adnoddau maen nhw’n eu defnyddio yn addas a chredadwy.
  • Roedd y defnydd o gyfrifiaduron llechen wedi helpu’r cyfranwyr i feithrin sgiliau a magu hyder gan eu bod yn gallu rhoi cynnig ar bethau mewn lle diogel a chefnogol.

“Heb os, rydym wedi gweld gwelliant aruthrol yn hyder staff a chleifion. Rydyn ni’n gweld hyder pobl yn gwella dim ond trwy ddefnyddio’r dechnoleg fel rhan o’r hyn rydyn ni’n ei wneud, a dydyn nhw ddim yn gwneud môr a mynydd yn ei gylch.”

Clare Clark, Uwch Ymareferydd Therapi Galwedigaethol

  • Mae cleifion wedi addasu’n dda i adnoddau cyfathrebu digidol fel Flo a Skype. Hyd yn oed lle mae problemau – er enghraifft gyda signal WiFi gwan – mae gallu datrys y mater gyda’n gilydd wedi rhoi cymaint o hwb i hyder defnyddwyr fynd ati i reoli eu dyfeisiau eu hunain.
  • Daw cleifion o bob cwr o’r sir ac o gefndiroedd amrywiol. Yn dilyn y cwrs, mae sawl un wedi trefnu i gadw mewn cysylltiad drwy glustffonau Oculus gan na allant deithio i weld ei gilydd.

Beth allwn ni ei ddysgu y gellid ei ailadrodd, ei drosglwyddo neu ei addasu?

Helpu pobl i ddod o hyd i ffynonellau dibynadwy o wybodaeth iechyd o safon:

  • Defnyddio ap llyfrgell y GIG.
  • Dangos i gleifion ar iPads sut a ble i chwilio.

Mae angen i seilwaith (cwmpas/lled band) fod yn ei le:

  • Mae angen i sefydliadau alw am fwy o fuddsoddiad mewn seilwaith.
  • Pan mae defnyddwyr yn wynebu problemau, mae eu helpu i’w datrys eu hunain yn ychwanegu at eu hyder ac yn meithrin sgiliau.
  • Cysylltu â llyfrgelloedd i gefnogi mynediad at dechnoleg.

Mae defnyddio cyfrifiaduron llechen yn helpu eraill i ymgysylltu, rhyngweithio a magu hyder:

  • Mae cymorth un i un yn helpu i annog dysgu a magu hyder.
  • Mae defnyddio amrywiaeth eang o apiau, cyfryngau a rhaglenni yn arwain at fwy o ymgysylltu.

Cynnwys technoleg yn rhan o arferion bob dydd, fel nad yw’n gymaint o fwgan

  • Yn hytrach na gwneud ‘sgiliau digidol ‘ yn weithgaredd ar wahân, integreiddio’r defnydd o ddyfeisiau a thechnoleg i’r ddarpariaeth bob dydd.
  • Cydnabod bod llawer o bobl yn gyfarwydd â dyfeisiau ac adeiladu ar y wybodaeth a’u sgiliau sydd ganddynt eisoes.
  • Cyflwyno gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar gynnwys yn hytrach na’n fater o ddysgu sgiliau newydd, a’u teilwra i’r unigolyn e.e. apiau sy’n helpu i reoli poen neu gysgu’n well.

Defnyddio fframwaith cynllunio EAST:

  • Mae EAST ac adnoddau eraill gan y Behavioural Insights Team (Swyddfa Cabinet y DU/Nesta) ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein yn https://www.bi.team