Neidiwch i’r prif gynnwys

Mae Clwyd Alyn yn cyfuno hyfforddiant cynhwysiant digidol â therapi tawelu ac hel atgofion

Fel rhan o bartneriaeth sefydledig gyda Cymunedau Digidol Cymru, gwelodd Clwyd Alyn gyfle i gyfuno hyfforddiant cynhwysiant digidol gyda therapïau eraill megis therapi tynnu sylw/tawelu a hel atgofion.

Crynodeb

Fel rhan o bartneriaeth sefydledig gyda Cymunedau Digidol Cymru, gwelodd Clwyd Alyn gyfle i gyfuno hyfforddiant cynhwysiant digidol gyda therapïau eraill megis therapi tynnu sylw/tawelu a hel atgofion.

Gan ddangos y diben deuol hwn, mae’r sefydliad wedi cyflwyno achos cryf dros barhau i ddefnyddio dyfeisiau digidol yn ei gartrefi y tu hwnt i’r sesiynau hyfforddi cychwynnol.

Mae staff wedi cael hyfforddiant, nid yn unig ar ddefnyddio technolegau digidol newydd, ond hefyd ar y ffyrdd gorau o weithio gyda’r rhai sydd yn eu gofal er mwyn teilwra’r cynnwys ar sail straeon, atgofion a diddordebau personol. Mae hyn wedi helpu i greu cysylltiad emosiynol, gan ddymchwel rhwystrau i ymgysylltu digidol a chreu achos cryf dros barhau i’w ddefnyddio.

Roedd sesiynau pontio’r cenedlaethau yn ffordd hwyliog ac apelgar o gyflwyno amrywiaeth o sgiliau, gwasanaethau ac apiau newydd, gan feithrin cysylltiadau cymunedol hefyd.

Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol amlwg ar les y preswylwyr yn ystod y sesiynau ac ar y berthynas rhwng y staff a’r preswylwyr yn y tymor hirach.

Pa broblem oedd angen mynd i’r afael â hi?

Fel landlord cymdeithasol cofrestredig, mae Clwyd Alyn yn rheoli 6,000 a mwy o gartrefi ledled y Gogledd.

Roedd y sefydliad am helpu trigolion y cynllun Byw â Chymorth i ddysgu sut i ddefnyddio adnoddau iechyd a lles ar-lein drwy sesiynau hyfforddi cynhwysiant digidol. Mae trigolion tai cymdeithasol yn fwy tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol, ac mae Clwyd Alan yn blaenoriaethu cymorth ar gyfer iechyd a lles, yn enwedig ymhlith trigolion hŷn.

Nod y sesiynau oedd cynyddu gwybodaeth a magu hyder fel y byddai’r trigolion yn parhau i ddefnyddio’r adnoddau hyn yn y cartref.

Beth oedd yr ymyriad a sut wnaeth hynny weithio?

Mae Clwyd Alyn wedi sefydlu rhaglenni cynhwysiant digidol, gan gynnwys hyfforddi staff a gwirfoddolwyr fel hyrwyddwyr digidol a darparu offer, cyswllt wifi a chyfleoedd dysgu i staff, gwirfoddolwyr a thenantiaid. Sefydlwyd partneriaeth gref â Cymunedau Digidol Cymru, gydag amcanion a blaenoriaethau cyson.

Mae staff Cymunedau Digidol Cymru wedi cynnal gweithdai sy’n defnyddio realiti rhithwir ac adnoddau hel atgofion i helpu preswylwyr yng nghartrefi gofal a chartrefi gofal ychwanegol Clwyd Alyn i ddysgu ac ymarfer defnyddio adnoddau digidol. Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys defnyddio technoleg a therapi tynnu sylw/tawelu a defnyddio technoleg realti rhithwir i hel atgofion.

Aeth y staff ati i ddewis cynnwys lleol ar gyfer y profiad realiti rhithwir, a defnyddiwyd ffilmiau a thraciau sain BBC Films a BFI wedi’u teilwra i hel atgofion.

Trwy hynny, roedd y preswylwyr yn gallu ailymweld ar-lein â lleoliadau eu plentyndod, mannau lle buont yn byw ac ymweld â nhw ar wyliau ers talwm. Mae natur ymdrwythol/ymgolli realiti rhithwir yn rhoi cysylltiad llawer agosach ag atgofion, delweddau a straeon o’u bywydau eu hunain.

 Hefyd, bu’r tîm yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ysgolion cynradd lleol i greu gweithgareddau pontio’r cenedlaethau. Mae’r ysgolion wedi cynhyrchu adnoddau fel cyflwyniadau ar ddiogelwch ar y we, er enghraifft, neu weithgareddau ar y cyd fel cymryd rhan mewn cwis logo digidol.

Dywedodd staff fod hyn wedi gweithio’n arbennig o dda – hyd yn oed pan nad oes gan y preswylwyr fawr o ddiddordeb yn y dechnoleg, ond maen nhw wrth eu boddau yn ymwneud â’r plant bob amser. Mae’r sgyrsiau cychwynnol am gyflwyniadau’r disgyblion, neu gydweithio ar gwis yn rhoi cyfle i’r disgyblion siarad am yr holl gyfleoedd gwahanol sydd gan apiau a gwasanaethau i’w cynnig.

Beth oedd effaith yr ymyriad?

  • Mae ymhell dros 100 o drigolion wedi bod yn rhan o’r rhaglen yng nghynlluniau llety gwarchod/gofal ychwanegol Clwyd Alyn ledled y Gogledd. Ac mae tua 40 o blant ysgol wedi elwa ar sesiynau pontio’r cenedlaethau.
  • Roedd y preswylwyr wedi mwynhau’r cyfle i hel atgofion a rhannu eu straeon eu hunain.
  • Cafodd y staff lawer o geisiadau am wybodaeth ynglŷn â lle’r oedd preswylwyr wedi byw neu wedi mynd ar wyliau yn y gorffennol, er mwyn dangos cynnwys personol wedi’i deilwra iddyn nhw.
  • Diolch i ddarn o ffilm lleol, fe wnaeth sesiynau hel atgofion sbarduno’r trigolion i rannu straeon â’i gilydd a’r staff am sut arferai pethau fod yn eu hardal nhw, gan helpu i feithrin cysylltiadau a chynyddu rhyngweithio.
  • Roedd ffilmiau BFI yn hynod boblogaidd, a thrwy gymysgu hynny â realiti rhithwir o lefydd cyfarwydd fel pier Llandudno, cynigiwyd cyfle i drigolion â phroblemau symudedd i ‘ailymweld’ â lleoliadau na allant fynd iddynt mwyach.
  • Roedd y sesiynau mor llwyddiannus fel bod y staff a’r preswylwyr yn ystyried prynu eu clustffonau realiti rhithwir eu hunain erbyn hyn

“Yn un o’r sesiynau, roedd gennym fenyw â dementia sydd prin yn cyfathrebu. Ond ar ôl gwylio’r ffilm, dechreuodd ddangos llawer mwy o ddiddordeb a hyd yn oed rhoi cynnig ar y feic rhyngweithiol a gawsom gan Betsi Cadwaladr.”

Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol, Clwyd Alyn

Beth oedd y canlyniad o ran sgiliau newydd, iechyd gwell a lles gwell?

  • Dywedodd staff fod y rhyngweithio â llawer o’r trigolion wedi gwella’n sylweddol – roedd y sesiynau cynhwysiant digidol yn gyfle gwerthfawr i’r staff a’r trigolion dreulio amser yng nghwmni’i gilydd a chael hwyl.
  • Mae’r clustffonau realiti rhithwir wedi bod yn llwyddiant arbennig o ran hel atgofion a galluogi preswylwyr i ail-brofi llefydd na allant fynd iddynt mwyach.
  • Mae’r disgyblion a’r trigolion wedi elwa ar sesiynau pontio’r cenedlaethau drwy rannu sgiliau, magu hyder a chryfhau cysylltiadau â’r gymuned.
  • Mae wardeiniaid wedi rhoi adborth cadarnhaol am fanteision hirdymor y cynllun ar les preswylwyr a’u perthynas ag eraill a’u hymgysylltiad â staff.

“Mae cyflwyno technoleg realiti rhithwir i’r trigolion oedrannus wedi bod yn ffordd wych o ddangos sut gallan nhw ‘ailbrofi’ pethau nad ydyn nhw’n gallu eu gwneud mwyach. Roedd gennym ddynes mewn cadair olwyn, ac awgrymodd ei merch ein bod yn chwilio am y pentref bach lle cafodd ei magu. Fe wnaeth hi adnabod y pentref yn syth, a dechrau crïo. Mae’n gallu bod yn emosiynol iawn.”

Louise Blackwell, Swyddog Datblygu Cymunedol, Clwyd Alyn

Gan fod hyn wedi deffro diddordeb pobl, mae Clwyd Alyn yn buddsoddi yn ei glustffonau realiti rhithwir ei hun. Bydd Cymunedau Digidol Cymru yn hyfforddi wardeiniaid, swyddogion gofal ychwanegol a chydlynwyr gweithgareddau sut i’w defnyddio a chyrchu cynnwys perthnasol o’r archif.

Yn ogystal â hyfforddi staff i ddefnyddio technoleg ar gyfer iechyd a lles, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi eu hyfforddi i helpu pobl sy’n chwilio am waith hefyd. Mae hyn wedi ehangu bellach i gynnwys ‘Project Search’ sy’n helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwaith.

Beth allwn ni ei ddysgu y gellid ei ailadrodd, ei drosglwyddo neu ei addasu?

Gall defnyddio technoleg ddigidol fod yn gymorth grymus i hel atgofion ac fel arall

  • Mae ymgolli trwy gyfrwng ffilm, sain a phrofiad rhithwir yn creu cysylltiadau apelgar ag atgofion a phrofiadau’r gorffennol, ac yn dod â nhw’n fyw.
  • Mae hel atgofion yn gymhelliant grymus dros ddefnyddio technolegau digidol i brofi cynnwys sy’n berthnasol yn bersonol.

Hyfforddi staff i wneud defnydd therapiwtig o realiti rhithwir, yn ogystal â’r agweddau technegol

  • Mae hyfforddiant ar ble a sut i ddod o hyd i gynnwys perthnasol cyn bwysiced â dysgu unrhyw sgiliau technegol newydd y gallai fod eu hangen.
  • Mae dangos manteision therapiwtig y technolegau a’r gwasanaethau digidol hyn i’r staff yn golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o gael eu cynnwys yng ngofal cleifion o ddydd i ddydd.

Roedd adnoddau a grëwyd gan yr ysgol a disgyblion oedd yn ymweld â’r trigolion yn gweithio’n arbennig o dda.

  • Roedden nhw’n ennyn mwy o ddiddordeb gan fod y preswylwyr am ryngweithio â’r disgyblion.
  • Roedd defnyddio cwisiau yn arbennig yn golygu bod disgyblion yn trafod yr holl apiau a gwasanaethau gwahanol maen nhw’n eu defnyddio.

Teilwra cynnwys fel ei fod yn berthnasol i’r unigolyn

  • Creu cysylltiad personol â’r cynnwys yw’r achos cryfaf posibl dros ddefnyddio’r dechnoleg.
  • Mae cymryd amser i deilwra cynnwys yn helpu i feithrin perthynas hefyd.
  • Mae cymorth un i un yn creu lle diogel i bobl arbrofi.

Mae realiti rhithwir (VR) yn rhywbeth newydd a chyffrous sy’n cynnig ffordd o ymgolli mwy.

  • Mae’n dechnoleg yn newydd o hyd ac ni fydd llawer o bobl wedi’i brofi eto. Fel profiad amlsynnwyr, mae’n cael mwy o effaith, yn enwedig o’i gyplysu â chynnwys sy’n dod ag atgofion personol yn ôl.

Cynnig cefnogaeth ddilynol ar gyfer y pecyn realiti rhithwir newydd y gellir ei brynu ar ôl sesiynau cychwynnol

  • Sicrhau y bydd unrhyw becyn newydd yn parhau i gael ei ddefnyddio gan staff cymorth
  • Creu cronfa o gynnwys lleol/personol y gall staff ei ddefnyddio i gefnogi cleifion, yn enwedig wrth hel atgofion.