Neidiwch i’r prif gynnwys

Pobl sy’n dioddef caledi i gael cymorth i ddefnyddio technoleg

Mae Cwmtawe Action to Combat Hardship yn cynorthwyo pobl mewn trafferthion ariannol dybryd, gan gynnwys ffoaduriaid. Gyda chymorth gan Cymunedau Digidol Cymru, gall yr elusen helpu ei chleientiaid i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau ar-lein.

Google yn cyfieithu sgwrs ar ffôn symudol

Pam?

Mae Cwmtawe Action to Combat Hardship (CATCH) yn elusen annibynnol sy’n cefnogi pobl mewn caledi yng Nghastell-nedd Port Talbot a De Powys. O’i chanolfan yn Ystalyfera, mae’n dosbarthu bwyd, dillad a hanfodion eraill i bobl leol, gan gynnwys y gymuned ffoaduriaid Syriaidd.

Daeth gwirfoddolwyr yn yr elusen at Cymunedau Digidol Cymru i weld sut gallent helpu pobl i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Roedden nhw’n sylweddoli y gallai hyn fod yn arbennig o werthfawr i aelodau hŷn y gymuned. Mae gallu mynd ar-lein yn golygu bod pobl yn gallu arbed arian yn aml ynghyd â chael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau hollbwysig. Roedd gwirfoddolwyr yr elusen yn cydnabod bod hwn yn faes arall lle byddai eu cymorth yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Sut?

Bu gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a gynhaliwyd gan Cymunedau Digidol Cymru i weld sut i ysgogi pobl i fynd ar-lein. Roedd y prosiect hefyd yn rhoi benthyg dyfeisiau llechen a gliniaduron i CATCH, er mwyn i bobl allu eu defnyddio wrth ddod i’r ganolfan ddosbarthu.

Effaith

Mae’r gliniaduron a’r llechi yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gleientiaid CATCH – mae pobl yn defnyddio’r cyfarpar i chwilio am swyddi. Yn y cyfamser, mae Google Translate wedi helpu gwirfoddolwyr yr elusen i gyfathrebu’n fwy effeithiol â’r teuluoedd Syriaidd maen nhw’n eu cefnogi.

Meddai Matthew Bevan, Cynghorwr Pwyllgor CATCH: “Mae’n wych gweld sut mae CATCH wedi mynd ati i ddefnyddio technoleg ac mae’n sylweddoli pa mor bwysig yw hi wrth helpu pobl sy’n dioddef caledi. Gall y fewnrwyd gynnig cymaint o bosibiliadau i’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas ac mae’n wych bod elusennau fel CATCH yn helpu pobl i elwa ar y manteision.”

Meddai Nina Graham, Aelod Pwyllgor CATCH, “Rydym yn ddiolchgar am gymorth Cymunedau Digidol Cymru o ran hyfforddiant a benthyg cyfarpar i ni eu defnyddio yn ein sefydliad.

“Rydym ni’n sicrhau bod y cyfarpar ar gael yn ystod oriau agor. Mae gennym ffoaduriaid o Syria yn ein dalgylch ac rydym wedi cynnig eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd i gyfathrebu.

Rydym ni hefyd yn defnyddio Google Translate i hwyluso ein sgyrsiau ein hunain gyda’n ffrindiau o Syria pan maen nhw’n galw heibio.

“Mae’r gliniaduron ar gael hefyd i bobl chwilio am waith ac fe wnaeth un dyn gais am 22 o swyddi y tro cyntaf iddo ddefnyddio un yma.”

“Rydym ni’n bwriadu mynd â thîm o wirfoddolwyr i gartref preswyl lleol i ymgysylltu â phobl nad ydyn nhw wedi cael llawer o gyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol. Rydym wedi defnyddio un o’r llechi i dynnu lluniau o’r ardal leol, er mwyn i ni allu eu dangos i’r preswylwyr wrth ymweld.”