Neidiwch i’r prif gynnwys

Ysgol Emmanuel yn agor caffi rhyngrwyd i helpu ei chymuned leol

Roedd disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Emmanuel yn Y Rhyl yn cynnal caffi cymuned ar safle'r ysgol. Ond ar ôl i'r disgyblion gael eu hyfforddi gan Gymunedau Digidol Cymru i fod yn Arwyr Digidol, cymeront y cam dewr i'w droi i mewn i gaffi rhyngrwyd cyflawn i helpu pobl leol fynd ar-lein!

Llun o Ysgol Emmanuel

Pam?

Ym mis Ebrill 2015, sefydlodd Ysgol Emmanuel ei gaffi cymuned ei hun. Mae’r caffi yn galluogi disgyblion i ymarfer eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, yn ogystal â’u llythrennedd a’u rhifedd, trwy ysgrifennu archebion i lawr a gweithio ar y tiliau. Roedd amgylchedd positif a chefnogol y caffi yn helpu’r disgyblion i ddatblygu a magu hyder ac i gyflawni eu potensial wrth iddynt gael profiad gwerth chweil oedd yn eu cyflwyno i fyd gwaith. Roedd y caffi’n golygu bod y disgyblion yn hen lawiau ar siarad â chwsmeriaid, cymryd archebion, gweithio ar y til ac yn helpu i baratoi bwyd cartref iach.

Ond hyfforddiant Arwyr Digidol gan Gymunedau Digidol Cymru oedd y catalydd i’r ysgol fynd â’r caffi i gyfeiriad newydd.

Sut?

Roedd hyfforddiant Arwyr Digidol yn dysgu’r disgyblion pwysigrwydd bod ar-lein, yn arbennig yn y Rhyl, lle sy’n cael ei ystyried fel un o’r ardaloedd lleiaf ddigidol-gynhwysol yng Nghymru. Cafodd y disgyblion ddysgu sut i helpu pobl i feithrin sgiliau digidol sylfaenol a mynd ar-lein.

Effaith

Mae pobl sy’n dod i’r caffi yn gallu benthyg Mac Books nawr, ac mae’r Arwyr wrth law i roi cymorth pan fo’i angen. Mae’r caffi ar agor yn ystod oriau ysgol ac mae’r Arwyr ar gael bob amser.

Meddai Miss Smith o Ysgol Emmanuel:

“Mae’n fraint i Arwyr Digidol Ysgol Emmanuel gysylltu â’n cymuned leol a chael rhannu eu sgiliau technoleg gwybodaeth – rydym wedi ymrwymo i ymwneud â’n cymuned ac wedi sefydlu caffi rhyngrwyd yn ein hysgol sy’n cael ei gynnal gan ein hentrepreneuriaid yn y chweched. Mae hyn galluogi aelodau o’r cyhoedd i gael mynediad i’r rhyngrwyd ac mae Arwyr Digidol y chweched bob amser ar gael i gynnig cyngor a chymorth gyda thechnoleg gwybodaeth.”