Neidiwch i’r prif gynnwys

Dyfeisiau digidol a chymorth i breswylwyr tai gwarchod yng Nghymru

Os fydd eich cynllun tai cysgodol hoffi fenthyca dyfeisiau llechen er budd preswylwyr, lawrlwythwch y ffurflen isod

Default Alt Text

Cefndir

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda sefydliadau i hyrwyddo cynhwysiant a hyder digidol ledled Cymru.  Un o’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw drwy roi benthyg offer digidol megis gliniaduron a llechi law yn llaw â hyfforddiant sgiliau digidol. Yn ystod y pandemig presennol mae mynediad at ddyfais ddigidol wedi bod yn hanfodol er mwyn gallu cadw mewn cysylltiad â ffrindiau, teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i roi benthyg offer digidol i sefydliadau â blaenoriaeth oherwydd y pandemig Covid-19.  Rydym eisoes wedi dosbarthu 1,051 o lechi a phecynnau data i gartrefi gofal i oedolion ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni gefnogi a dosbarthu llechi gyda chysylltedd i breswylwyr tai gwarchod ledled Cymru.

Os fydd eich cynllun tai cysgodol hoffi fenthyca dyfeisiau llechen er budd preswylwyr, lawrlwythwch y ffurflen isod:

Lawrlwythwch yma

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd dydd Sul 18 Hydref

 

Y Broses Ymgeisio:

  1. Mae angen i sefydliadau ddangos y bydd y llechi’n cael eu defnyddio i wella sgiliau digidol y preswylwyr rydych chi’n eu cefnogi, yn hytrach nag at ddibenion staff. Gall enghreifftiau gynnwys cysylltu â theulu a ffrindiau, cael mynediad at wasanaethau iechyd, dysgu neu leihau unigedd ac unigrwydd.
  2. Mae faint o offer sy’n cael ei fenthyg yn dibynnu ar eich cynnig ac ar faint o offer sydd ar gael gennym; uchafswm o 5 dyfais i bob sefydliad.
  3. Cytunir ar y cyfnod benthyca rhwng y ddau barti, ac fe’i nodir ar y ffurflen isod.
  4. Caiff cynigion eu hasesu, a chyhoeddir dyfarniadau benthyca mewn modd teg a chyfartal ledled Cymru.
  5. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd dydd Sun 18 Hydref.

 

Ein Cyfrifoldebau

  1. Rydym yn cynnig ystod eang o hyfforddiant cynhwysiant digidol sydd ar gael i’ch sefydliad ar unrhyw adeg. Er mwyn sicrhau bod eich preswylwyr yn manteisio’n llawn ar yr offer, byddwn yn cynnal sesiwn hyfforddi neu sesiwn sefydlu ar ôl dosbarthu eich offer.
  2. Byddwn yn sicrhau bod y pecyn yn barod i’w ddefnyddio, a byddwn yn cynnig cymorth gydol cyfnod y benthyciad os bydd ei angen arnoch.
  3. Byddwn yn eich cefnogi gyda gwybodaeth am opsiynau ariannu i brynu eich offer eich hun pe bai hynny’n rhywbeth yr hoffech ei wneud.

 

Eich Cyfrifoldebau

  1. Mae’r benthyciad offer yn amodol ar i chi gytuno ag amodau’r benthyciad sydd i’w gweld ar dudalennau olaf y ddogfen hon. Darllenwch nhw cyn llenwi’r ffurflen. Mae’r amodau’n cynnwys y gofyniad i chi amnewid unrhyw offer a gollir neu a gaiff ei ddwyn.  Fodd bynnag, os bydd hyn yn atal cynnydd a darpariaeth, trafodwch hyn gyda’ch cyswllt Cymunedau Digidol Cymru.
  2. Rydym am i chi rannu’r effaith mae’r offer wedi’i chael ar eich preswylwyr. Gofynnwn i chi rannu gwybodaeth gyda ni am nifer y preswylwyr a gefnogir a’r effaith y mae’r ddyfais wedi’i chael. Rydym am ddysgu o’ch profiad fel y gall eraill elwa.
  3. Disgwylir i chi ddefnyddio’r offer at y dibenion a fwriedir. Os bydd y diben yn newid, rhaid i chi roi gwybod i ni ac efallai y bydd rhaid i chi ddychwelyd y dyfeisiau a fenthycwyd.

Cymunedau Digidol Cymru – trosolwg

Beth yw cynhwysiant digidol – a pham mae’n bwysig?

Cartrefi gofal yn elwa o gyflwyno dyfeisiau digidol