Neidiwch i’r prif gynnwys

Cwestiynau cyffredin hyfforddiant

Wedi drysu? Gadewch i ni eich helpu...

Sut alla i gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant?

Cyflwyno ffurflen ymholiad gyda gwybodaeth am eich anghenion hyfforddi. Yna, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo at ein tîm hyfforddi a fydd yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion, pennu dyddiad ar gyfer yr hyfforddiant a darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi er mwyn cofrestru eich staff ar gyfer y sesiynau.

Ydy’r hyfforddiant yn rhad ac am ddim?

Ydy. Fodd bynnag, os bydd rhaid i chi ganslo’r hyfforddiant am unrhyw reswm, gofynnwn i chi roi rhybudd o 24 awr (o leiaf) i ni. Fel arall, bydd rhaid i chi dalu £25 i dalu am y costau cysylltiedig â threfnu sesiynau hyfforddi.

Ydy’r hyfforddiant ar gael i’n cwsmeriaid / defnyddwyr gwasanaeth / cleientiaid / tenantiaid?

Na. Yn anffodus, darperir yr hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr rheng flaen sefydliadau yn unig, oherwydd ein nod yw rhoi cyfle i bobl ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi eraill i fynd ar-lein, yn hytrach na darparu gwersi i bobl sydd angen cymorth.

Oes angen i ni ddarparu lleoliad?

Rhaid i chi ddarparu lleoliad. Gofynnwn i chi sicrhau bod mynediad at gyflenwad Wi-Fi dibynadwy a chyson, ynghyd â gofod hyfforddiant addas. Bydd yr hyfforddwr yn gwirio’r lleoliad o flaen llaw. Os ydych yn cael trafferthion yn dod o hyd i leoliad addas, neu os ydych yn sefydliad bach, cysylltwch â ni i weld a oes posibilrwydd y gallwch fynychu hyfforddiant gydag eraill sydd angen cymorth.

Pa fath o gymorth y gallwn ni ei ddisgwyl ar ôl yr hyfforddiant?

Mae gennym ystod o fodiwlau DPP y mae croeso i staff eu mynychu. Yn ogystal, gallwn ddatblygu hyfforddiant wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich sefydliad. Bydd staff sy’n mynychu hyfforddiant yn cael mynediad at ofod cydweithredol lle byddant yn gallu cael cymorth oddi wrth ein hyfforddwyr a staff eraill ledled Cymru. Mae gennym ni fynediad at lyfrgell eang o adnoddau hyfforddi sy’n gallu cefnogi pobl i fynd ar-lein a bydd eich staff yn gallu cael mynediad ato. Rydym ni wrthi’n datblygu cyfarpar dysgu i ddarparu cymorth parhaus i staff ar amser sy’n gyfleus iddyn nhw. Rydym ni’n hapus i ddarparu digwyddiadau DPP yn ystod egwyliau cinio ar ystod o bynciau. Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.

Pa lefel o allu TG sydd ei angen ar staff cyn mynychu’r sesiynau?

Nid oes angen i chi fod yn athrylith TG cyn mynychu’r sesiynau. Fodd bynnag, mae angen lefel sylfaenol o ddealltwriaeth TG a’r rhyngrwyd arnoch. Nid yw’r sesiynau hyn yn cael eu hanelu at ddechreuwyr, ac ni fyddant yn disodli hyfforddiant TG ar gyfer tasgau cysylltiedig â gwaith. (Sylwer: os oes angen cymorth arnoch mewn perthynas â’r uchod, gallwn eich cyfeirio at unigolion a fydd yn gallu eich helpu).

Mae gan Digital Unite adnoddau ar gyfer defnyddwyr newydd a chanolradd

A hoffech chi wneud ymholiad am ein sesiynau hyfforddi nawr?