Neidiwch i’r prif gynnwys

O Gynhwysiant i Wydnwch: Agenda ar gyfer cynhwysiant digidol

Mae Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru wedi amlinellu pum cam y mae’n credu eu bod yn hanfodol er mwyn i Gymru ddangos esiampl ym maes cynhwysiant digidol.

Lawrlwytho yr addrodiad
front cover

Grŵp ambarél o sefydliadau yw Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru sydd wedi ymrwymo i weithredu ar y cyd i newid yr agenda cynhwysiant digidol yn sylweddol yng Nghymru. Yn rhan o raglen Cymunedau Digidol Cymru, rhwydwaith agored ac anffurfiol o unigolion a sefydliadau ydyw sydd ag ymrwymiad cadarn i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.

Mae’r Agenda yn amlygu pum maes yr hoffem iddynt gael eu blaenoriaethu yn ystod y pum mlynedd nesaf fel bod pawb yng Nghymru sydd angen ac eisiau cael mynediad at y rhyngrwyd a thechnoleg ddigidol, ac elwa ohonynt, yn gallu gwneud hynny:

  1. Ymsefydlu cynhwysiant digidol ym mhob sector
  2. Prif ffrydio cynhwysiant digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  3. Mynd i’r afael â thlodi data fel mater allweddol
  4. Blaenoriaethu sgiliau digidol yn yr economi ar ôl Covid
  5. Gosod isafswm safon byw digidol newydd

Gwyliwch yr Athro Hamish Laing, Cadeirydd y Gynghrair, yn cyflwyno’r Agenda (yn Saesneg)…