Neidiwch i’r prif gynnwys

Wythnos Wirfoddolwyr 2021

Yr Wythnos Wirfoddolwyr hon rydym am ddathlu cyfraniad Gwirfoddolwyr Digidol. Diolch i bob person ledled Cymru sydd wedi rhoi o'u hamser i estyn cymorth i rywun a'u helpu i gymryd eu camau cyntaf i'r byd digidol.

Default Alt Text
Default Alt Text
Default Alt Text

Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau ledled y wlad dros y flwyddyn ddiwethaf, gan eu helpu i ddatblygu, hyfforddi, cefnogi ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr digidol.  Mae gwirfoddolwyr digidol ledled Cymru wedi bod yn gyfrifol am gefnogi rhai o’r bobl mwyaf ynysig a bregus yn ein cymunedau. Hoffwn ni ddweud “Diolch” wrth y gwirfoddolwyr anhygoel hyn, sydd wir wedi gwneud gwahaniaeth rhyfeddol.

Mae’r astudiaethau achos yr ydym yn eu rhannu gyda chi yr Wythnos Wirfoddolwyr hon yn dangos faint o wahaniaeth y gall gwirfoddolwyr digidol ei wneud. P’un ai yn helpu pobl i gysylltu â theulu a ffrindiau neu’n ymgysylltu â’u cymunedau lleol, mae’r gwirfoddolwyr hyn wedi helpu cymaint o bobl i deimlo’n llai ynysig ac unig pan nad oedd llawer yn gallu gadael eu cartrefi.

Gall Cymunedau Digidol Cymru eich cefnogi chi, p’un ai yr hoffech ddod o hyd i gyfle i wirfoddoli, neu os ydych chi’n sefydliad a hoffai ddarganfod sut y gallwch ddatblygu prosiect gwirfoddoli digidol.

Datblygu Prosiect Gwirfoddoli Digidol

Os ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, neu os hoffech i’ch staff ddod yn hyrwyddwyr digidol a helpu cydweithwyr neu ddefnyddwyr gwasanaeth i ddod yn hyderus yn ddigidol, cysylltwch â ni.

Dod yn Wirfoddolwr Digidol

Os hoffech ddarganfod mwy am wirfoddoli digidol, edrychwch ar ddetholiad o gyfleoedd cyfredol isod:

Cynllun cyfeillion digidol DVSC

Cynllun cyfeillio digidol PAVO

Gwirfoddolwr clwb atgofion chwaraeon

Gwirfoddolwr cymorth digidol AbilityNet

Prosiect cymorth digidol SCVS 

Neu mae na groseo i chi gysylltu â ni a byddwn yn eich cefnogi i chwilio am gyfleoedd yn eich ardal chi.