Cymunedau Digidol Cymru – trosolwg
Nod Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant yw lleihau achosion o allgau digidol yn ein gwlad. Hoffem weld Cymru yn wlad lle mae gan bawb y cymhelliant, y sgiliau a’r cyfle i ddefnyddio technoleg ddigidol yn hyderus.
Gyda phwy rydyn ni’n gweithio?
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyrraedd unrhyw un nad yw ar-lein. Gwyddom mai’r ffordd orau o gysylltu â’r bobl hyn yw trwy weithio gyda’r sefydliadau sy’n rhoi cymorth uniongyrchol iddyn nhw. Rydyn ni’n cydweithio â chyrff y trydydd sector a’r sector cyhoeddus, a sefydliadau mawr y sector preifat, gan gynnwys darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Cefnogi’r sector iechyd a gofal
Mae ein rôl o gefnogi darparwyr iechyd a gofal yn hollbwysig. Rydym yn gweithio gyda’r saith Bwrdd Iechyd er mwyn:
- Helpu staff clinigol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i ddatblygu eu sgiliau digidol fel bod staff yn gallu bod yn hyrwyddwyr digidol gan argymell sgiliau digidol i’w cleifion
- Cysylltu sefydliadau iechyd, gofal a gwasanaethau cymdeithasol â llu o bartneriaid cymunedol i wella’r cymorth cynhwysiant digidol sydd ar gael
- Darparu adnoddau a hyfforddiant i sefydlu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Digidol ymhlith staff iechyd a gofal cymdeithasol
- Creu Rhwydwaith Gwybodaeth Iechyd Digidol o ddarparwyr cymunedol sy’n gallu cynnig cymorth wyneb yn wyneb er mwyn helpu pobl i wella eu sgiliau
Ein hamcanion
Byddwn yn:
- Gweithio’n helaeth gyda sefydliadau penodol i gyd-gynhyrchu dulliau sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl sydd angen cymorth sgiliau digidol sylfaenol.
- Meithrin a chryfhau perthnasau strategol fel ffordd o wreiddio gweithgareddau cynhwysiant digidol ledled Cymru.
- Cefnogi Byrddau Iechyd Cymru i ennyn diddordeb staff a gwirfoddolwyr mewn technoleg er mwyn gwella canlyniadau iechyd cleifion.
- Helpu sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector i gofleidio a sefydlu cynhwysiant digidol yn eu strategaethau a’u harferion lleol.
- Hyrwyddo a chynyddu gwaith gwirfoddol mewn sgiliau digidol sylfaenol ledled Cymru.
- Gweithio gyda phob Awdurdod Lleol yng Nghymru i sefydlu cynhwysiant digidol yn rhan o’u darpariaeth gwasanaeth, gyda phwyslais ar ofal cymdeithasol
- Ymgysylltu â’r sector preifat i sefydlu cynhwysiant digidol yn eu gwasanaethau a hyfforddi staff i fod yn wirfoddolwyr.
- Creu, datblygu a rhannu adnoddau a phecynnau hyfforddi er mwyn cefnogi cynhwysiant digidol gyda phwyslais ar iechyd a gofal cymdeithasol
- Cynyddu nifer y Canolfannau Ar-lein ar niferoedd sy’n dilyn cyrsiau Learn my Way yng Nghymru.