Cysylltedd Digidol mewn Cartrefi Gofal
Gwyddom y gallai cysylltedd digidol mewn cartrefi gofal gael ei wella, felly rydym wedi rhestru dolenni i wybodaeth a allai eich helpu. Mae’r dolenni’n rhai allanol, felly nid ni sy’n gyfrifol am y cynnwys. Hefyd, mae rhywfaint o’r wybodaeth wedi’i chynhyrchu’r tu allan i Gymru, felly ni fydd popeth yn berthnasol.
Safon Digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cartrefi Gofal
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu dogfen ar y safon ddisgwyliedig lefel-uchel ar gyfer cysylltedd rhwydwaith. Dyma ddogfen dechnegol sy’n gosod y sylfaen ar gyfer cysylltedd disgwyliedig yn eich cartref. Gallai eich cartref ddefnyddio’r ddogfen hon fel canllaw wrth gloriannu gwelliannau i gysylltedd gyda chyflenwyr.
Safon Digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cartrefi Gofal [agor mewn ffenestr newydd]
Cytundebau Cysylltiadau â’r Rhyngrwyd i Gartrefi Gofal
Tudalen we NHS X
Mae NHS X (adran ddigidol NHS England) wedi creu tudalen we i gynorthwyo â chysylltedd gwell i gartrefi gofal. Rydym wedi holi rhai o’r cyflenwyr i weld a yw’r rhain ar gael yng Nghymru a deallwn fod y rhan fwyaf ohonynt ar gael.
Darllenwch fwy yma [saesneg yn unig ac yn agor mewn ffenestr newydd]
Hefyd, mae NHS X wedi llunio canllaw i ddewis y cysylltiad â’r rhyngrwyd ar gyfer eich cartref.
Darllenwch fwy yma [saesneg yn unig ac yn agor mewn ffenestr newydd]
Grantiau Posibl sydd Ar Gael
Cymorth/Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Band Eang i Fusnesau Preifat (Cysylltiad Newydd Yn Unig)
Darllenwch fwy yma [agor mewn ffenestr newydd]
Cymorth Llywodraeth y DU i Gartrefi a Busnesau Preifat Gwledig
Gall safleoedd gwledig â chyflymder band-eang sy’n llai na 100Mbps ddefnyddio talebau i gynorthwyo â chost gosod cysylltiadau newydd all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit.
Darllenwch fwy yma [agor mewn ffenestr newydd]