Neidiwch i’r prif gynnwys

Sut gallwn ni helpu?

Mae cynghorwyr Cymunedau Digidol Cymru yn gweithio gyda sefydliadau i’w helpu i gymryd camau ymarferol i gefnogi cynhwysiant digidol. Rydym yn darparu gwasanaeth hyblyg, rhad ac am ddim, sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion penodol eich staff a defnyddwyr gwasanaethau.

Beth sy’n rhan o’r gwasanaeth hwn?

Lle bynnag rydych chi ar eich taith cynhwysiant digidol, gallwn ni eich helpu chi. O gymryd y camau cyntaf, i gynyddu’ch effaith, i sefydlu cynhwysiant digidol yn rhan o’ch holl weithgareddau, bydd eich cynghorwyr wrth law.

Rydym yn cynnwys gwasanaeth wedi’i deilwra i bob sefydliadau sy’n cydweithio â ni. Gall elfennau allweddol gynnwys:

  1. Asesu cynhwysiant digidol – Byddwn yn cynnal asesiad cychwynnol o’ch sefydliad i weld beth rydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi cynhwysiant digidol a nodi’r camau y gallwn eu cymryd i’ch helpu i wneud mwy a chynyddu’ch effaith
  2. Hyfforddiant digidol i staff rheng flaen a gwirfoddolwyr – Gallwn ddarparu hyfforddiant penodol ar gynhwysiant digidol i’ch staff a gwirfoddolwyr i’w helpu i fagu hyder, gwybodaeth a sgiliau technegol (rhagor o fanylion ar ein tudalen hyfforddiant)
  3. Cyfarpar digidol ar fenthyg – Mae gennym bob math o gyfarpar digidol gan gynnwys cyfrifiaduron llechen, gliniaduron a thracwyr ffitrwydd i’w benthyca, er mwyn i’ch staff a gwirfoddolwyr roi cynnig ar bethau cyn i chi fuddsoddi mewn cyfarpar newydd sbon
  4. Cymorth digidol i wirfoddolwyr – Os ydych chi angen mwy o allu i ddarparu cymorth ar gyfer sgiliau digidol, gallwn eich helpu i ddatblygu eich rhaglen wirfoddoli ddigidol eich hun, paru’ch sefydliad â gwirfoddolwyr digidol neu hyfforddi’ch gwirfoddolwyr cyfredol. Hefyd, mae cyfleoedd i ddilyn ein rhaglenni gwirfoddoli digidol ein hunain (mwy o wybodaeth yn ein tudalen gwirfoddolwyr)
  5. Achrediad cynhwysiant digidol – Mae’r Siarter Cynhwysiant Digidol yn gallu dangos ymrwymiad eich sefydliad i leihau achosion o allgau digidol (rhagor o fanylion ar dudalen ein Siarter)
  6. Partneriaethau – Rydym hefyd yn meithrin partneriaethau rhwng sefydliadau lle gall cydweithio hybu amcanion cynhwysiant digidol. Mae croeso i unrhyw sefydliad ymuno â’n Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru. Ar ben hynny, gallwn eich cyflwyno i’n rhwydwaith o bartneriaethau Ewch Ar-lein lleol a ddatblygwyd gyda rhanddeiliaid ledled Cymru.
  7. Prosiectau llwybro – Os hoffech ddatblygu menter cynhwysiant digidol newydd sbon a chynhwysfawr, gallwn eich helpu i gynllunio a threfnu gwasanaeth sy’n seiliedig ar anghenion eich defnyddwyr.

Hyfforddiant cynhwysiant digidol

Rôl Gwirfoddolwyr Digidol