Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwrdd â’r Arweinydd Digidol: Karen Lewis – Cyfarwyddwr Ymgysylltu ac Arloesi, Canolfan Cydweithredol Cymru

Dyma Karen Lewis, sef un o hoelion wyth Canolfan Cydweithredol Cymru, yn siarad am ei chyfnod fel y Cyfarwyddwr Cymunedau a Chynhwysiant, a’i gobeithion ar gyfer hyrwyddo cynhwysiant digidol yng Nghymru, yn dilyn ei phenodiad diweddar fel Cyfarwyddwr Ymgysylltu ac Arloesi a Chadeirydd y Rhwydwaith Arweinwyr Digidol yng Nghymru yn 2019, gan ganolbwyntio ar arweinwyr digidol yn gweithio ar y cyd.

Karen Lewis, Cyfarwyddwr Ymgysylltu ac Arloesi

Ers pryd ydych chi wedi bod yn y Ganolfan, a pha swyddi ydych chi wedi’u cael/yn mynd i’w cael?

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r Ganolfan ers bron i 15 mlynedd – fel sefydliad partner, i ddechrau, yn gweithio gyda’n gilydd ar raglenni cynhwysiant digidol, pan oeddwn i’n gweithio yn y BBC a Phrifysgol De Cymru. Ymunais â staff y Ganolfan fel Cyfarwyddwr Cymunedau a Chynhwysiant tua thair blynedd yn ôl, ac rwyf newydd symud i rôl newydd fel Cyfarwyddwr Ymgysylltu ac Arloesi.

Beth wyt ti’n fwyaf balch ohono yn ystod dy amser yn y Ganolfan?

Clywed ein bod ni wedi ennill y contract Llywodraeth Cymru i gyflenwi’r rhaglen gynhwysiant digidol dilynol ar gyfer Cymru, gan adeiladu ar ein gwaith ar Gymunedau Digidol Cymru. Rwy’n arbennig o falch y dyfarnwyd dwywaith yn fwy o gyllid i ni na’r rhaglen flaenorol, sy’n cydnabod y gwaith angenrheidiol sydd i’w wneud ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae cyfnod cyffrous o’n blaenau!

A oes gennych chi unrhyw rolau eraill y tu hwnt i’r Ganolfan sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth ddigidol?

Fi oedd Hyrwyddwr Digidol Cymru Arweinwyr Digidol yn 2018, ac rwyf newydd dderbyn rôl Cadeirydd y Rhwydwaith Digidol yng Nghymru yn 2019. Y llynedd, cefais fy mhenodi i fod yn aelod dros Gymru ar y Panel Defnyddwyr Cyfathrebiadau a lywyddir gan OfCom, lle gallaf roi cyngor ar y materion cyfranogiad digidol sy’n wynebu defnyddwyr a dinasyddion ledled Cymru.

Yn eich barn chi, beth yw’r gyfrinach i fod yn Arweinydd Digidol da?

Nid yw Arweinyddiaeth Ddigidol yn golygu bod yn Brif Weithredwr neu’n Uwch-reolwr mewn sefydliad bob amser – ond mae’n helpu os yw’n dod gan y bobl ar y brig, wrth gwrs. Yn hytrach, mae’n golygu ysbrydoli pobl eraill, a dylanwadu arnynt, i groesawu’r hyn sydd gan y byd digidol i’w gynnig, a chydweithio i wneud i bethau ddigwydd, ni waeth beth yw eich rôl o ddydd i ddydd. Nid yw Arweinwyr Digidol yn gweithio ar eu pennau eu hunain – maen nhw’n gatalyddion sy’n meddu ar agwedd weithredol, ac yn amlygu unigolion a thimau sy’n gallu helpu i gyflawni newid a gwella bywydau trwy fabwysiadu atebion digidol. Maen nhw’n canolbwyntio ar bobl, yn chwilio am ddulliau a all drawsnewid gwasanaethau, gwella mynediad a chynnig atebion cynaliadwy tymor hir i rai o’r heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd.

Yn eich barn chi, beth fydd y newidiadau mwyaf ym maes cynhwysiant ac iechyd digidol yn y blynyddoedd nesaf?

Cwestiwn mawr! Wrth i dechnoleg ddatblygu ar gyfradd gynt nac erioed, mae’r cyfleoedd a gyflwynir i ddatblygu dulliau newydd o gyflwyno gofal iechyd yn ddi-ben-draw. Un o’r heriau pwysicaf bydd sicrhau bod gan staff a chleifion y GIG y sgiliau digidol angenrheidiol i elwa ar y trawsnewidiad sydd eisoes ar waith, ond sy’n debygol o gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae angen i raglenni digidol wella gofal cleifion a lleddfu’r baich ar staff gorlwythedig y GIG, peidio â tharfu trwy fod yn rhy gymhleth, yn anhygyrch ac yn galw am ormod o hyfforddiant arbenigol.

Yn eich barn chi, beth yw egwyddorion allweddol cynhwysiant ac iechyd digidol?

Mae’r GIG yn ymrwymo i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn ddigidol lle bynnag bo hynny’n briodol, a ddylai arwain at gostau is i ddarparwyr. I gleifion, gall hyn olygu mynediad cynt a haws i wybodaeth a gwasanaethau a’r cyfle i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain. Ond mae gosod y claf wrth wraidd dylunio’r gwasanaeth yn allweddol. Heb ystyried anghenion y claf a’i allu i gael mynediad i wasanaethau digidol, bydd diffyg cydraddoldeb wrth gyflenwi gwasanaethau, a’r hyn sydd ar gael, oherwydd y bobl a allai elwa fwyaf o wasanaethau iechyd digidol yw’r lleiaf tebygol o fod ar-lein.

Yn eich profiad chi, beth yw’r rhwystrau mwyaf sy’n atal y rheiny mewn angen rhag cael mynediad i ddarpariaethau cynhwysiant ac iechyd digidol – gan gynnwys cymorth gan Gymunedau Digidol Cymru?

Rydym yn gwybod mai’r bobl nad ydynt yn gallu mynd ar y rhyngrwyd yw’r rhai y mae angen gwasanaethau’r sector iechyd a gofal cymdeithasol arnynt fwyaf: pobl hŷn, pobl anabl, pobl sydd â chyflyrau iechyd tymor hir, er enghraifft. Nid yw hwn yn fater mor syml â pheidio cael mynediad at liniadur, llechen gyfrifiadurol, cyfrifiadur neu ffôn clyfar – na diffyg band eang chwaith – mae yna rwystrau mwy cymhleth sy’n atal llawer o bobl rhag elwa ar yr hyn sydd gan y rhyngrwyd i’w gynnig. Mae’r rhain yn cynnwys diffyg hyder, diffyg sgiliau llythrennedd, bod yn amheus o’r rhyngrwyd, pryderon ynghylch preifatrwydd, peidio deall pam mae angen mynd ar-lein a phoeni ‘na fyddan nhw’n gallu’.

Sut dylai trawsnewidiad digidol gofal iechyd edrych?

Cwestiwn mawr arall! O safbwynt y claf, os bydd pob claf yn elwa, rhaid i drawsnewid digidol fodloni anghenion y rhai mwyaf agored i niwed. Dylai i Fyrddau Iechyd a darparwyr eraill gyd-ddylunio datblygiad gwasanaethau digidol, gan roi’r claf neu ddefnyddwyr gwasanaethau wrth wraidd eu ffordd o feddwl bob amser. Wrth ddatblygu cynlluniau a strategaethau digidol, angen i ddarparwyr gofio am yr agenda allgáu digidol; mae hyn yn golygu deall na fydd cyfran sylweddol o’u cleifion yn gallu cael mynediad i wasanaethau digidol heb gymorth. Mae Cymunedau Digidol Cymru’n gallu rhoi cyngor ynghylch hyn, a chynnig hyfforddiant a chymorth; ond rhaid i’r darparwyr eu hunain ystyried yr her ac ymgorffori cymorth i’r rheiny y mae arnynt ei angen. Ceir enghreifftiau rhagorol o hyn ar draws Cymru eisoes, ond rhaid iddo ddigwydd ym mhobman. Mae gwella lefelau cyfranogiad digidol yng Nghymru yn fusnes i bawb, a bydd gwir Arweinwyr Digidol yn y GIG a’r sector cyhoeddus ehangach yn rhoi’r genhadaeth hon wrth wraidd eu cynlluniau trawsnewid.