Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwrdd â’r Arweinydd Digidol: Louise Blackwell – Swyddog Datblygu Cymunedol, Tai Clwyd Alyn

Louise Blackwell sy’n esbonio mai’r hyn sy’n allweddol er mwyn bod yn Arweinydd Digidol effeithiol yw dechrau gyda gofynion unigryw pob unigolyn trwy ddechrau gyda chyrsiau elfennol tebyg i First Click er mwyn goresgyn pryderon ynghylch defnyddio technoleg, ac yna archwilio dyheadau, anghenion ac angerdd unigolion.

Ers pryd ydych chi wedi bod ynghlwm â chynhwysiant/iechyd digidol a pha swyddi ydych chi wedi’u cael?

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Thai Clwyd Alyn Cyf ers 2019 ac, ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Cymunedol. Rwyf wedi bod yn gweithio ar yr agenda cynhwysiant digidol ers sawl blynedd bellach, ac rwyf wedi mwynhau gweithio gyda phartneriaid allweddol eraill (gan gynnwys; Cymunedau 2.0 cyn iddo ddatblygu i Gymunedau Digidol Cymru, Eryrod Digidol Barclays ac arwyr digidol ysgolion lleol ac ati) er mwyn helpu i bellhau cynhwysiant digidol yn y cymunedau lle rydym yn gweithredu. Yn fy marn i, gall cynhwysiant digidol esgor ar fanteision sylweddol o ran gwella iechyd meddwl trwy leddfu arwahanrwydd, trwy gysylltu teuluoedd a chymunedau.

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono yn ystod eich amser yn y sector?

Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda’n trigolion tai gwarchod ym Mhentre Mawr ac Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele ar brosiect parau darllen rhyng-genhedlaeth. Helpais y cynllun i sicrhau cyllid Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol er mwyn cynnal prosiect sy’n helpu dwy genhedlaeth i ddod ynghyd i helpu ei gilydd. Roedd yr henoed yn helpu’r myfyrwyr gyda llythrennedd tra bod y disgyblion yn dangos i’n trigolion hŷn sut i ddefnyddio Kindle – ymysg technolegau eraill – a thrwy wneud hynny, ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngddynt. Roedd pawb yn elwa, ac roedd yn brofiad hyfryd i bawb.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn ystod eich cyfnod yn y swydd?

Rwyf wrth fy modd yn gweithio i Glwyd Alyn, ac rwy’n gobeithio adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni eisoes – helpu mwy o’n trigolion i ddefnyddio technoleg ddigidol sydd â photensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau. P’un a yw hynny’n golygu dysgu sut i wneud galwad fideo i’w teuluoedd sy’n byw mewn rhan arall o’r byd neu ddysgu sut i ddefnyddio WhatsApp i arbed arian ar filiau ffôn, er enghraifft.

Yn eich barn chi, beth yw’r gyfrinach ar gyfer bod yn Arweinydd Digidol da?

Mae angen i Arweinwyr Digidol ddechrau gyda dyheadau ac anghenion unigryw pob unigolyn – felly rhaid iddynt gymryd amser i wrando ar beth maen nhw’n teimlo’n angerddol amdano, eu dyheadau/anghenion penodol ac yna dangos iddyn nhw sut gall technolegau digidol eu helpu i fodloni’r rhain! Felly, er enghraifft, rhywbeth a fachodd sylw fy nhad – a raddiodd mewn Eifftoleg – oedd dangos iddo sut i gael mynediad at lawer o e-gyfnodolion rhad ac am ddim a gwaith ymchwil yn ymwneud ag Eifftoleg ar-lein. Efallai bydd preswylydd arall yn dwlu ar gerddoriaeth ac, felly, byddai’n elwa ar wybod sut i ddefnyddio gwasanaeth fel Spotify a/neu YouTube.

Yn eich barn chi, beth fydd y newidiadau mwyaf ym maes cynhwysiant a/neu iechyd digidol dros y blynyddoedd nesaf?

Ar hyn o bryd, y rheiny a allai elwa fwyaf ar wasanaethau digidol yw’r lleiaf tebygol o fod ar-lein (e.e. pobl hŷn, pobl mewn ardaloedd difreintiedig neu sy’n dioddef salwch) ac, yn anffodus, rwy’n credu y byddwn yn gweld y gagendor digidol yn ehangu yn sgil hynny. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar y rhai sy’n parhau i gael eu hallgáu yn ddigidol os na fydd adnoddau a chymorth priodol ar gael e.e. ar gyfer dosbarthiadau i ddechreuwyr (fel yr hen gyrsiau amhrisiadwy First Click), gan fod wir angen i rai pobl ddysgu elfennau sylfaenol T.G. cyn y gallant gael eu cynnwys yn ddigidol, ac yna phrofi buddion hyn – o ran arbed arian trwy siopa ar-lein neu gysylltu â theulu a ffrindiau fydd yn effeithio ar eu hiechyd.

Yn eich barn chi, beth yw egwyddorion allweddol cynhwysiant ac/neu iechyd digidol effeithiol?

  • I drigolion: gall iechyd digidol olygu gwell mynediad at wybodaeth a gofal/cymorth, rhagor o gyfleustra, a mwy o gyfleoedd i bobl allu rheoli eu hiechyd a’u bywydau eu hunain yn well
  • I asiantaethau: gall iechyd digidol olygu cyflenwi gwasanaethau’n fwy effeithiol, cael canlyniadau gwell a lleihau costau
  • Dylai pob gwasanaeth ystyried anghenion pobl a allai fod wedi’u hallgáu yn ddigidol, er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael eu harwahanu.

Yn eich profiad chi, beth yw’r rhwystrau mwyaf i bobl mewn angen?

Mae’r rhwystrau’n cynnwys:

  • Ofn – Pryder ymysg defnyddwyr technoleg dibrofiad y byddant yn gwneud rhywbeth yn anghywir, ynghyd â diffyg dealltwriaeth, ofn troseddau seiber, bancio ar-lein a chael eu twyllo ac ati
  • Diwylliant – teimlad posibl o “Rwyf wedi ymdopi heb gyfrifiaduron trwy gydol fy oes, pam ddylwn i ddechrau nawr?”
  • Costau – Pryder ynghylch gwario ar gyfarpar a chontractau
  • Diffyg sgiliau – Nid yw unigolion wedi defnyddio cyfrifiadur erioed, ac efallai nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau.

I ddysgu mwy am waith Clwyd Alyn Cyf fel landlord cymdeithasol mewn llety teuluol cyffredinol, cynlluniau byw â chymorth, a thai gyda gofal a chymorth, ewch i www.clwydalyn.co.uk.