Neidiwch i’r prif gynnwys

Gwrdd â’r Arweinydd Digidol: Ashley Bale – Rheolwr Arloesi a Chynhwysiant Digidol, Innovate Trust

Gwrdd â’r Arweinydd Digidol: Ashley Bale – Rheolwr Arloesi a Chynhwysiant Digidol, Innovate Trust

Ers pryd ydych chi wedi bod ynghlwm â chynhwysiant/iechyd digidol, a pha swyddi ydych chi wedi’u cael?

Rwyf wedi bod yn gweithio fel Rheolwr Arloesi a Chynhwysiant Digidol ers mis Hydref 2017.

Dechreuais weithio yn y trydydd sector yn 2009, pan oeddwn yn darparu cymorth rheng flaen i oedolion ag anableddau, sydd wedi gwella fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o sut gall hyrwyddo cynhwysiant digidol i bobl â chymorth eu helpu’n fawr i fod yn fwy annibynnol, gwella eu lles a darparu cyfleoedd newydd.

Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono o’ch amser yn y sector?

Mae ’na gymaint o bethau rwy’n falch ohonynt – ond yr hyn sy’n sefyll allan i fi fyddai arwain a datblygu cartrefi deallus i oedolion ag anableddau dysgu, a gweld gwir arwyddion o fwy o annibyniaeth a gwella lles i bobl â chymorth, a chanlyniadau sydd wedi newid eu bywydau.

Yn ogystal â hyn, mae’r partneriaethau, y bobl a’r sefydliadau rwy’n gweithio gyda nhw, a’r ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â phethau gyda’n gilydd, yn gwneud i fi deimlo’n hynod falch.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn ystod eich cyfnod yn y swydd?

Fy nod yw annog a chefnogi cymaint o unigolion â phosibl i fod yn annibynnol, gan ddefnyddio technoleg y brif ffrwd er mwyn cyflawni hyn.

Rwy’n arwain cymuned wirfoddol ‘Tech For Good’ yng Nghaerdydd, sy’n dod â phobl ynghyd sydd â diddordeb mewn technoleg er mwyn cael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas. Rydym yn cynnal digwyddiadau pob dau fis sy’n trafod amrywiaeth eang o bynciau, lle mae pobl a sefydliadau’n dod ynghyd i rannu arfer da a dangos sut gellir defnyddio technoleg er lles. Mae gen i ddiddordeb mewn Rhyngrwyd Pethau a thechnoleg ddeallus, a manteisio ar y rhain er lles pobl eraill.

Yn fy marn i, mae ‘na cymaint o gyfleoedd wedi’u colli i bobl a allai gael eu cynnwys yn ddigidol yn well – fy nod yw manteisio ar bob cyfle [a’i wireddu] – er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei allgáu neu ei adael ar ôl.

Yn eich barn chi, beth yw’r gyfrinach ar gyfer bod yn Arweinydd Digidol da?

Yn fy marn i, yr hyn sy’n bwysig yw angerdd, penderfynoldeb, creadigrwydd ac awydd i wneud gwir wahaniaeth trwy gynhwysiant. Rwy’n berson sy’n siarad llai ac yn gwneud mwy, felly beth am dreulio llai o amser yn siarad am sut gallwn ni wella pethau, a mynd ati i wneud hynny?

Er mwyn bod yn Arweinydd Digidol, rhaid i chi allu gweld y byd trwy lygaid rhywun sydd wedi’i allgáu yn ddigidol. Dylech gofio bob amser y gall newidiadau bach gael effaith a manteision cadarnhaol anferth i unigolion.

Yn eich barn chi, beth fydd y newidiadau mwyaf ym maes cynhwysiant a/neu iechyd digidol yn y blynyddoedd nesaf?

Rydym yn byw mewn byd cynyddol ddigidol, ac mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth yn parhau i fod wedi’u hallgáu yn ddigidol. Rhaid i ni barhau i fynd i’r afael â’r gagendor digidol rhwng y rheiny sydd wedi gallu croesawu’r byd digidol, a’r rheiny sydd ddim.

Gyda’r cynlluniau i ddigideiddio’r GIG (digideiddio cofnodion meddygon teulu, system trefnu apwyntiadau a mwy), ynghyd â systemau gwasanaeth cyhoeddus, mae angen i ni fod yn ofalus y bydd hyn [digideiddio’r GIG] yn arwahanu llawer o unigolion nad ydynt yn defnyddio technoleg ar hyn o bryd, neu rai nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd.

Mae llawer ohonom yn defnyddio’r rhyngrwyd ar gyfer bancio, siopa, yswiriant a thalu am gyfleustodau (dŵr, nwy, treth, rhent). Bydd hyn yn tyfu wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen, wrth i wasanaethau pob dydd eraill symud ar-lein. Mae’r ffordd y mae’r gymdeithas yn cyfathrebu’n newid hefyd, wrth i lawer ohonom ddibynnu ar apiau negeseua gwib. Mae angen i ni fod yn barod am y don ddigidol nesaf, fel y cynlluniau sydd ar y gweill gan BT i ddiffodd llinellau ISDN erbyn 2025 – sy’n golygu na fydd ffonau llinell dir traddodiadol yn bodoli mwyach, wrth i ni symud i gyfathrebu â VOIP (Protocol Llais Dros y Rhyngrwyd).

Mae angen i ni achub y blaen a meddwl mewn ffordd flaengar. Mae angen i ni addysgu, rhannu a sicrhau bod mwy o adnoddau ar gael i alluogi pobl i gael eu cynnwys yn ddigidol.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn ystod eich cyfnod yn y swydd?

Yn fy marn i, mae pob un ohonom yn gyfrifol am gefnogi egwyddorion allweddol cynhwysiant digidol:

  • Cefnogi’r hawl a’r cyfleoedd i alluogi pawb i ddysgu sgiliau digidol
  • Defnyddio a dyrannu adnoddau penodedig i gau’r gagendor digidol
  • Cyflwyno egwyddorion cynhwysiant digidol mewn lleoliadau addysg
  • Hyrwyddo arfer gorau, enghreifftiau a gweithgareddau ynghylch cynhwysiant digidol
  • Rhannu gwybodaeth a gweithio ar brosiectau cydweithredol
  • Gweithredu a chymorth parhaus
  • Paratoi a chynllunio ar gyfer y datblygiadau technolegol nesaf.

Yn eich profiad chi, beth yw’r rhwystrau mwyaf sy’n atal pobl mewn angen rhag cael mynediad i ddarpariaethau cynhwysiant a/neu iechyd digidol?

Y rhwystrau mwyaf yw:

  • Mynediad at y rhyngrwyd
  • Cyllid neu adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cynhwysiant digidol
  • Cyfleusterau a chymorth i’r rheiny sydd wedi’u hallgáu yn ddigidol mewn ardaloedd gwledig
  • Unigolion yn cael mynediad at dechnoleg
  • Dealltwriaeth a chanfyddiadau unigolion o faterion digidol.

Sut dylai trawsnewidiad digidol gofal iechyd edrych?

Cynhwysol a hygyrch. Bydd angen i’r unigolion sydd ynghlwm â datblygu gwaith digideiddio’r sector gofal iechyd ystyried y boblogaeth gyffredinol a’r rhai nad ydynt yn cael eu cynnwys yn ddigidol ar hyn o bryd. Rwy’n teimlo’n optimistaidd y bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn raddol ac wedi’i gynllunio’n drylwyr. Mae technoleg sydd wedi’i roi ar waith yn y ffordd gywir ac mewn ffordd gyfrifol yn gallu gwella lles ac annibyniaeth yn sylweddol. Mae’r dyfodol yn edrych yn addawol.

Un o’m pryderon mwyaf yw mynediad ac argaeledd y rhyngrwyd ar gyfer grwpiau sy’n agored i niwed. Rwy’n credu y bydd symud at fyd sydd wedi’i gysylltu’n ddigidol yn gadael llawer o bobl yn unig ac wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Yn fy marn i, mae angen ystyried y rhyngrwyd yn rhywbeth angenrheidiol ac wedi’i ariannu ar gyfer grwpiau bregus yn ein cymdeithas nad oes ganddynt fynediad ar hyn o bryd.