Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynhwysiant digidol a democratiaeth

Mae Jenny Sims, newyddiadurwr llawrydd yng Nghaerdydd a Chydgadeirydd Cyngor 60+ yr NUJ, wedi ei hethol fel cadeirydd gweithgor newydd y Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol ar Gynhwysiant/Allgáu Digidol, ac yma mae’n adrodd hanes y cyfarfod cyntaf.

Tra bu drysau’r Senedd ar gau dros dro, fe ffynnodd democratiaeth mewn mannau eraill o’r DU. Bu’r Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol yn cynnal cyfarfod cyntaf ei Weithgor Cynhwysiant/Allgáu Digidol newydd, yn pleidleisio dros ei gadeirydd newydd ac yn cytuno ar ei gylch gorchwyl.

Ond heb os nac oni bai, gydag etholiad cyffredinol yn debygol unrhyw adeg, ni allai’r eitem bwysicaf ar yr agenda fod yn fwy amserol nac arwyddocaol – ymateb i alwad Pwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar Ddemocratiaeth a Thechnolegau Digidol am dystiolaeth.

Roedden nhw eisiau i ni gyflwyno barn ynghylch “effeithiau technoleg ar drafodaethau gwleidyddol yn fwy eang, a chyfranogiad ac ymgysylltu ehangach y cyhoedd â thrafodaethau gwleidyddol yn yr oes ddigidol” ar gyfer adroddiad sydd i’w gyhoeddi y flwyddyn nesaf. Gyda’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion ysgrifenedig ymhen 17 diwrnod yn unig, ni chafodd ein grŵp bach o saith gyfle i ddod i adnabod ein gilydd, a bu’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r dasg yn ddi-oed. Daethom i’r casgliad na lwyddodd cwestiynau’r arglwyddi i ystyried sut caiff pobl nad ydyn nhw’n defnyddio’r rhyngrwyd, fel pobl hŷn, eu hallgáu rhag cymryd rhan mewn trafodaethau gwleidyddol ar-lein ac ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

O ganlyniad, maen nhw’n teimlo fwyfwy eu bod nhw’n cael eu hymddieithrio a’u hamddifadu o’u hawliau, yn enwedig gan fod papurau newydd print yn lleihau. Felly, rydym wedi galw am “fwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau a phrosiectau llythrennedd digidol er mwyn helpu i gael mwy o bobl hŷn ar-lein ar gyfrifiaduron a ffonau, a rhoi mynediad at gyfrifiaduron mewn cymunedau, sy’n rhad ac am ddim i’w defnyddio”. Yn y cyfamser, ar ein tir ein hunain, mae Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru wedi bod yn lleisio’i farn yn y cyfryngau, ochr yn ochr ag Age Cymru, mewn ymateb i gyhoeddiad Trafnidiaeth Cymru y bydd cardiau teithio rhatach Cymru yn annilys o 31 Rhagfyr. Dywedodd gwefan Trafnidiaeth Cymru fod yn rhaid i bobl adnewyddu neu ymgeisio ar-lein, gan nodi dylai’r rhai na allan nhw wneud hyn gysylltu â’u cynghorau lleol i gael help.

Meddai Phyllis Preece, Cadeirydd Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, a ymddangosodd ar sianeli newyddion ITV a’r BBC gydag Age Cymru: “Dywedais nad oedd 50% o bobl hŷn Cymru ar-lein, ac y byddai yna banig pe na bai modd iddyn nhw gael ffurflen bapur.” Ers hynny mae ffurflen ar-lein wedi’i rhoi ar y wefan, ac mae modd ei lawrlwytho a’i hargraffu. Llwyddiant!

Er mai canolbwynt gweithgor digidol newydd y Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol fydd helpu mwy o bobl hŷn i fynd ar-lein, bydd yn anelu hefyd at godi ymwybyddiaeth o broblemau mae pobl nad ydyn nhw ar y rhyngrwyd yn eu hwynebu – fel anawsterau i adnewyddu cerdyn bws!

Nid yw oddeutu 1 o bob 5 o bobl 65-74 oed yng Nghymru yn defnyddio’r rhyngrwyd (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2019).

Dilynwch Jenny ar Twitter: @Jenny__Sims