Neidiwch i’r prif gynnwys

Pwysigrwydd ac effaith Gwirfoddoli Digidol yn ystod Covid-19

Dechreuais fy swydd gyda Canolfan Cydweithredol Cymru wythnos cyn y cyfyngiadau symud. Ni fyddwn yn argymell dechrau swydd newydd yng nghanol pandemig byd-eang, ond ni allai fod adeg fwy diddorol i weithio ar raglen sy’n canolbwyntio ar helpu pobl Cymru i fynd ar-lein. Mae fy swydd fel ‘Cydlynydd Gwirfoddolwyr’ gyda Cymunedau Digidol Cymru yn swydd newydd, ac roeddwn am ysgrifennu rhywbeth i nodi Wythnos Gwirfoddolwyr, a fydd yn dechrau ar 1 Mehefin.   

Mae Cymunedau Digidol Cymru – Hyder, Iechyd a Lles Digidol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus ar hyd a lled y wlad ers sawl blwyddyn i helpu pobl i fynd ar-lein. Mae fy nghyd-weithwyr i gyd yn gweithio’n galed ar hyn o bryd i ddarparu cyngor, hyfforddiant a chymorth i sefydliadau, gan weithio gyda rhai o’r bobl fwyaf ynysig ac agored i niwed yng Nghymru. Mae’r pandemig wedi gwneud ein bywydau o ddydd i ddydd yn wahanol mewn cynifer o ffyrdd, ond un trawsnewidiad arwyddocaol yw faint ohonom sydd wedi symud mwy o’n bywydau ar-lein. Mae llawer o bobl ‘nawr yn gweithio, yn cymdeithasu, yn siopa, yn cysylltu â phobl, yn canfod gwybodaeth, yn rheoli ein hiechyd, yn ein diddanu ein hunain, yn rheoli ein harian ac yn siarad â’n hanwyliaid ar-lein. I’r bobl hynny yng Nghymru nad oeddent eisoes ar-lein, mae’n bosibl bod y trawsnewidiad hwn yn golygu eu bod yn cael eu gadael ar ôl.  

Yn ôl Mynegai Digidol 2020 Banc Lloyds ar gyfer Defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig mae yna 3.6 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig sydd all-lein yn llwyr. Yng Nghymru, roedd gan 50% o boblogaeth Cymru sgiliau digidol isel neu isel iawn, ac roedd Cymru 11% y tu ôl i gyfartaledd y Deyrnas Unedig o ran sgiliau digidol. Mae’r bobl sydd â sgiliau digidol isel yn llawer mwy tebygol o fod dros 70 oed. Mae’r mynegai hefyd yn cysylltu sgiliau digidol isel ag incwm isel, gan nodi bod y bobl sy’n ymgysylltu leiaf yn ddigidol yn gwario dros £384 yn fwy, ar gyfartaledd, ar gyfleustodau bob blwyddyn.  

Trwy gydol y cyfyngiadau symud, cafwyd cynifer o enghreifftiau ysbrydoledig o bobl yn helpu eu cymdogion a’u cymunedau mewn cynifer y ffyrdd gwahanol. Un ffordd bwysig iawn y mae pobl wedi bod yn helpu eraill yn ystod y cyfyngiadau symud yw trwy gefnogi teulu a ffrindiau i fynd ar-lein – yn aml, nid yw’r ffordd hon yn cael ei chydnabod, yn fy marn i. Teuluoedd yn helpu perthnasau hŷn i sefydlu galwadau fideo er mwyn eu galluogi i weld anwyliaid nad ydynt wedi gallu eu gweld ers misoedd. Ffrindiau yn helpu ei gilydd i ymuno â grwpiau cymunedol, gwasanaethau eglwys, corau a chwisiau rhithwir. Cymdogion yn helpu ei gilydd i siopa ar-lein ac i sefydlu gwasanaethau presgripsiwn ar-lein i’w helpu i gadw’n iach. Heb bobl sy’n gwirfoddoli eu hamser a’u sgiliau, does dim gobaith cyrraedd y miliynau o bobl sydd all-lein ar hyn o bryd. Mae yna gynifer o bobl sy’n amlygu cymaint o amynedd, dyfalbarhad a charedigrwydd. Maent i gyd yn rhan hanfodol o’r gwaith o arwain Cymru ar y daith i fod yn wlad gryfach, fwy digidol.  

Yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon, mae Canolfan Cydweithredol Cymru a Cymunedau Digidol Cymru yn dweud ‘Diolch yn Fawr’ i’r holl wirfoddolwyr digidol ledled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth mor bwysig. Wrth i ni rannu ein sgiliau digidol, gallwn wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun.

I gael rhagor o wybodaeth am Wirfoddoli Digidol, cysylltwch â:  

Jenny.phillips@wales.coop