Neidiwch i’r prif gynnwys

Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Hamish Laing, Cath Fallon a Sara Woollatt yn cyflwyno Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Yr Athro Hamish Laing
Cadeirydd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru
Athro Arloesi, Ymgysylltu a Chanlyniadau Uwch, Prifysgol Abertawe

Nid yw’r her o helpu i sicrhau bod pawb yng Nghymru wedi’u cynnwys yn ddigidol yn newydd, ond mae’r pandemig wedi taflu goleuni ar yr anghydraddoldebau sy’n bodoli o hyd yn ein cymunedau. Mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen ein bod yn gweithredu i gau’r bwlch rhwng y rhai hynny sydd wedi’u cynnwys yn y byd digidol a’r rhai hynny nad ydynt wedi’u cynnwys.

Er enghraifft, mae’r cynnydd cyflym yn y defnydd o ddulliau digidol o ddarparu iechyd a gofal, gydag ymgynghoriadau fideo a phyrth yn disodli llawer o apwyntiadau wyneb yn wyneb traddodiadol â meddygon teulu, arbenigwyr ysbyty a thimau gofal cymunedol, wedi bod yn fuddiol i ddinasyddion, ac wedi cynnig datrysiadau ac arbedion effeithlonrwydd posibl i wasanaethau iechyd a gofal, ond mae hyn ond yn berthnasol i’r rhai hynny a all gael mynediad i’r gwasanaethau a’r llwyfannau hyn. Mae’r newid sylweddol o siopa traddodiadol i siopa ar-lein wedi bod yn amhrisiadwy i’r rhai sy’n hyderus yn ddigidol, ond mae wedi ynysu’r rhai nad ydynt yn hyderus ymhellach.

Ni all un sefydliad, na’r Llywodraeth hyd yn oed, ddatrys hyn ar eu pen eu hunain: mae’n fater i bawb. Dyna pam rwy’n falch o gadeirio Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru, sy’n tynnu ynghyd grŵp amrywiol o sefydliadau mawr a bach o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, sy’n rhannu uchelgais gyffredin o chwarae eu rhan yn yr her hollbwysig hon sy’n wynebu’r gymdeithas fodern. Os oes gan eich sefydliad syniadau gwych neu brofiad o wella cynhwysiant digidol, neu os yw am ddysgu am yr hyn y mae sefydliadau eraill yn ei wneud, yna beth am ymuno â ni? Byddem yn falch iawn o glywed gennych!

Cath Fallon
Dirprwy Gadeirydd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru
Pennaeth Menter ac Animeiddio Cymunedol Cyngor Sir Fynwy

Fel nifer o siroedd gwledig Cymru, mae Sir Fynwy yn brydferth. Fodd bynnag, nid yw ei natur wledig a’i thopograffi yn addas iawn ar gyfer seilwaith digidol.  O ganlyniad, mae gan Sir Fynwy y gyfradd uchaf o amddifadedd digidol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd – ar hyn o bryd, nid oes gan dros 12% o’n safleoedd fynediad at gysylltiad band eang da o gymharu â dim ond 3% mewn siroedd cyfagos.

Ar adeg yn ein bywydau pam rydyn ni i gyd yn ‘Aros Gartref ac Aros yn Ddiogel’, gwelwyd cynnydd ac effaith sylweddol o ran gweithgarwch digidol, ar-lein.  O safbwynt economaidd a chymdeithasol ehangach, bu cynnydd eithriadol yn nifer y bobl sy’n gweithio gartref, yn siopa ar-lein ac yn rhyngweithio â ffrindiau a theulu yn ddigidol. Mae hyn oll wedi arwain at fwy o angen am seilwaith a chysylltedd digidol o ansawdd da, a dyma sy’n llywio ein hangerdd yn Sir Fynwy i wella cysylltedd digidol ledled y sir a’r wlad.

Mae cael mynediad at sgiliau, technoleg a chysylltedd digidol yn hanfodol os rydym am sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal ac nad oes neb yn cael eu hanghofio yn y gymdeithas ddigidol amlwg hon. Felly, os ydych chi, fel ni, yn rhwystredig oherwydd diffyg mynediad at sgiliau, technoleg neu gysylltedd digidol, yna ymunwch â ni yng Nghynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru a helpwch ni i wneud gwahaniaeth. Mae cydraddoldeb digidol i bawb yn fater i bawb, ni waeth pa sefydliad rydych yn ei gynrychioli, felly ymunwch â ni a helpwch ni i wneud gwahaniaeth i’n bywydau ni a bywydau cenedlaethau’r dyfodol.

Sara Woollatt
Swyddog Ymgysylltu a Phartneriaethau, Cymunedau Digidol Cymru
Cydlynydd Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn cyflwyno rhaglenni cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru ers 2005 a, dros y blynyddoedd, mae tîm cynhwysiant digidol y Ganolfan wedi helpu miloedd o bobl ledled Cymru i ddefnyddio ac elwa ar y byd digidol.

Arweiniodd y cylch diweddaraf o arian gan Lywodraeth Cymru at greu rhaglen olynol i Gymunedau Digidol Cymru sef Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant. Roedd y rhaglen hon yn cynnwys cysyniad newydd – creu Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru.

Roedd hyn mewn ymateb i’r gydnabyddiaeth fod cyflawni cynhwysiant digidol gwirioneddol i’n cenedl yn dasg anferthol, sy’n gofyn am fwy o adnoddau ac ymrwymiad nag y gall un rhaglen waith eu cynnig.   Mae’n gofyn am ymrwymiad a mewnbwn gan bobl sydd â’r gallu i ddylanwadu ar strategaeth a pholisi a hyrwyddo’r achos ar bob lefel ym mhob sector.  Mae technoleg ddigidol bellach yn hollbresennol ym mhob agwedd ar ein bywydau ac, am y rheswm hwnnw, mae cynhwysiant digidol yn fater i bawb.

Daeth y syniad o Gynghrair o lunwyr newid a fyddai’n dod â’r agendau cynhwysiant digidol i ystafelloedd bwrdd a swyddfeydd ledled Cymru yn bwysicach fyth wrth i ddigwyddiadau pandemig 2020 dynnu sylw at yr hyn a oedd eisoes yn amlwg i ni yn y Gynghrair a Chymunedau Digidol Cymru, sef yr effaith negyddol y gall allgáu digidol ei chael ar unigolion.  Ar adeg pan mae gwasanaethau a phrosesau yn cael eu trawsnewid yn ddigidol ar gyflymder anhygoel, ni allwn adael pobl ar ôl. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod pob rhaglen trawsnewid digidol yn cyfateb i raglen cynhwysiant digidol cydgysylltiedig.

Mae aelodau Cynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod hyn yn digwydd – felly ymunwch â ni i fod yn rhan o’r fenter gyffrous hon sy’n ysbrydoli camau gweithredu ynghylch cynhwysiant digidol ac sy’n gweithio i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle i ymgysylltu â’r byd digidol mewn ffordd sydd o fudd iddynt.

Dilynwch ni ar Twitter @DIAWales neu e-bostiwch diaw@wales.coop.