Neidiwch i’r prif gynnwys

Strategaeth Ddigidol i Gymru: Cenhadaeth 4 – Cynhwysiant Digidol

Postiad gan Julie James, AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Rwy’n eiriolwr brwd dros gynhwysiant ddigidol. Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at ein dibyniaeth ar ddigidol – boed hynny i gael mynediad at wasanaethau iechyd, cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid neu gynnal gweithgareddau dyddiol arferol fel archebu bwyd.

Fodd bynnag i’r rhai nad ydynt yn hyderus yn ddigidol, mae’r ddibyniaeth fwy hon ar ddigidol wedi pwysleisio’r rhaniad digidol sy’n ehangu’n gynyddol. Nid yw cynhwysiant digidol bellach yn ‘braf i’w gael’. Mae’n hanfodol bod yn rhan o gymdeithas fodern. Dyna pam y mae’n sail i’r holl deithiau yn ein strategaeth ddigidol.

Yr ydym wedi cyrraedd y pwynt lle mae’n rhaid i bob sector gydnabod, croesawu a darparu gwasanaethau i bob dinesydd, nid dim ond y rheini sydd wedi’u cynnwys yn ddigidol. Ni allwn ddarparu arloesedd drwy dechnoleg ddigidol heb ystyried anghenion yr holl ddefnyddwyr gwasanaethau presennol a darpar ddefnyddwyr gwasanaethau.

Ni fydd mwy fyth o fuddsoddi mewn seilwaith, cysylltedd a mynediad i ddyfeisiau yn unig yn datrys y broblem.

Cynhwysiant Digidol: her cyfiawnder cymdeithasol

Mae digidol yn ddull o ddatrys problemau sy’n seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Fel y dywedodd fy nghydweithiwr Lee Waters yn ei flog cyntaf am y strategaeth ddigidol – nid yw’n ymwneud â chyfrifiaduron yn unig. Mae’n ymwneud â phobl.

Rydym am gefnogi pawb yng Nghymru i ennill y cymhelliant, yr hyder a’r sgiliau i ddefnyddio offer a gwasanaethau digidol. Yna gallant wneud penderfyniadau gwybodus am sut y maent yn cymryd rhan yn ein byd cynyddol ddigidol, ac yn gwneud y gorau ohono – rhywbeth y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol y dyddiau hyn.

I’r rhai na allant, neu sy’n penderfynu peidio â chymryd rhan yn ddigidol, rhaid i ni sicrhau bod ffyrdd eraill o gael mynediad at wasanaethau – a ddatblygwyd i fod yr un mor dda â’r rhai a gynigir ar-lein.

Gall offer a thechnolegau digidol helpu i wneud bywydau pobl yn well mewn llawer o ffyrdd.  Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â materion cyfiawnder cymdeithasol ehangach megis allgáu ariannol a chymdeithasol drwy ddefnyddio technoleg, ond mae angen inni sicrhau y gall pawb gymryd rhan lawn.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd ein Rhagolwg Cynhwysiant Digidol: tuag at Gymru sy’n hyderus yn ddigidol. Er mwyn adeiladu ar y Rhagolwg, rwy’n credu ei bod yn hanfodol cymryd y pedwar cam canlynol. Maen nhw’n dangos y rôl y mae’n RHAID i gynhwysiant digidol ei chwarae os ydym am arloesi a sicrhau bod economi Cymru’n ffynnu:

Sicrhau nad oes unrhyw ddinesydd yn cael ei adael ar ôl wrth i ni gofleidio ymagwedd sy'n rhoi'r digidol yn gyntaf, gan gadw cynhwysiant digidol yn ganolog i bopeth a wnawn. Sicrhau bod staff pob sector (gan ganolbwyntio'n benodol ar iechyd a gofal) yn ennill y sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i gyflawni, ac i gefnogi cleifion a phreswylwyr gofal i elwa o dechnoleg ddigidol. Cenhadaeth 4 Cynhwysiant Digidol: rhoi'r cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a'r hyder i bobl ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion. Sicrhau bod hyder digidol (cymhelliant, mynediad a sgiliau) yn cael ei wreiddio, ei alinio a'i groesawu gan bob sector yng Nghymru, ar sail un genhadaeth glir. Sicrhau ein bod yn datblygu ymyriadau priodol a chynaliadwy i liniaru'r effeithiau negyddol y bydd tlodi data yn eu cael ar bobl.

Felly, beth ydym ni’n ei wneud?

Rydym yn dibynnu ar ein rhaglen gaffael gwerth £2 filiwn y flwyddyn Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, a ddarperir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnwys ystod eang o sefydliadau ar draws pob sector sydd yn y sefyllfa orau i gyrraedd a chefnogi pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Mae’n gwneud hyn drwy roi’r sgiliau a’r hyder digidol sydd eu hangen ar staff a gwirfoddolwyr.

Mae Cymunedau Digidol Cymru yn chwarae rhan hollbwysig o ran sicrhau bod sefydliadau’n ystyried ac yn ymgorffori egwyddorion cynhwysiant digidol fel arfer safonol. Mae’r ffilm isod yn dangos yr effaith y mae cefnogi preswylwyr cartrefi gofal i ddod yn hyderus yn ddigidol wedi’i gael yn ystod cyfnod mor heriol y pandemig hwn.

Digital Cymunedau Cymru – Sut rydym wedi helpu yn ystod y cyfyngiadau symud (Nodwch mae cynnwys y fideo yn Saesneg yn unig.)

Wrth i ni ddatblygu cam nesaf y polisi cynhwysiant digidol, byddwn yn parhau i weithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i gasglu barn sefydliadau sy’n cefnogi darparu cynhwysiant digidol, ac sy’n ymwybodol o’r rhwystrau a wynebir.

Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Phrif Swyddogion Digidol Llywodraeth Cymru, Iechyd a Llywodraeth Leol i sicrhau bod gennym gefnogaeth gan uwch arweinwyr i gyflawni ein cenhadaeth o Gymru sy’n hyderus yn ddigidol.

Cynllun ar gyfer cyflawni

Bydd gan y genhadaeth hon, fel y lleill, gynllun gweithredu clir a rydyn yn ymwybodol bod rhai o’r uchelgeisiau yn rhai tymor hir. Yn wir, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i nodi rhai o’r camau sydd eu hangen os ydym am gyflawni’r hyn rydym wedi’i nodi uchod. Pan fydd y cynlluniau gweithredu wedi’u datblygu, byddant yn cael eu rhannu. Bydd y cynlluniau hyn yn ddogfennau byw ac adroddir yn rheolaidd ar y cynnydd.

Derbyn adborth

Fe’ch gwahoddaf i ymuno â ni ar y daith hon. Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein huchelgais ar gyfer y daith hon.

  • Ydych chi’n meddwl mai dyma’r camau cywir?
  • Beth yw’r rhwystrau ar gyfer cael cefnogaeth ar draws y sector?
  • Ydych chi’n meddwl bod unrhyw fylchau ac, os felly, beth ydyn nhw?
  • A oes enghreifftiau o’r tu allan i Gymru lle mae cynhwysiant digidol yn sbarduno gwell darpariaeth o wasanaethau e.e. NHS Digital?

Fe’ch anogaf i gyd, fel eiriolwyr dros ddigidol ac ar ran dinasyddion nad oes ganddynt lais digidol o bosibl, i’n helpu i gasglu barn a sylwadau ehangach y rhai nad oes ganddynt fynediad i’r blog hwn o bosibl ac a allai fel arall golli’r cyfle i gyfrannu.

Rhannwch y blog hwn mor eang ag y gallwch, a gofynnwch gwestiynau i unrhyw ffrindiau, aelodau o’r teulu a chymdogion yr ydych yn gwybod nad ydynt yn ymgysylltu â gwasanaethau digidol.

Rhannwch eich sylwadau â ni drwy lenwi’r ffurflen ar-lein  lle gallwch roi adborth ar bob cenhadaeth neu ambell un ohonynt, neu gallwch roi sylw isod. Bydd y ffurflen ar-lein a’r sylwadau ar agor tan 22 Ionawr 2021.

Er na fyddwn yn ymateb i bob sylw unigol, gallwn eich sicrhau y byddwn yn ystyried yr holl adborth wrth ddatblygu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.