Neidiwch i’r prif gynnwys

Mynd ar-lein gyda nam ar y golwg

Dafydd Ladd, gwirfoddolwr digidol

Bysellfwrdd ar gyfer person â nam ar ei olwg

Wrth i fwy a mwy o bobl hŷn roi cynnig ar dechnoleg ddigidol, mae’n bwysig gofalu eu bod yn cael y gefnogaeth i ddefnyddio dyfeisiau a gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion. Dafydd Ladd, gwirfoddolwr gyda Chymdeithas y Deillion Ceredigion, sy’n edrych ar yr opsiynau sydd ar gael.

Wrth i fwy a mwy o bobl hŷn roi cynnig ar dechnoleg ddigidol, mae’n bwysig gofalu eu bod yn cael y gefnogaeth i ddefnyddio dyfeisiau a gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion. Dafydd Ladd, gwirfoddolwr gyda Chymdeithas y Deillion Ceredigion, sy’n edrych ar yr opsiynau sydd ar gael.

Llun o fysellfwrdd ar gyfer person â nam ar y golwg

Yn aml, mae cleientiaid yn cael eu hannog i fynd yn ddigidol gan deulu (wyrion ac wyresau gan amlaf), ffrindiau neu ddyhead personol. Yr hyn rydym ni’n ceisio ei wneud dan yr amgylchiadau hynny yw trafod gyda chleientiaid pa fath o ddyfais sy’n briodol iddyn nhw. Mae hyn yn dibynnu ar eu profiad blaenorol o gyfarpar digidol a pha wasanaethau maen nhw am eu defnyddio. Felly, mae’n benderfyniad i’r unigolyn ac yn ein hachos ni mae eu golwg nhw, neu eu diffyg golwg, hefyd yn rhan o’r penderfyniad. Mae’n bwysig cydnabod bod sawl ffurf i nam ar y golwg.

Mewn llawer o achosion, mae’n anodd curo cyfrifiadur llechen fel dyfais ddigidol, ond gall hefyd fod yn rhwystr i lawer, pan nad ydyn nhw’n llwyddo i’w feistroli. Mae gan iPad/iPhone ystod wych o nodweddion Hygyrchedd mewnol, ond os, er enghraifft, ydych chi’n defnyddio VoiceOver, mae’r symudiadau (sweipio) sydd angen eu gwneud i lywio’r nodweddion yn newid yn llwyr o ddefnydd ‘arferol’. Mae’n gofyn am lawer o hyfforddiant ac ymarfer i ddechrau mynd i’r afael â hyn. A hyn heb anghofio bod y defnyddiwr yn dioddef colli ei olwg ac efallai heb ddefnyddio cyfrifiadur llechen neu ffôn clyfar o’r blaen, neu mewn rhai achosion heb ‘weld’ gwefan o’r blaen.

Nid oes gan gyfrifiaduron llechen a ffonau Android gymaint o nodweddion Hygyrchedd, ond am bris ychwanegol gallwch osod meddalwedd, fel Synapptic, sy’n symleiddio ei ddefnydd yn sylweddol. Gall eu nodweddion ddarparu’r rhan fwyaf o’r hyn sydd ei angen.

Gallwch brynu ffonau sydd wedi’u datblygu ar gyfer pobl â nam ar y golwg. Mae siaradwyr clyfar, fel Amazon Echo, yn ffefryn ond os oes angen mwy na’r nodweddion sylfaenol, mae’n rhaid talu am danysgrifiad. Bydd angen ei osod hefyd, a byddwch angen cyfeiriad e-bost a chyfrif Amazon, gyda manylion cerdyn credyd os defnyddir gwasanaethau ychwanegol. Anodd i wirfoddolwr.

Ffefryn arall yw Llyfrau Llafar a gellir lawrlwytho’r rhain i’r rhan fwyaf o ddyfeisiau drwy ddefnyddio apiau neu nodweddion mewnol. Eto, gallwch brynu’r gwasanaeth hwn neu hyd yn oed ddefnyddio ap llyfrgell leol i lawrlwytho am ddim. I lawer o bobl â nam ar y golwg mae’r rhain yn newid eu bywydau. Mae dyfeisiau eraill ar gyfer gwrando ar Lyfrau Llafar, rhai’n gludadwy, rhai drwy USB ac eraill fel chwaraewyr CD arbennig. Gallai’r rhain fod yn fwy addas na chyfrifiadur llechen.

Mae defnyddio unrhyw un o’r rhai uchod yn dibynnu ar hyfforddiant a mynediad at gefnogaeth. Mae hefyd angen i’r hyfforddwr fod yn ymwybodol o’r cyfarpar, meddalwedd ac apiau sydd ar gael, yn addas ac yn fforddiadwy. Mae angen diweddaru trwch y wybodaeth yn rheolaidd. I annog pobl i gamu i’r byd digidol, mae’n rhaid iddo fod yn berthnasol a buddiol i’r unigolyn.