Neidiwch i’r prif gynnwys

O feinyl i ddigidol a phob oes gerddoriaeth yn y canol …….

Mae cynghorydd CDC, Russell Workman, yn rhannu ei angerdd am gerddoriaeth ac yn myfyrio ar sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd gyda chyflwyniad opsiynau digidol ar gyfer gwrando.

Chwaraewr recordiau Vinyl

Ymwadiad: Mae’r apiau a’r gwefanau yr ydym yn ei trafod yma yn bodoli fel opsiynau yn hytrach nac argymhellion. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw broblem y byddwch yn ei brofi yn sgil eich defnydd o’r apiau neu wefanau hyn.

“Music was my first love and it will be my last.  Music of the future and music of the past.”  Felly y canodd John Miles, ac felly canaf innau hefyd.  Rydw i wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth.  Pob math o gerddoriaeth, y modern a’r clasurol, y swnllyd a’r tawel.  Rydw i wedi gweld cymaint o newid mewn fformatau cerddoriaeth yn ystod fy oes.  Dydw i ddim yn ddigon hen i gofio recordiau 78, ond roedd finyl 45 a recordiau chwarae hir yn troelli ar 33 1/3 rpm yn rhan o’m plentyndod.  Gallaf gofio’n iawn arogl y finyl a oedd yn llenwi’r casys recordiau yn ystafell ffrynt fy mam-gu a’m tad-cu.  Y sŵn hisian a chlecian wrth i’r nodwydd fach â blaen diemwnt lanio ar y sianel droelli, yna eiliadau’n ddiweddarach, canu cynnes Bing Crosby, rock’n’roll y Beatles neu lais gogoneddus y Cymro Ryan Davies yn y Top Rank Suite yn Abertawe, yn arllwys drwy hud o ddau seinydd tîc oedd wedi eu gosod yn uchel ar y waliau a oedd wedi’u gorchuddio â phapur wal anaglypta.

Yna’r 80au, ac er gwaethaf dyfodiad senglau 12” roedd finyl yn gorfod cystadlu yn erbyn casetiau, a’u harf fwyaf – y Walkman!  Pam buddsoddi mewn finyl a allai gamu, crafu a neidio pan allech chi fentro y tu hwnt i’ch ystafell wely a gwrando ar seiniau’r don newydd gan gynnwys Duran Duran, Spandau Ballet ac Adam & the Ands wrth i chi gerdded fel Travolta o amgylch y pentref?  Frankie Says Relax, mae’r dyfodol yma, ac os yw’r dyfodol yn dechrau datod, wel gallwch ei dynhau gyda phensil.   Ond nid casetiau yn unig oedd y dyfodol, a chyn diwedd y ddegawd roedd chwyldro’r CD a’i sain glir, fel cerddorfa yn eich ystafell fyw, wedi cyrraedd.

I’r rheini ohonom a oedd wedi gwylio’n awchus wrth i CD gael ei gorchuddio â jam ar Tomorrow’s World ac, o’i roi yn y peiriant chwarae, yn dal i chwarae; i ni roedd hyn yn hudolus!  Nid oedd y realiti’n union yr un fath a sylweddolodd pawb yn fuan y gallai olion bysedd ar CD arwain at sŵn fel pe bai’r canwr yn canu’r un sill drosodd a throsodd, ad infinitum.  Ac felly erbyn hyn, mae silffoedd ar silffoedd o unedau Gnedby ceiniaf IKEA yn ochneidio â chesys yn cynnwys myrdd o gerddoriaeth a brynwyd dros dri degawd (ac, oeddwn, roeddwn i’n prynu o glwb CDs Britannia!).

Ond erbyn hyn mae’r cyfan – y cesys recordiau, y seinyddion tîc, deciau hi-fi, cymysgiadau 12”, y Walkman, ‘boom boxes’, CDs ac unedau Gnedby – i gyd wedi’u cynnwys yn y ddyfais fechan yr wy’n ei chario yn fy mhoced.  Maen nhw i gyd yno.  Bing, Elvis (Presley a Costello), Madonna, Oasis a Mario Lanza.  Mae hyd yn oed John Miles yno.  Mae Spotify yn cynnwys synau llawen y Nadolig a’r gwyliau.  Mae’n caniatáu i mi ailddarganfod caneuon yr oeddwn i wedi hen anghofio amdanyn nhw a dod o hyd i gerddoriaeth na allai unrhyw faint o chwilio mewn siopau recordiau ail-law llychlyd ddod o hyd iddynt.  Ac mae’n mynd gyda fi i bobman.  Mae’n chwarae nawr wrth i mi ysgrifennu.  Mae’n teithio gyda mi yn y car pan fyddaf yn gyrru.  Ac, yn anad dim, mae bellach yn cael ei ffrydio drwy glustffonau diwifr wrth i mi gerdded o amgylch fy mhentref… fel Travolta.

I gael mwy o wybodaeth am gadw’ch hun yn brysur ar-lein, ewch i padlet Cadw’n Brysur gan Gymunedau Digidol Cymru sy’n cynnwys dolenni, adnoddau a chyngor a allai fod o ddefnydd. O dan yr adran ‘Gweminarau a Chefnogaeth Rithwir’, gallwch gyrchu recordiad o’n gweminar rhagarweiniol Cadw’n Brysur.